CoDI SAIN
llwybr at gyfansoddi i ensemble ac electroneg
Dewiswyd chwe chyfansoddwr (Jordan Hirst, Ashley John Long, Niamh O'Donnell, David Roche, Joss Smith a Jerry Zhuo - uwchben) i weithio gydag UPROAR (ensemble cerdd newydd o Gymru, dan gyfarwyddyd Michael Rafferty) a’r cyfansoddwr arweiniol Andrew Lewis i greu gwaith i ensemble siambr (ffliwt, clarinét, piano, feiolín, soddgrwth) ac electroneg.
Derbyniodd pob cyfansoddwr ffi benodedig o £500 am gymryd rhan yn CoDI Sain. Digwyddodd y gweithgarwch ym Mangor a derbyniodd gwaith y cyfansoddwyr perfformiad yng Ngŵyl Gerdd Bangor ym mis Chwefror 2020.
