|
NATIONAL YOUTH JAZZ WALES is one of a range of new initiatives created under the auspices of National Youth Arts Wales. Administered by the Welsh Amateur Music Federation, NYJW seeks to provide opportunities for young musicians to work with top jazz specialists, learn new skills, and bring these skills to the concert platform.
After a successful inaugural course under the direction of John Quirk in Swansea in July 2001, National Youth Jazz Wales members were resident in North Wales in Easter 2002, also sharing the platform with the National Youth Wind Orchestra of Wales in Cardiff in June 2002.
Courses and concerts in 2003 were held in Swansea, with guest MD David Firman, and in Colwyn Bay in 2004, under the direction of its new Music Director, Jeremy Price.
In 2005 the ensemble held its Easter course at Gwersyll yr Urdd, part of the Wales Millennium Centre and gave a number of performances in the Centre’s Glanfa Foyer, again directed by Jeremy Price.
For these courses the young players formed two ensembles – a 'big-band' and a smaller, more improvisatory group, thus extending the learning and performance experience both of players and audience.
An exploratory improvisation course was held in February 2006, with an autumn course directed by Stan Salzmann, who again directs the ensemble in February, 2007.
For more information, please contact us at nyjw 'at' tycerdd.org
Back
|
|
JAZZ CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU yw un o’r nifer o fentrau newydd a ddaeth i fod o dan nawdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae JCIC yn cael ei weinyddu gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, a’i nod yw darparu cyfleoedd i gerddorion ifanc weithio gydag arbenigwyr o fri ym maes jazz, dysgu sgiliau newydd, a dwyn y sgiliau hyn i’r llwyfan mewn cyngherddau.
Yn dilyn cwrs agoriadol llwyddiannus dan gyfarwyddyd John Quirk yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2001, cynhaliwyd cwrs preswyl i aelodau band JCIC yng ngogledd Cymru yn ystod Pasg 2002, a bu’r ensemble hefyd yn rhannu llwyfan gyda Cherddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2002. Cynhaliwyd cyrsiau a chyngherddau yn 2003 yn Abertawe, gyda David Firman yn Gyfarwyddwr Cerdd gwadd, ac ym Mae Colwyn yn 2004, o dan arweiniad Jeremy Price, y Cyfarwyddwr Cerdd newydd.
Eleni, cynhaliwyd cwrs Pasg yr ensemble yng Ngwersyll yr Urdd, sy’n rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru a rhoddwyd nifer o berfformiadau yn Oriel y Lanfa yn y Ganolfan, unwaith eto dan gyfarwyddwyd Jeremy Price. Ffurfiwyd dau ensemble o chwaraewyr ifanc ar gyfer y cyrsiau hyn - 'big band' ynghyd â grŵp perfformio byrfyfyr, llai o ran maint, er mwyn ehangu profiadau dysgu a pherfformio’r chwaraewyr a’r gynulleidfa fel ei gilydd.
Cynhaliwyd cwrs arbrofol ar gyfansoddi ar y pryd ym mis Chwefror 2006, yn ogystal â chwrs yr Hydref, dan gyfarwyddyd Stan Salzmann, a fydd, unwaith eto yn arwain yr ensemble ym mis Chwefror 2007.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn jcic 'at' tycerdd.org
Yn ôl
|