Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Galwad i grewyr cerddoriaeth
Llwybr datblygiad artist i ysgrifennu ar gyfer yr organ
Cyfle wedi’i dalu i 6 crëwr cerddoriaeth
Tŷ Cerdd a Theatr Soar yn cyhoeddi Organ@Soar, sef llwybr datblygu artistiaid i gyfansoddi ar gyfer yr organ
Mae Organ@Soar yn llwybr datblygu ar gyfer crewyr cerddoriaeth sy’n dod o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru o unrhyw genre. Yn ystod cyfres o weithdai, bydd 6 o grewyr cerddoriaeth yn archwilio technegau a dulliau gyda’r cyfansoddwr arweiniol Richard Baker. Yn y ddau weithdy cyntaf, bydd yr organydd o fri rhyngwladol James McVinnie yn ymuno â nhw, a gyda’i gilydd bydd James a Richard yn agor posibiliadau’r organ i’r artistiaid sy’n cymryd rhan, a hwythau wedyn yn mynd yn eu blaenau i greu eu gweithiau eu hunain.
James McVinnie
Richard Baker
Yn ganolog i Organ@Soar mae’r iaith Gymraeg a chymuned Merthyr. Mae Theatr Soar ym Merthyr yn ganolbwynt cymunedol ac yn lleoliad i’r celfyddydau perfformio gyda datblygiad yr iaith Gymraeg yn ganolog i’w phwrpas. Mae’n gapel o’r 18fed ganrif sydd wedi’i addasu’n bwrpasol, ac ynddo mae organ drawiadol a adeiladwyd yn 1893 ac sydd wedi’i hadfer yn ddiweddar i’w hen ogoniant.
Bydd y 6 crëwr cerddoriaeth a ddewisir yn cwrdd â’r gymuned leol ac yn ymateb iddi. Caiff y gerddoriaeth a gyfansoddir ganddynt ei llunio’n arbennig ar gyfer organ Soar a’i chyflwyno i bobl Merthyr. Mae’r cyfansoddwr arweiniol Richard Baker a thîm Soar yn siarad Cymraeg, a defnyddir y Gymraeg drwy gydol y rhaglen ddwyieithog hon.
Bydd y chwe artist yn cael eu dewis gan banel yn dilyn galwad agored, a bydd pob un yn derbyn £500 am gymryd rhan. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal ym Merthyr, ond croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir costau unrhyw artistiaid sydd angen teithio. Daw’r cyfan i ben gyda pherfformiad o’r gweithiau a ddatblygwyd gan y cyfranogwyr, a chaiff y perfformiad ei recordio. Rydym yn annog yn arbennig gerddorion o Ferthyr a’r cyffiniau i ymgeisio – ond mae croeso i artistiaid o bob ardal.
Rhaid i’r holl gyfranogwyr fod yn rhydd ar gyfer y gweithdai canlynol a’r perfformiad yn Theatr Soar, Merthyr:
gweithdy #1
1100-1800, dydd Sul 5 Mawrth
gweithdy #2
1100-1800, dydd Sadwrn 25 Mawrth
gweithdy #3
1100-1800, dydd Sadwrn 15 Ebrill
gweithdy #4
1100-1800, dydd Sadwrn 20 Mai
perfformiad
1100-1800, dydd Sul 21 Mai
Cyfranogwyr
-
Genre: Croesewir ymgeiswyr o unrhyw genre cerddorol.
-
Crewyr cerddoriaeth o Gymru: Os ydych yn creu cerddoriaeth wreiddiol ac wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu wedi eich geni yng Nghymru, rydych yn gymwys.
-
Amrywiaeth: Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd wedi’u tangynrychioli / sydd wedi’u hesgeuluso neu eu hallgáu o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
-
Y Gymraeg Er y caiff y rhaglen ei chynnal yn ddwyieithog, a’r Gymraeg yn ganolog i’r prosiect, nid oes rhaid i gyfranogwyr o reidrwydd fedru siarad Cymraeg i wneud cais. Fodd bynnag, mae angen i ni gael clywed yn eich cais pam mae gweithio mewn cyd-destun Cymraeg yn bwysig i chi.
A yw’r cyfle hwn yn addas i mi?
Efallai eich bod yn gyfansoddwr sydd wedi’ch hyfforddi’n glasurol sydd â diddordeb yn nhraddodiad emynau Cymraeg; gallech fod yn artist drôn, wedi’ch cyffroi gan bosibiliadau sonig unigryw’r organ; efallai eich bod mewn band ac eisiau gwthio eich byd sain i gyfeiriadau newydd; neu efallai eich bod am ddarganfod mwy am arwyddocâd yr Organ hon i’w chymuned leol. Yn y bôn, os ydych chi’n creu cerddoriaeth o unrhyw genre a bod gennych ddiddordeb mynd ati i archwilio cyfansoddi ar gyfer organ – yna ydy, mae hwn ar eich cyfer chi!
Os oes gennych ddiddordeb, ond bod gennych ambell gwestiwn…
…gallwn gael sgwrs dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch e-bost atom i drefnu galwad.
I ymgeisio…
…lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n porth
-
Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18
-
Soniwch am eich gwaith: dywedwch wrthym beth sy’n mynd â’ch bryd fel artist a beth rydych yn fwyaf balch ohono. (dim mwy na 200 gair)
-
Pam fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r llwybr hwn? Beth yr hoffech ei gyflawni drwy gymryd rhan? Pam fod gweithio ar lwybr Cymraeg/dwyieithog, ac ymwneud â’r gymuned ym Merthyr yn bwysig i chi. (dim mwy na 250 gair)
-
Enghreifftiau o’ch gwaith: anfonwch ddwy ddolen neu atodiadau i’ch cerddoriaeth (sylwer: byddem yn ddiolchgar petaech yn anfon dolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; cofiwch gysylltu os oes angen help arnoch i greu dolenni.)
Rydym yn croesawu ceisiadau fideo hefyd. Recordiwch eich fideo yn ateb cwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 3 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch fideo, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 4 ar y ffurflen i’w lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, mae pob croeso i chi yrru e-bost atom i gael help.
Yr amserlen a’r broses
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 dydd Llun 12 Rhagfyr
-
Bydd y panel (Richard Baker, James McVinnie, Dilwyn o Theatr Soar, a Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd) yn cwrdd ddydd Mercher 15 Rhagfyr
-
Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi erbyn dydd Llun 19 Rhagfyr
Mynediad
Rydyn ni am ddileu cynifer o rwystrau ag y gallwn – os hoffech siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â Deborah Keyser a bydd hi’n fwy na pharod i helpu i ddod o hyd i ateb.
Mae James McVinnie yn organydd o fri rhyngwladol ac mae ei ddull agored a chwilfrydig o fynd ati i greu cerddoriaeth wedi ei arwain i gydweithio ag artistiaid sy’n cynnwys Philip Glass, Tom Jenkinson/Squarepusher, Angelique Kidjo, Nico Muhly, Martin Creed, David Lang, Bryce Dessner, Darkstar a llawer mwy. Mae wedi rhyddhau cerddoriaeth ar Bedroom Community, Orange Mountain Music a Warp Records.
Mae Richard Baker yn gyfansoddwr o Geredigion. Mae ei weithiau yn aml yn ymwneud â thrawsgrifio a thrawsnewid deunydd angherddorol, ac maent yn cynnwys The Tyranny of Fun (2013, wedi’i gomisiynu gan Birmingham Contemporary Music Group, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Cyfansoddi Siambr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol); The Price of Curiosity (2019, ar gyfer Cerddorfa Symffoni’r BBC/Radio 3); a Motet II (2020, ar gyfer Ensemble Télémaque, Marseille). Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar driawd piano i’r ATOS Trio, comisiwn gan Neuadd Wigmore. Ers 2004 mae wedi addysgu cyfansoddi yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, lle mae’n Gymrawd Ymchwil ar hyn o bryd.