Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL

Yn sgil dyfarniadau ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad PRS ac Ymddiriedolaeth RVW, mae Tŷ Cerdd yn cyhoeddi rhan nesaf CoDi, sef ei rhaglen barhaus sy’n cefnogi datblygiad cyfansoddwyr a gwneuthurwyr cerddoriaeth.
Mae’r rhaglen ddiweddaraf yn cynnwys:
-
CoDi Hunan – cyfnodau encilio creadigol traws-genre i 8 o wneuthurwyr cerddoriaeth i archwilio eu hymarfer artistig eu hunain drwy gydweithio â charfan amrywiol o 6 artist
-
CoDi Arwain – llwybr cerddoriaeth siambr dan arweiniad pobl anabl ar gyfer 6 chyfansoddwr, gan weithio gyda 5 artist anabl
-
CoDi Mentoriaid – rhaglen mentora ar gyfer gwneuthurwyr cerddoriaeth yng Nghymru
-
CoDi Dan Ddaear – ymestyn a datblygu’r rhwydwaith cenedlaethol hwn o artistiaid sain a gwneuthurwyr cerdd sy’n gweithio â cherddoriaeth anghonfensiynol: cronfa ddata artistiaid, digwyddiadau rheolaidd, a llinyn newydd o bodlediadau
-
CoDi Rhyngweithio – asgwrn cefn CoDi yw’r llinyn canolog o gefnogi cyfansoddwyr, gyda gweithdai ar-lein ac mewn person, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio
Galwad i wneuthurwyr cerddoriaeth yng Nghymru*
*Os ydych chi’n byw yng Nghymru (ac wedi gwneud hynny ers o leiaf blwyddyn) ac rydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol, yna rydych chi’n wneuthurwr cerddoriaeth Cymreig!
Mae’r rhaglen yn dechrau gyda galwad i artistiaid ar gyfer y ddau lwybr creadigol, a’r dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Rhagfyr:
CoDi Hunan
Yn ystod dau gyfnod o encilio artistig, bydd 6 artist arweiniol o Gymru a thu hwnt – gan ddod ag ystod o genres, cefndiroedd a phrofiad byw gyda nhw – yn cefnogi 8 gwneuthurwr cerddoriaeth i archwilio eu hymarfer artistig eu hunain drwy gydweithio. GWYBODAETH LLAWN
CoDi Arwain
Mae CoDi Arwain yn rhoi artistiaid anabl wrth y llyw, gyda’r llwybr cerddoriaeth siambr hwn dan arweiniad pobl anabl. GWYBODAETH LLAWN
