Caniadaeth y Cysegr

Côrdydd a CÔR yn canu trefniannau Jeffrey Howard o rhai o'n hoff emynau

TCR026

Mae 2019 yn dynodi 70 mlynedd ers i ddarllediad wythnosol pwysig BBC Radio Cymru o emynau Cymraeg, Caniadaeth y Cysegr, ddod yn ddarllediad wythnosol ar y radio – erbyn hyn dyma’r gyfres radio fwyaf hirhoedlog yn y Gymraeg. Mae’r albwm hwn yn casglu trefniannau gan y cyfansoddwr a’r organydd Jeffrey Howard o’n hoff emynau – gan gynnwys Calon Lân, Cwm Rhondda a Gwahoddiad - a berfformir gan ddau gôr nodedig o Gaerdydd, Côrdydd a CÔR, o dan eu harweinwyr Huw Foulkes ac Osian Rowlands.

2019 marks 70 years since Caniadaeth y Cysegr, BBC Radio Cymru’s flagship weekly broadcast of Welsh hymns, became a weekly broadcast – it is now the longest-running radio series in the Welsh language. This release collects arrangements by composer and organist Jeffrey Howard of Wales's favourite hymns – including Calon Lân, Cwm Rhondda and Gwahoddiad – performed by two remarkable Cardiff-based choirs, Côrdydd and CÔR, under their directors Huw Foulkes and Osian Rowlands.

Track list - click for more information / Rhestr traciau - cliciwch am fwy o wybodaeth

1 Rhagluniaeth fawr y nef (Builth)


David Jenkins; David Charles

Rhagluniaeth fawr y nef, Mor rhyfedd yw Esboniad helaeth hon O arfaeth Duw: Mae'n gwylio llwch y llawr, Mae'n trefnu lluoedd nef, Cyflawna'r cwbwl oll O'i gyngor ef. Llywodraeth faith y byd Sydd yn ei llaw, Mae'n tynnu yma i lawr, Yn codi draw: Trwy bob helyntoedd blin, Terfysgoedd o bob rhyw, Dyrchafu'n gyson mae Deyrnas ein Duw. Ei th'wyllwch dudew sydd Yn olau gwir, Ei dryswch mwyaf, mae Yn drefen glir; Hi ddaw â'i throeon maith Yn fuan oll i ben, Bydd synnu wrth gofio'r rhain Tu draw i'r llen.




2 Mi glywaf dyner lais (Gwahoddiad)


Lewis Hartsough; Ieuan Gwyllt Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi 'meiau gyd,
Yn afon Calfari.

Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi'n burlan yn y gwaed[9]
A gaed ar Galfari.

Yr Iesu sy'n fy ngwadd,
I dderbyn gyda'i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.

Yr Iesu sy'n cryfhau,
O'm mewn Ei waith trwy ras;
Mae'n rhoddi nerth i'm henaid gwan,
I faeddu 'mhechod cas.

Gogoniant byth am drefn,
Y cymod a'r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed.




3 Os gwelir fi bechadur (Clawdd Madog)


D Christmas Williams; Casgliad Harri Siôn, Dafydd Morris, Hannah Joshua Os gwelir fi, bechadur, Ryw ddydd ar ben fy nhaith, Rhyfeddol fydd y canu a newydd fydd yr iaith, Yn seinio buddugoliaeth Am iachawdwriaeth lawn heb ofni colli'r frwydyr Na bore na phrynhawn. Fe genir ac fe genir Yn nhragwyddoldeb maith Os gwelir un pererin Mor llesg ar ben ei daith, A gurwyd mewn tymhestloedd, A olchwyd yn y gwaed, A gannwyd ac a gadwyd drwy'r iachawdwriaeth rad. Os dof fi drwy'r anialwch Rhyfeddaf fyth dy ras, A'm henaid i lonyddwch 'R ôl ganwaith golli'r maes; y maglau wedi eu torri, A'm traed yn gwbwl rydd: Os gwelir fi fel hynny, Tragwyddol foli a fydd. [Os caiff y fath bechadur, Sydd ffiaidd, aflan, noeth, O flaen dy orsedd sefyll, Pan byddo'r byd yn boeth; A'm dyled wedi thalu, A'r orsedd-faingc yn rhydd, A'r Iesu arna'i'n gwenu, Fy nghan un fythol fydd.]




4 Dwy law yn erfyn (Y Darlun)


Davey Davies; T Rowland Hughes © Dr Nigel Williams Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun
Wrth ymyl fy ngwely i;
Bob bore a nos, mae'u gweddi'n un dlos,
Mi wn er na chlywaf hi.

Pan af i gysgu, mae'r ddwy law hynny
Wrth ymyl fy ngwely i;
Mewn gweddi ar Dduw, i'm cadw i'n fyw,
Mi wn er na chlywaf hi.

A plan ddaw'r bore, a'r wawr yn ole
Wrth ymyl fy ngwely i;
Mae'r weddi o hyd, yn fiwsig i gyd
Mi wn er na chlywaf hi.

Rhyw nos fach dawel, fe ddwg yr awel
O ymyl fy ngwely i;
Y weddi i'r sêr, fel eos o bêr
A minnau'n ei chlywed hi.




5 Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd (Cwm Rhondda)


John Hughes; Ann Griffiths Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd:
Er mai o ran yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae. Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma'r llywydd ar y môr. Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu a'm Iesu mawr:
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.




6 Rho im yr hedd (Rhys)


WJ Evans; Elfed © Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,
hedd, nefol hedd, a ddaeth drwy ddwyfol loes;
pan fyddo’r don ar f’enaid gwan yn curo
mae’n dawel gyda’r Iesu wrth y groes. O rho yr hedd na all y stormydd garwaf
ei flino byth na chwerwi ei fwynhad
pan fyddo’r enaid ar y noson dduaf
yn gwneud ei nyth ym mynwes Duw ein Tad. Rho brofi’r hedd a wna im weithio’n dawel
yng ngwaith y nef dan siomedigaeth flin;
heb ofni dim, ond aros byth yn ddiogel
yng nghariad Duw, er garwed fyddo’r hin. O am yr hedd sy’n llifo megis afon
drwy ddinas Duw, dan gangau’r bywiol bren:
hedd wedi’r loes i dyrfa’r pererinion
heb gwmwl byth na nos, tu hwnt i’r llen.




7 Nid wy’n gofyn bywyd moethus (Calon Lân)


John Hughes; Gwyrosydd Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd. Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i'r nef ar adain cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.




8 Iesu, cyfaill f’enaid cu (Aberystwyth)


Joseph Parry; John Hughes Iesu, cyfaill f'enaid cu, I dy fynwes gad im' ffoi. Tra bo'r dyfroedd o bob tu, A'r ym tymhestloedd yn crynhoi. Cudd fi, O fy Mhrynwr! cudd, Nes 'r el heibio'r storom gref; Yn arweinydd imi bydd Nes im' dd'od i dyernas nef. Noddfa arall gwn nid oes, Ond Tydi i'm henaid gwan; Ti, fu farw ar a groes Yw fy nghymorth yn mhob man; Ynot, O fy Iesu! mae Holl ymddiried f'enaid byw: nerth rho imi i barhau, Nes dod adref, at fy Nuw. Pob peth ynot, Iesu, mae; Mwy na phopeth ynot sydd; Cyfod Di'r syrthiedig rai, Ac i'r cleifion meddyg bydd; I'r gwangalon cysur rho, Deillion tywys yn dy ffyrdd; Ninnau yn dragyddol rown Ar dy ben fendithion fyrdd. Gras sydd ynot fel y mor, Gras i faddeu fy holl fai; Boed i'w ffrydiau, Arglwydd Iôr! Oddi wrth bechod fy nglanhau; Ffynnon bywyd f'enaid gwiw, Rhydd im' gysur ar fy nhaith, Llona f'ysbryd tra b'wyf byw, Tardd i dragwyddoldeb maith!




9 Fy Arglwydd Dduw, daw im (Mor fawr wyt Ti)


Swedish melody/Alaw Swedaidd; Stuart K Hine; cyf. EH Griffiths © Integrity Music

Fy Arglwydd Dduw, daw im barchedig ofon
wrth feddwl am holl waith dy ddwylo di,
yng nghân y sêr a rhu y daran ddofon,
drwy'r cread oll, dy rym a welaf i:

Cân f’enaid cân, fy Arglwydd Dduw, i ti,
mor fawr wyt ti, mor fawr wyt ti;
cân f’enaid, cân, fy Arglwydd Dduw, i ti,
mor fawr wyt ti, mor fawr wyt ti.

Wrth fynd am dro drwy'r glennydd teg a'r dolydd,
a gwrando cân yr adar yn y gwŷdd,
a bwrw trem o gopa uchel fynydd
yn sŵn y nant neu falm yr awel rydd:

Pan ddaw i'm cof i Dduw roi'i Fab heb arbed,
a'i roi yn Iawn, tu hwnt i ddeall dyn,
ar groes o'i fodd yn dwyn fy maich i'm gwared,
i faddau 'mai rhoes ef ei waed ei hun:

Pan ddêl y Crist â bloedd y fuddugoliaeth
a'm dwyn i dref, mor llawen fyddaf fi;
ymgrymu yno wnaf mewn parchedigaeth,
gan ddatgan byth, fy Nuw, mor fawr wyt ti:




10 Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw (Pantyfedwen)


M Eddie Evans; W Rhys Nicholas © Richard E Huws Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
Tydi a roddaist imi flas ar fyw;
Fa gydaist ynof dy Ysbryd Glan,
Ni allaf, tra bwyf byw, ond canu'r gan;
'Rwyf heddiw'n gweld yr
Harddwch sy'n bywiocau;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti. Tydi yw Haul fy nydd, O! Grist y Groes,
Yr wyt yn hrddu holl orwelion f'oes;
Lle'r oedd cysgodion nos, mae llif y wawr,
Lle'r oeddwn gynt yn ddall, 'rwy'n gweld yn awr;
Mae golau imi yn de Berson hael,
Penllane fy ngorfoledd yw dy gael;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti. Tydi sy'n haeddu'r clod, Ddihalog Un,
Mae ystr bywyd ynot Ti dy Hun;
Yr wyt yn llawr'r gwacter trwy dy Air,
Daw'r pell yn agos ynot, O Fab Mair;
Mae melodiau'r cread er dy fwyn,
Mi welaf dy ogoniant ar bob twyn;
Mae'r Haleliwia yn fy enaid i,
A rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i Ti.




11 Tyrd atom ni (Berwyn)


Caradog Roberts; W Rhys Nicholas © Richard E. Huws Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni,
tro di ein nos yn ddydd;
pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi
dan lewyrch gras a ffydd. Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch,
rho inni’r doniau glân;
tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch
lle mae’r dragwyddol gân. Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion,
dwg ni i ffordd llesâd;
tydi dy hun sy’n tywys drwy’r treialon,
O derbyn ein mawrhad. Tyrd atom ni, O Dad ein Harglwydd
Iesu, i’n harwain ato ef;
canmolwn fyth yr hwn sydd yn gwaredu,
bendigaid Fab y nef.




12 Dros Gymru’n gwlad (Finlandia)


Jean Sibelius; Lewis Valentine © Catrin Gweirrul Jones

Dros Gymru’n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri,
Y winllan wen a roed i’n gofal ni;
D’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth,
A boed i’r gwir a’r glân gae1 ynddi nyth;
Er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun,
O! crea hi yn Gymru ar dy lun. O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw,
A’r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef;
A’n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau’r Addfwyn Oen.




13 Gwyn a gwridog, hawddgar iawn (Llanfair)


Robert Williams; William Williams Gwyn a gwridog hawddgar iawn,
Yw fAnwylyd,
Doniaur nef sydd yn ddon llawn
Per aidd, hyfryd;
Daear faith, nac uchder nef,
Byth ni ffeindia
Arall tebyg iddo Ef,
Haleliwia. Yn ddoi Hunan y maen llawn
Bob Trysorau
Dwyfol berffaith werth fawr iawn,
Am fy meiau
Gwir ddoethineb hedd a gras,
Gwerth fawr o ca.
Nerth i hollol garior, maes,
Haleliwia. Dyma sylfaen gadarn gref,
Trwy fy mywyd,
Credu ae edrych arno Ef
Yw fy ngwyn fyd.
Ynddo bellach trwy bob pla
Y gobeithia;
Ac mewn rhyfel canu wna. Haleliwia.
Amen, Amen, Amen.





+44 (0)29 2063 5640 / enquiries@tycerdd.org 

Keychange logo.png

Tŷ Cerdd – Music Centre Wales yn sefydliad corfforedig elusennol, Rhif Cofrestru 1152853.

Tŷ Cerdd – Music Centre Wales is a Charitable Incorporated Organisation, Registration Number 1152853