top of page

Bwrsarïau ar gael ar gyfer Classical:NEXT, Mai 2022

Classical:NEXT yw’r cynulliad byd-eang mwyaf o weithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth glasurol a genres cysylltiedig. Cynhelir y digwyddiad eleni yn Hannover, (Yr Almaen) o 17 tan 20 Mai ac mae Tŷ Cerdd (gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru) yn cynnig 6 bwrsari i gefnogi sefydliadau ac artistiaid i fynychu’r digwyddiad fel cynrychiolwyr.

Yn Classical:NEXT bydd 1,000 o weithwyr proffesiynol o bob cwr o’r diwydiant rhyngwladol – cyfansoddwyr/crewyr cerddoriaeth, perfformwyr, ensembles, rheolwyr, cyflwynwyr, cwmnïau recordiau, cyhoeddwyr, cyfryngau, addysgwyr a mwy – yn ymgasglu ar gyfer:

  • cynhadledd ryngweithiol

  • cyngherddau arddangos

  • expo

  • rhwydweithio

Bydd Tŷ Cerdd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru yn yr expo – ac yn gwahodd cyfansoddwyr/crewyr cerddoriaeth, perfformwyr a sefydliadau sydd â diddordeb i wneud cais.

 

I unrhyw sefydliadau neu artistiaid sydd am gael gwybod mwy am Classical: NEXT a’r cyfleoedd sydd ar gynnig ganddo ac ynglŷn â’r bwrsarïau rydyn ni’n eu cynnig, byddwn ni’n cynnal sesiwn Zoom ddydd Mawrth 8 Mawrth am 1600.

Naomi Belshaw (cerddor proffesiynol ac yn hen law fel cynrychiolydd yn Classical: NEXT) yn sôn am y digwyddiad a bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth. Cofrestrwch yma!

Line 1 iscm

Morals +

Interludes 
(SATB)

Manylion a dyddiad cau ceisiadau
 

SEFYDLIADAU

Mae 3 bwrsari £500 ar gael. E-bostiwch Jodi Voyle gan ateb y cwestiynau canlynol erbyn 10yb ddydd Gwener 25 Mawrth (DS: mae ceisiadau fideo hefyd yn cael eu derbyn – anfonwch eich fideo heb fod yn hirach na 5 munud gan drafod y pwyntiau bwled isod)

  • Enw, cyfeiriad, gwefan/enwau cyfryngau cymdeithasol y sefydliad

  • Manylion y person a fyddai’n mynychu’r digwyddiad: enw, swydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol.

  • Disgrifiad byr o waith y sefydliad (hyd at 100 o eiriau)

  • Ydych chi neu’ch sefydliad wedi mynychu Classical:NEXT o’r blaen? Os do, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 o eiriau)

  • Beth fyddai’ch nodau wrth fynychu’r digwyddiad yn 2022? (hyd at 200 o eiriau)

  • Rydyn ni’n gofyn i bob un o’r 3 sefydliad sy’n cael ei gefnogi fod “yn fydi” ag artist a gefnogir yn y cyfnod yn arwain at ac yn ystod y digwyddiad yn Hannover. Cadarnhewch eich bod yn barod i wneud hynny.

UNIGOLION

Mae 3 bwrsari £1,000 ar gael. E-bostiwch Jodi Voyle gan ateb y cwestiynau canlynol erbyn 10yb ddydd Gwener 25 Mawrth (DS: mae ceisiadau fideo hefyd yn cael eu derbyn - anfonwch eich fideo heb fod yn hirach na 5 munud gan drafod y pwyntiau bwled isod)

  • Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, enwau cyfryngau cymdeithasol

  • Disgrifiad byr o’ch gwaith (hyd at 100 o eiriau) a 2 ddolen sain/glyweledol â’ch cerddoriaeth

  • Ydych chi wedi mynychu Classical: NEXT o’r blaen? Os do, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 o eiriau)

  • Beth fyddai’ch nodau wrth fynychu digwyddiad 2022? (hyd at 200 o eiriau)

  • Rydyn ni’n gofyn i bob un o’r 3 sefydliad sy’n cael ei gefnogi fod ‘yn fydi’ gydag artist a gefnogir yn y cyfnod yn arwain at ac yn ystod y digwyddiad yn Hannover. Cadarnhewch eich bod yn fodlon cael eich paru fel hyn.

Nodiadau i ymgeiswyr

  • Genre: Mae Classical:NEXT yn cwmpasu amrywiaeth artistig eang ac mae ceisiadau gan artistiaid/sefydliadau o ymylon allanol y genre yn cael eu croesawu (e.e. jazz, arbrofol, electronig)

  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Rydyn ni’n awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli  / wedi eu hesgeuluso neu eu cau allan o gymuned y celfyddydau, gan groesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig-amrywiol, pobl LGBTQ+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

  • Ymholiadau: Os oes gynnoch chi unrhyw ymholiadau ac am drafod y posibilrwydd o wneud cais, e-bostiwch  Jodi Voyle a gallwn drefnu sgwrs dros y ffôn.

  • Panel: Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Jonathan Grimes (Y Ganolfan Cerddoriaeth Gyfoes, Iwerddon), Kiddus Murrell (Tŷ Cerdd), Suzanne Griffiths-Rees (Cyngor Celfyddydau Cymru)

  • Amserlen:  Rhoddir gwybod i bob ymgeisydd ynglŷn â’r penderfyniadau erbyn 30 Mawrth

WAI_logo-3_edited.jpg
arts-council-wales-grayscale.png
bottom of page