Top of the page

Cyfarfod i gantorion

10:00 Ystafell Victor Salvi, Canolfan Mileniwm Cymru 07/06/2014

Kate Woolveridge: ennyn hyder yn eich llais

kate woolveridgeMae Kate yn un o fezzo sopranos mwyaf poblogaidd Cymru. O glywed yr harddwch a chyfoeth yn ei llais ynghyd â’i phersonoliaeth dymunol does dim syndod ei bod wedi mor llwyddiannus ar lwyfan operatig a chyngerdd. Yn ystod ei gyrfa mae wedi gweithio'n helaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Glyndebourne, Opera Cenedlaethol Lloegr, Gŵyl Opera Wexford ac Opera Dinas Abertawe, Travelling Opera a Opera Box.


Mae hi wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Menyw Ysbrydoledig y flwyddyn 2012 am ei gwaith dros bobl sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr.

Mae'n recordio’n rheolaidd ar gyfer teledu ac mae wedi rhoi cannoedd o gyngherddau a pherfformiadau ar draws Prydain. Yn ddiweddar, mae hi wedi cymryd ymroi i ddau gomisiwn newydd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, gan weithio gyda'r bardd Cymreig, Gwyneth Lewis a'r cyfansoddwr, Mervyn Burtch ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar opera i ffilm ar gyfer yr un cwmni.


Mae Kate wedi gwneud enw iddi hun fel animeiddiwr lleisiol. Mae hi wedi rhedeg nifer o brosiectau canu cymunedol ar gyfer oedolion a phlant i Opera Cenedlaethol Cymru, Y Tŷ Opera Brenhinol ac Opera Holland Park.

Mae hi wedi gwneud gweithdai canu ar draws y DU ac mae wedi gweithio gyda menywod yng ngharchar Holloway ac mae wedi sefydlu côr meibion ​​yng ngharchar mwyaf Cymru i ddynion. Mae hi hefyd yn dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Eleni mae hi’n ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru am dymor y gwanwyn a'r haf ac yn edrych ymlaen at ganu Mrs. Noah yn eglwysi cadeiriol Caerwrangon a Chaerloyw. Bydd hi hefyd yn cymryd rôl arweiniol mezzo mewn opera newydd a gomisiynwyd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru ac yn edrych ymlaen at roi cyfres o berfformiadau ar fordaith o'r Fjords Norwyeg.

WNO