Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
.png)
Yn dilyn dyfarniadau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y PRS ac Ymddiriedolaeth RVW, mae Tŷ Cerdd yn cyhoeddi iteriad nesaf CoDi, ei fenter barhaus sy'n cefnogi datblygiad cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth.
Mae'r rhaglen diweddaraf yn cynnwys:
CoDi Hunan – 8 lle gyda ffi i wneuthurwyr cerddoriaeth
Yn ystod dau gyfnod o encilio artistig, bydd 6 artist arweiniol o Gymru a thu hwnt – gan ddod ag ystod o genres, cefndiroedd a phrofiad byw gyda nhw – yn cefnogi 8 gwneuthurwr cerddoriaeth i archwilio eu hymarfer artistig eu hunain drwy gydweithio.
CoDi Arwain – 6 lle gyda ffi i wneuthurwyr cerddoriaeth
Mae CoDi Arwain yn rhoi artistiaid anabl wrth y llyw, gyda’r llwybr cerddoriaeth siambr hwn dan arweiniad pobl anabl. Bydd tîm o 5 artist yn gweithio gyda chwe chyfansoddwr/gwneuthurwr cerdd mewn cyfres o weithdai, gan archwilio’r posibiliadau a’r gorwelion artistig newydd y gall gweithio gydag artistiaid anabl esgor arnynt.
CoDI Mentoriaid – rhaglen fentora artistiaid ar gyfer crewyr cerddoriaeth Cymru (yn dod yn fuan)
CoDi Dan-Ddaear – ymestyn a datblygu’r rhwydwaith cenedlaethol hon o artistiaid sain a chrewyr cerddoriaeth sy’n gweithio ym maes ymarfer cerddoriaeth anghonfensiynol: cronfa ddata artistiaid, digwyddiadau rheolaidd, a llinyn newydd o bodlediadau
CoDi Rhyngweithio – mae llinyn canolog o gefnogaeth cyfansoddwr yn ffurfio asgwrn cefn CoDi, gyda gweithdai personol ac ar-lein, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio
MYNEDIAD
Os oes unrhyw rwystrau i'ch cais neu gymryd rhan yr hoffech siarad â ni amdanynt, cysylltwch â Deborah Keyser (deborah.keyser@tycerdd.org), a fydd yn hapus i drafod unrhyw ymholiadau neu bryderon dros y ffôn, trwy e-bost , neu trwy alwad fideo.
Os oes unrhyw ymholiadau am CoDI, cysylltwch â Matthew Thistlewood: matthew.thistlewood@tycerdd.org
Gweithgarwch CoDI 2020/21:

Llwybr gyda thâl i 10 o grewyr cerddoriaeth o unrhyw genre (gan gynnwys pump o bobl ifainc rhwng 18 a 25 oed) sydd heb gael addysg gerdd ôl-ysgol ffurfiol. Amrywiaeth o fentoriaid dan arweiniad Pwyll ap Siôn.
cyfle gyda thâl i chwech o gyfansoddwyr / crewyr cerddoriaeth / artistiaid sain i edrych yn fanwl ar ddulliau arbrofol. Mae’r gydweithfa arweiniol, Angharad Davies (feiolín), Rhodri Davies (telyn ac electroneg) a Siwan Rhys (piano) yn llunio llwybr sy’n gweu deunyddiau crai o archif Tŷ Cerdd yn greadigaethau sain avant-garde. (Llwybr dwyieithog).
Llwybr gyda thâl sy’n rhoi’r arfau i chwe chyfansoddwr i weithio’n hyderus gyda thestun a naratif. Dan arweiniad y cyfansoddwr Robert Fokkens, yr awdur / dramodydd Sophie Rashbrook a’r gyfansoddwraig / soprano Sarah Dacey.
HwyrGerdd
Cyfle gyda thâl i dri chyfansoddwr a ddetholir o blith carfan 2020 Cyfansoddi: Cymru y BBC – ysgrifennu gweithiau newydd i’w perfformio yng nghyfres cerddoriaeth newydd Neuadd Dewi Sant, Hwyrgerdd.
RHYNGWEITHIO – canolbwynt cymuned CoDI:
Rhwydwaith ar-lein i gyfansoddwyr Cymreig. Ymunwch a'r gymuned yma, a derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd.
Rhwydwaith newydd i artistiaid tanddaearol ac arbrofol gyda chronfa ddata ar-lein a gweithgarwch gweithdai digidol. Ymunwch yma a cymrwch holiadur
Cyfle gyda thâl i gyfansoddwr weithio gyda grŵp cerddoriaeth amser hamdden, mewn perthynas newydd gyda Making Music a Sound and Music (Fersiwn Cymru o’u Mabwysiadu Crëwr Cerddoriaeth).
4 pâr newydd gyda thâl yn y gainc yma sy’n matsio ffigyrau blaenllaw o sîn cerddoriaeth gyfoes y DU â chyfansoddwyr o Gymru.
Gweithdai DPP
Hyfforddiant, datblygu a rhwydweithio ar-lein.
MYNEDIAD
Os oes unrhyw rwystrau rhag i chi wneud cais neu gymryd rhan yr hoffech siarad amdanynt gyda ni, cysylltwch â Deborah Keyser (deborah.keyser@tycerdd.org) a fydd yn falch o drafod unrhyw gwestiynau neu bryderon dros y ffôn, drwy e-bost neu alwad fideo.
Darllenwch am CoDI 2019/20
Darllenwch am CoDI 2018/19

Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music