top of page

BWRSARIAETHAU 2022 WOMEX

WOMEX – Worldwide Music Expo – yw ymgasgliad mwyaf y sîn gerddoriaeth fyd-eang, ac mae’n cynnwys ffair fasnach, cynhadledd, a rhaglen o gyngherddau arddangos. Cynhelir y digwyddiad eleni yn Lisbon (Portiwgal) rhwng 19 a 23 Hydref, ac mae Tŷ Cerdd (gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi sefydliadau ac unigolion i fynychu fel cynrychiolwyr.

womex webpage corner CYM.png

Tŷ Cerdd (Canolfan Gerdd Cymru), Trac Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru fydd yn gofalu am bresenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr arddangosfa dan frand Horizons y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Os hoffai unrhyw sefydliad neu artist wybod mwy am WOMEX, y cyfleoedd y gall ei gynnig a’r bwrsariaethau rydyn ni’n eu cynnig, rydyn ni’n cynnal sesiwn dros Zoom ddydd Mawrth 19 Gorffennaf am 17:00. Bydd Tumi Williams (cerddor; artist-reolwr), Eluned Haf (Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Danny KilBride (Cyfarwyddwr Trac Cymru) a Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd) yn siarad am y digwyddiad a bydd amser i holi a thrafod. Cofrestrwch yma

MANYLION YMGEISIO A'R DYDDIAD CAU

SEFYDLIADAU

Mae 5 bwrsariaeth £500 ar gael. Anfonwch neges e-bost at Jodi Voyle yn ateb y cwestiynau canlynol erbyn 18:00 ddydd Llun 1 Awst (derbynnir ceisiadau ar fideo hefyd – anfonwch fideo nad yw’n hirach na 5 munud yn ateb y pwyntiau bwled isod)

  • Enw’r sefydliad, cyfeiriad, dolenni i wefan/cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Manylion y person fyddai’n mynychu: enw, swydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol

  • Disgrifiad byr o waith y sefydliad (hyd at 100 gair)

  • Ydych chi neu eich sefydliad wedi mynychu WOMEX o’r blaen? Os do, beth ddeilliodd o wneud hynny? (hyd at 100 o eiriau)

  • Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2022? (hyd at 200 gair) 

UNIGOLION

Mae 3 bwrsariaeth £750 ar gael. Anfonwch neges e-bost at Jodi Voyle yn ateb y cwestiynau canlynol erbyn 18:00 ddydd Llun 1 Awst (derbynnir ceisiadau ar fideo hefyd – anfonwch fideo nad yw’n hirach na 5 munud yn ateb y pwyntiau bwled isod)

  • Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, dolenni i gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Disgrifiad byr o’ch ymarfer/gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair); os ydych yn artist anfonwch 2 ddolen at sain/fideo o’ch cerddoriaeth

  • Ydych chi wedi mynychu WOMEX o’r blaen? Os do, beth ddeilliodd o wneud hynny? (hyd at 100 o eiriau)

  • Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2022? (hyd at 200 gair) 

NODIADAU I YMGEISWYR

  •  Genre  Mae WOMEX yn cwmpasu rhychwant eang yn artistig, yn amrywio o’r mwyaf traddodiadol i’r tanddaearol lleol byd-eang newydd, gan gofleidio diwylliannau gwerin, roots, jazz, lleol ac alltud cymaint â synau trefol ac electronig o bob rhan o’r byd.

  •  Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hesgeuluso neu eu gwahardd o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

  • Ymholiadau Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau, y digwyddiad, gofynion mynediad, neu eisiau trafod cais posibl, e-bostiwch Jodi Voyle a gallwn drefnu sgwrs ffôn.

  • Panel Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Danny KilBride (Trac), Eluned Haf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Tumi Williams (artist; artist-reolwr)

  • Llinell Amser Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniadau erbyn dydd Llun 8 Awst

WOMEX logo strip.png
bottom of page