Top of the page

Cerddorfa Chwyth

Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru

A hithau bellach yn ei 14eg blwyddyn, mae Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CChGIC) wediClarinetist 1 ennill bri rhagorol fel un o onsomblau chwyth symffonig mwyaf blaenllaw'r DU. Mae ei pherfformiadau yng Nghymru yn ogystal â thros y môr - yn enwedig ei arbenigedd, sef perfformiadau o’r repertoire cyfoes - wedi bod wrth fodd calon y beirniaid yn gyffredinol.

Onsombl chwyth symffonig ac iddo 52 o aelodau yw CChGIC a chaiff yr aelodau hyn o bob cwr o Gymru eu dewis drwy gyfrwng clyweliad blynyddol. Ffurfwyd y Gerddorfa Chwyth yn 2002 gan Tŷ Cerdd - Music Centre Wales, dan ymbarél Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu Ben Gernon, Nigel Boddice, Marco Pütz, Tim Reynish a Simon Wills yn arweinyddion y Gerddorfa.