Top of the page

Cyfweliad gyda Charlie Barber

O wybod am lwyddiant diweddar The Artist, mae’n ymddangos bod perfformiadau Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru eleni wedi eu hamseru’n berffaith. Nid bod neb wedi trefnu i bethau fod felly. ‘18 mis yn ôl oedd y tro cyntaf i Tŷ Cerdd sôn wrtha’ i am y prosiect hwn,’ meddai Charlie Barber wrthyf, ‘felly doedd neb yn gwybod am The Artist.’ Mae’n serendipaidd fod y perfformiadau byw hyn o sgôr newydd Barber ar gyfer The Fall of the House of Usher, gwaith sydd wedi’i adlunio’n ddiweddar, yn digwydd mewn hinsawdd lle mae’r diddordeb mewn ffilmiau mud wedi ailgydio.

Charlie Barber

Mae’r ffurf wedi bod yn un sy’n agos at Barber ers i’w gwmni cynhyrchu, Sound Affairs, ddechrau gwneud prosiectau ar ddiwedd y 90au oedd yn rhoi lle amlwg i berfformiadau o sgoriau ffilm newydd eu cyfansoddi. ‘Sylweddolais ei fod yn gyfrwng digon dymunol i weithio ynddo. Roedd yn gymharol hawdd ei gario ar daith ac, o safbwynt marchnata, roedd rheolwyr y mannau cyfarfod yn gallu ei weld fel rhywbeth diddorol i’w werthu i’w cynulleidfaoedd. Yn wahanol i gyngherddau cerddoriaeth gyfoes, lle mae’n anodd weithiau denu cynulleidfaoedd, gyda rhywbeth fel hyn, ocê fe fyddech yn delio â cherddoriaeth gyfoes, ond roedd ’na hefyd agwedd weledol.’

Y ffilmiau mud cynnar yw’r rhai sy’n ymddangos fel y rhai mwyaf ystyrlon yn hanes Barber. Tra bod masgynhyrchu diwylliant yn gallu bod yn rhwystr i rai, mae e’n eu hystyried yn gyswllt aruthrol â’r gorffennol. ‘Mae’r holl bobl, y perfformiadau a’r personoliaethau rhyfeddol hyn wedi eu dal ar seliwloid ac maen nhw yno hyd dragwyddoldeb fwy neu lai.’ Ond y cyfosodiad rhwng y gorffennol a’r presennol yw’r hyn sy’n ei swyno fwyaf, ‘oherwydd mae’r gerddoriaeth fyw yn aml yn pwmpio allan rhyw hwrdd neu egni emosiynol i’r peth yma sy’n deillio o ganrif flaenorol, ac arno gallwch weld y perfformwyr wrthi’n dangos teimlad yn eu ffordd eu hunain, ac yn eu hamser eu hunain.’

Felly, sut mae Barber yn mynd ati i gyfansoddi’r gerddoriaeth i danlinellu’r emosiwn gweledol hwn? ‘Mewn gwirionedd, nid yw’n gerddoriaeth sy’n cael ei chyfansoddi ar gyfer y ffilm, fesul golygfa, wrth i honno fynd yn ei blaen,’ meddai. ‘Nid yw wedi’i bwriadu fel rhywbeth i danlinellu’r hyn sy’n digwydd yn weledol – mae’r gerddoriaeth yn annibynnol ar y ffilm. Yr hyn sy’ wedi digwydd ambell dro yw ’mod i’n ysgrifennu adran ac unwaith y bydda’ i wedi ysgrifennu honno a ’mod i’n meddwl ei bod yn gweithio fel cerddoriaeth, yna fe fydda’ i’n chwilio am fan i’w gosod yn y ffilm.’

‘Pan fyddwch yn rhoi cynnig ar ei gosod yn erbyn y lluniau - oherwydd bod gan y gerddoriaeth ei strwythur ei hun, ei phensaernïaeth ei hun sy’n gwneud synnwyr a rhesymeg gerddorol lwyr - bydd yna fannau lle bydd rhywun yn meddwl, "bobl bach, doeddwn i ddim wedi bwriadu i hyn ddigwydd fan’na - mae hynny’n rhyfeddol." Rwy’n credu bod hynny’n fwy diddorol, achos mae’r gerddoriaeth wedi bod yn gyrru yn ei blaen hyd at y fan honno, ac efallai nad yw’r ffilm, yn weledol felly, wedi bod yn symud yr un ffordd; ond mae’n peri bod y pwynt hwnnw, o safbwynt gweledol, yn drwm gan ystyr o ryw fath. Mae’n well gen i wneud y peth fel ’na yn hytrach na cheisio cam-drin y gerddoriaeth.’

Yn 2002, llwyfannwyd y perfformiad cyntaf o fersiwn cynharach o sgôr Barber gan yr ensemble siambr Entr’acte, i gyd-fynd â fersiwn 35 munud o’r ffilm. Sut mae’r sgôr newydd hwn yn cymharu â’i ragflaenydd?

‘Roedd hi’n ddigon amlwg pan ddechreuais i ar y sgôr newydd hwn na fyddai gyda fi ddigon o ddeunydd i jest ail-sgorio’r gwreiddiol. Mae llawer o’r deunydd wedi’i ddatblygu mewn gwahanol ffyrdd, ac mae 10 mlynedd hefyd wedi mynd heibio ers i fi ysgrifennu’r sgôr blaenorol. Yn ystod y deng mlynedd hynny, rwy’n gobeithio ’mod i wedi datblygu ac mae llawer o ddylanwadau newydd wedi mynd i mewn i’r pair.’

A sut brofiad yn ei hanes fu’r broses o ail-sgorio i ensemble llawer iawn mwy? ‘Roeddwn i’n eithaf awyddus i ddefnyddio’r ensemble cyfan,’ meddai, ‘ond yr her arall yw cadw pob un o’r cerddorion yn brysur drwy’r amser, a pheidio rhoi 197 o guriadau gwag iddyn nhw!’

Joe O’Connell, Prifysgol Caerdydd

www.twitter.com/noiseclubblog

Chwiliwch am weithiau Charlie Barber