
Pleser o’r mwyaf gynnon ni yw cyhoeddi manylion CoDI 2019/20 - blwyddyn lawn o fentrau datblygu cyfansoddwyr i adeiladu ar lwyddiant ein blwyddyn agoriadol.
Mae’r tymor newydd yn cyflwyno tri maes newydd (Sain, Testun a Symud) wrth gadw ac ychwanegu at y rhaglen Ryngweithio ganolog.
Datblygu dwys ar gyfer 6 chyfansoddwr mewn gweithdai / perfformio / recordio gydag UPROAR ynghyd ag electroneg, dan arweiniad Andrew Lewis.
Llwybrau i ysgrifennu testun i 6 chyfansoddwr mewn gweithdai / perfformio / recordio gyda’r cyfansoddwr Joseph Davies, yr awdur Kaite O’Reilly ac ensemble siambr (mewn partneriaeth â CBCDC). Rhagor o wybodaeth
SYMUD
Bydd hyd at 5 cyfansoddwr sy’n breswyl yn Academïau Hijinx yn cwrdd am 10 sesiwn hanner diwrnod, gan greu gwaith i’r maes symud. Dan arweiniad y gyfansoddwraig Tic Ashfield, gyda chefnogaeth Academi Hijinx o ran mentora / coreograffi.
RHYNGWEITHIO
FFORWM: rhwydwaith ar-lein ar gyfer cyfansoddwyr Cymreig.
HACIO: 8 cyfansoddwr yn dysgu meddalwedd / technegau electronig.
BYDI: 3 chyfansoddwr i gael eu paru â 3 grŵp perfformio sydd â’u cartref yng Nghymru.
MENTOR: 6 phâr newydd yn cael eu cyhoeddi yn y maes yma sy’n paru ffigurau blaenllaw o sîn cerddoriaeth gyfoes y DU â chyfansoddwyr Cymreig.
DPP: 4 sesiwn i gyfansoddwyr ar draws Cymru
