Top of the page

Cynhadledd Tŷ Cerdd

ty cerdd logo bach

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi manylion cynhadledd gyntaf Tŷ Cerdd. Bydd y digwyddiad cyffrous yma, i gantorion ac offerynwyr, yn cael ei chynnal dros benwythnos 6-8 o Fehefin yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gyda derbyniad agoriadol yn y Senedd.

Mae ein partneriaid yn cynnwys: Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Making Music er mwyn cyflwyno’r siaradwyr gorau i chi. Ein prif siaradwyr eleni fydd y cyfansoddwr Paul Mealor, yr arbenigwr pres Howard Snell, ac Adrian Partington o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Mi fydd sesiynau eraill o dan ofal y cyfansoddwr Cymreig Mervyn Burtch ac Andrew Duncan o Gymdeithas Band Pres yr Alban.

Ar y nos Sadwrn ceir cyngerdd gan BBC NOW a fydd yn canolbwyntio yn uniongyrchol ar ddeunydd o archif Tŷ Cerdd megus Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias.

Rydym yn gallu cynnig hyn oll i'n haelodau am bris gofrestru o £5.00 (mynediad yn £20 i eraill). Mynediad am ddim i fyfyrwyr.

Ein bwriad yw cynnal nifer o gynadleddau i ddathlu gwaith Tŷ Cerdd a'i aelodau gymdeithasau. Mae cynllunio wedi cychwn ar gyfer y digwyddiad nesaf, yr ydym yn gobeithio cynnal yng Ngogledd Cymru, a bydd eich adborth yn ein helpu i’w lunio.

Gwyn L Williams, Cyfarwyddwr

WMC The Glow (mono)WNO


MM_Wales__LOGOSTRAP_final (3)Age Cymru Logo CMYK (Master)Gwanwyn Logo (colour)