Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL

cefnogir gan Canolfan Mileniwm Cymru
a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru





Mae CoDi Arwain yn rhoi artistiaid anabl wrth y llyw, gyda’r llwybr cerddoriaeth siambr hwn dan arweiniad pobl anabl.
Bydd y cyfansoddwr Lloyd Coleman (Cyfarwyddwr Cerdd Cysylltiol Paraorchestra) ac ensemble o bedwar cerddor eithriadol sy’n hunanddiffinio yn fyddar neu’n anabl yn gweithio gyda 6 chyfansoddwr/gwneuthurwr cerdd mewn cyfres o weithdai, gan archwilio’r posibiliadau a’r gorwelion artistig newydd y gall gweithio gydag artistiaid anabl esgor arnynt. Caiff y gweithiau newydd eu harddangos mewn perfformiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
DYDDIADAU
-
Dydd Sadwrn 22 Ionawr (11:00-19:00) – gweithdy yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (CMC)
-
Dydd Sul 27 Chwefror (11:00-19:00) – gweithdy yn CMC
-
Dydd Sadwrn 26 Mawrth (11:00-19:00) – gweithdy yn CMC
-
Dydd Sul 27 Mawrth (11:00 & 14:30) – ymarfer / perfformiad cyhoeddus a recordio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
DS. Rhaid i’r ymgeiswyr fod ar gael i fynd i bob sesiwn ar bob un o’r dyddiadau
FFIR I'R GWNEUTHURWYR SY'N CYMRYD RHAN
Bydd Tŷ Cerdd yn talu bwrsari o £500 i bob artist sy’n cymryd rhan (yn ogystal â thrafnidiaeth a llety os oes eu hangen)
ARTISTIAID ARWEINIOL
-
Lloyd Coleman – cyfansoddwr / clarinetydd / Cyfarwyddwr Cerdd Cysylltiol, Paraorchestra
-
Isaac Shieh – chwaraewr corn Ffrengig / ymchwilydd – perfformio gyda ensembles yn cynnwys Paraorchestra, Chineke! ac Orchestra of the Age of Enlightenment
-
Liza Bec – chwaraewr robo recorder – gweithio gyda Spiral Dial – perfformio gyda Paraorchestra
-
Siobhan Clough – feiolonydd – perfformio gyda ensemblesfel Paraorchestra, RNS Moves a BSO Resound
-
Lila Bhattacherjee – ffliwt – myfyriwr CBCDC – perfformio gyda Paraorchestra
CYFRANOGWYR
-
Genre Rydym yn croesawu ymgeiswyr o unrhyw genre cerddorol, er ein bod yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn y llinyn hwn yn nodiannu gwaith. Ond os teimlwch eich bod yn iawn ar gyfer y llinyn hwn a dydych chi ddim yn nodiannu, neu os ydych yn defnyddio dulliau eraill fel meddalwedd (gan gynnwys am resymau mynediad), mae pob croeso i chi wneud cais.
-
Gwneuthurwyr cerdd yng Nghymru Os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol a’ch bod wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, rydych chi’n gymwys.
-
Amrywioldeb Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol/wedi cael eu hesgeuluso neu eu gwahardd o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
-
Pobl ifanc Mae 2 o’r 6 lle ar CoDi Arwain wedi’u neilltuo’n benodol ar gyfer unigolion 18-25 oed.
CEISIADAU
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 Dydd Gwener 10 Rhagfyr
-
Rhaid ymgeisio drwy ein porth ar-lein, lle mae ffurflen gais syml yn gofyn am fanylion cysylltu, etc, ac yn cynnwys dau gwestiwn y mae angen i chi eu hateb yn y blwch testun yn eich geiriau eich hun. Sylwer: ni allwch gadw manylion ar y ffurflen hon, felly gwnewch yn siŵr fod eich gwybodaeth a’ch atebion testun wedi’u paratoi o flaen llaw pan fyddwch yn barod i anfon eich cais.
-
Rhaid i bob cais gynnwys 2 ddolen i’ch cerddoriaeth (sylwer: peidiwch ag anfon ffeiliau sain). Os oes angen cymorth arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag Ethan (ethan.davies@tycerdd.org)
-
Rydym yn gallu derbyn ceisiadau ar fideo: yn eich fideo, atebwch y ddau gwestiwn sydd yn y ffurflen gais ac anfonwch eich fideo gyda’ch ffurflen i’w lanlwytho (sylwer: ni ddylai eich fideo fod yn hirach na 3 munud). Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen i’w lanlwytho, cysylltwch ag Abby (abby.charles@tycerdd.org) a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu â’r broses.
-
Os oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag ymgeisio neu gymryd rhan yr hoffech ei drafod â ni, mae pob croeso i chi gysylltu â Deborah (deborah.keyser@tycerdd.org), a bydd hi’n hapus i drafod unrhyw ymholiadau gyda chi
