Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL

BWRSARIAETHAU WOMEX 2023
WOMEX – sef Worldwide Music Expo – yw ymgasgliad mwyaf y sîn gerddoriaeth fyd-eang, ac mae’n cynnwys ffair fasnach, cynhadledd, a rhaglen o gyngherddau arddangos. Cynhelir y digwyddiad eleni yn A Coruña (Galisia, Sbaen) rhwng 25 a 29 Hydref, ac mae Tŷ Cerdd (gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi 4 sefydliad a 4 unigolion i fynychu fel cynrychiolwyr.
Tŷ Cerdd (Canolfan Gerdd Cymru) a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru fydd yn gofalu am bresenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr arddangosfa dan frand Horizons y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Os hoffai unrhyw sefydliad neu artist wybod mwy am WOMEX, y cyfleoedd y gall ei gynnig a’r bwrsariaethau rydyn ni’n eu cynnig, rydyn ni’n cynnal sesiwn dros Zoom ddydd Mawrth 11 Gorffennaf am 17:00. Bydd Eluned Haf (Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Danny KilBride (Cyfarwyddwr Trac Cymru), Gareth Churchill (crëwr cerddoriaeth), Jeferson Lobo (crëwr cerddoriaeth) a Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd) yn siarad am y digwyddiad a bydd amser i holi a thrafod. Cofrestrwch yma
Manylion ymgeisio a’r dyddiad cau
SEFYDLIADAU
Mae 4 bwrsariaeth £600 ar gael.
I ymgeisio, lanlwythwch yr wybodaeth ganlynol i’n PORTH erbyn 10:00 ddydd Llun 31ain Gorffennaf:
1. Enw’r sefydliad, cyfeiriad, dolenni i wefan/cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol
2. Manylion y person fyddai’n mynychu: enw, swydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol
3. Disgrifiad byr o waith y sefydliad (hyd at 100 gair)
4. Ydych chi neu eich sefydliad wedi mynychu WOMEX o’r blaen? Os do, beth ddeilliodd o wneud hynny? (hyd at 100 gair)
5. Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2022? (hyd at 200 gair)
Sylwer: Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 3, 4 a 5 uchod (hyd at 4 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, e-bostiwch ni am help.
UNIGOLION
Mae 4 bwrsariaeth £1000 ar gael.
I ymgeisio, lanlwythwch yr wybodaeth ganlynol i’n PORTH erbyn 10:00 ddydd Llun 31ain Gorffennaf:
1. Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, dolenni i gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol
2. Dwy ddolen at sain/fideo o’ch cerddoriaeth (os ydych yn creu cerddoriaeth)
3. Disgrifiad byr o’ch ymarfer/gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair); os ydych yn artist anfonwch 2 ddolen at sain/fideo o’ch cerddoriaeth
4. Ydych chi wedi mynychu WOMEX o’r blaen? Os do, beth ddeilliodd o wneud hynny? (hyd at 100 o eiriau)
5. Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2023? (hyd at 200 gair)
Sylwer: Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 3, 4 a 5 uchod (hyd at 4 munud), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, e-bostiwch ni am help.
Nodiadau i ymgeiswyr
-
Genre Mae WOMEX yn cwmpasu rhychwant eang yn artistig, yn amrywio o’r mwyaf traddodiadol i’r tanddaearol lleol byd-eang newydd, gan gofleidio diwylliannau gwerin, roots, jazz, lleol ac alltud cymaint â synau trefol ac electronig o bob rhan o’r byd.
-
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hesgeuluso neu eu gwahardd o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
-
Ymholiadau Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau, y digwyddiad, gofynion mynediad, neu eisiau trafod cais posibl, e-bostiwch a gallwn drefnu sgwrs ffôn.
-
Panel Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Danny KilBride (Trac), Eluned Haf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru)
-
Llinell Amser Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniadau erbyn dydd Llun 14 Awst.
