|
The NATIONAL YOUTH CHOIR OF WALES was formed by the Welsh Amateur Music Federation as a result of a pilot course held in the Bay Hotel, Aberystwyth in November 1984, to support the long-standing choral tradition of Wales and the development needed for that tradition to flourish.
Toward this end, the National Youth Choir of Wales, in association with the Friends of the Choir, regularly commissions new music in addition to exploring an international choral repertoire that spans some five centuries.
Members of the Choir, who are aged between 16 and 21 years, are drawn from all parts of Wales, and auditioned annually. They meet for occasional weekend courses, but the Choir’s main work is concentrated in a week of intensive rehearsals in the summer, followed by a series of concerts.
The majority of tutors and staff are drawn from former members of the Choir and musical directors are appointed for a three-year period. The Choir’s President, Bryn Terfel, was himself a founder member and former conductors include George Guest, Gregory Rose, John Hugh Thomas, Simon Halsey, Ralph Allwood, Jean Stanley Jones and David Rowland. The Choir’s current musical director, Islwyn Evans, was appointed in 2005.
The National Youth Choir of Wales has given concerts in London, Berlin, Leipzig, Bruges, Brussels, Paris, Vienna and Budapest and performed throughout Wales and at many of the major cathedrals in England. It broadcasts regularly on television and radio and debuts in 2007 at the BBC Proms in the Royal Albert Hall, London with the BBC National Orchestra and Chorus of Wales.
For more information, please contact us at nycow 'at' tycerdd.org
Back
|
|
Ffurfiwyd CÔR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, yn dilyn cwrs peilot a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Bae, Aberystwyth ym mis Tachwedd 1984, i gefnogi traddodiad corawl hir sefydlog Cymru yn ogystal â’r datblygu sydd ei angen er mwyn i’r traddodiad hwnnw ffynnu.
I’r diben hwn, bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn cydweithrediad â Chyfeillion y Côr, yn comisiynu darnau newydd yn rheolaidd, yn ychwanegol at archwilio repertoire corawl rhyngwladol sy’n ymestyn dros bron pum canrif.
Daw aelodau’r Côr, pob un ohonynt rhwng 16 a 21 oed, o bob rhan o Gymru, a byddant yn mynychu clyweliadau blynyddol. Trefnir iddynt gyfarfod am gyrsiau penwythnos o bryd i’w gilydd, ond mae prif waith y Côr wedi ei ganoli ar wythnos o ymarfer dwys yn ystod yr haf, gyda chyfres o gyngherddau i ddilyn.
Mae mwyafrif y tiwtoriaid a’r staff yn gyn-aelodau o’r Côr - roedd Llywydd y Côr, Bryn Terfel, yn un o’r aelodau cyntaf - a chaiff y cyfarwyddwyr cerdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd.
Ymhlith y cyn-arweinwyr mae George Guest, Gregory Rose, John Hugh Thomas, Simon Halsey, Ralph Allwood, Jean Stanley Jones a David Rowland. Penodwyd cyfarwyddwr cerdd presennol y Côr, Islwyn Evans, yn 2005.
Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cynnal cyngherddau yn Llundain, Berlin, Leipzig, Bruges, Brwsel, Paris, Fienna a Budapest, yn ogystal â pherfformio ar draws Cymru, ac mewn nifer o’r prif eglwysi cadeiriol yn Lloegr. Bydd yn darlledu’n rheolaidd ar y teledu a’r radio, ac yn 2007 bydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn Proms y BBC gan rannu llwyfan gyda Cherddorfa a Chôr Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn cocic 'at' tycerdd.org
Yn ôl
|