Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL


Tŷ Cerdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn lansio affricerdd: sef cyfleoedd cerdd a dawns i artistiaid o dras Affricanaidd
Mae Tŷ Cerdd (Canolfan Cerddoriaeth Cymru) a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – mewn partneriaeth â Phanel Cynghori Is-Sahara – yn cyhoeddi galwad i artistiaid dawns a chrewyr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Mae affricerdd Tŷ Cerdd yn llinyn i Tapestri, sef menter newydd (wedi’i hariannu gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru) i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru.
CYFLEOEDD AFFRICERDD
5 crëwr cerddoriaeth a 5 artist dawns i’w comisiynu i gydweithio ar 5 fideo gerddoriaeth wreiddiol.
Bydd crewyr cerddoriaeth o unrhyw genre cerddorol yn cael eu comisiynu i greu gwaith newydd (ar gyfer unrhyw gyfrwng cerddorol: offerynnol, electronig, etc). Bydd yr artist dawns yn coreograffu ac yn creu ffilm dawns i’r gwaith cerddorol.
Y ffi comisiwn i bob un o’r 10 artist fydd yn cymryd rhan yw £1,000
– a hynny i gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig (e.e. perfformwyr; technegol, etc)
Cȃn: affricerdd
Caiff 5 crëwr cerddoriaeth o unrhyw genre cerddorol eu comisiynu i gyfansoddi cân newydd (mewn unrhyw iaith), ac i greu fideo gerddoriaeth o’r gwaith newydd.
Y ffi comisiwn i bob un o’r 5 artist fydd yn cymryd rhan yw £1,000
(Sylwer: mae bwrsariaeth ychwanegol o hyd at £250 yr un ar gael tuag at gostau recordio/fideograffeg.)
SUT I YMGEISIO
crewyr cerddoriaeth
Ceisiadau dros e-bost i ymholiadau@tycerdd.org a rhaid iddynt gynnwys:
-
Enw / oedran / cyfeiriad / cyfeiriad e-bost (rhaid i chi fod o dras Affricanaidd i fod yn gymwys i’r cyfle hwn)
-
Paragraff ynghylch pam fod y cyfle hwn o ddiddordeb i chi
-
2 ddolen i’ch cerddoriaeth (sylwer: unrhyw arddull neu raddfa cerddoriaeth; nid oes raid iddo fod wedi’i recordio’n broffesiynol)
-
Croesawir ceisiadau ar fideo hefyd (yn hytrach nag yn ysgrifenedig). Yn eich cais ar fideo (dim hirach na 5 munud), trafodwch y pwyntiau bwled uchod ac atodwch y fideo i’ch e-bost
-
Sylwer: rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer sesiwn grŵp dechreuol – ddydd Mawrth 7 Medi am 11:00
artistiaid dawns
Ceisiadau dros e-bost i saoirse@ndcwales.co.uk a rhaid iddynt gynnwys:
-
Enw / oedran / cyfeiriad / cyfeiriad e-bost
-
Paragraff ynghylch pam fod y cyfle hwn o ddiddordeb i chi
-
Paragraff am eich ymarfer a’ch profiad dawnsio hyd yn hyn
-
Croesawir ceisiadau ar fideo hefyd (yn hytrach nag yn ysgrifenedig). Yn eich cais ar fideo (dim hirach na 5 munud) trafodwch y pwyntiau bwled uchod ac atodwch y fideo i’ch e-bost
-
Sylwer: rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer sesiwn grŵp dechreuol – ddydd Mawrth 7 Medi am 11:00
paneli dewis
Plethu: affricerdd dewis crewyr cerddoriaeth
-
Fadhili Maghiya (Cyfarwyddwr, Panel Cynghori Is-Sahara)
-
Deborah Keyser (Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd)
-
Ben Wright (Ymgynghorydd Arweinyddiaeth Artistig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
-
Steph Power (Cadeirydd Tŷ Cerdd)
Plethu: affricerdd dewis artistiaid-dawns
-
Ben Wright (Ymgynghorydd Arweinyddiaeth Artistig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
-
Fadhili Maghiya (Cyfarwyddwr, Panel Cynghori Is-Sahara)
-
Deborah Keyser (Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd)
-
Martin Hylton (artist dawns; Ymddiriedolwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
Cȃn: affricerdd dewis crewyr cerddoriaeth
-
Steph Power (Cadeirydd Tŷ Cerdd)
-
Fadhili Maghiya (Cyfarwyddwr, Panel Cynghori Is-Sahara)
-
Deborah Keyser (Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd)
AMSERLEN
-
Dyddiad olaf derbyn ceisiadau: Dydd Llun 23 Awst, 10:00
-
Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr llwyddiannus: wythnos yn
dechrau 31 Awst -
Sesiwn grŵp dechreuol: dydd Mawrth 7 Medi, 11:00
YMHOLIADAU
Os oes gennych ymholiad neu os hoffech drafod eich cais, cysylltwch â’r canlynol:
-
ar gyfer crewyr cerddoriaeth: shakira.mahabir@tycerdd.org
-
ar gyfer artistiaid dawns: saoirse@ndcwales.co.uk




