Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
cefnogir gan Canolfan Mileniwm Cymru







Yn ystod dau gyfnod o encilio artistig, bydd 6 artist arweiniol o Gymru a thu hwnt – gan ddod ag ystod o genres, cefndiroedd a phrofiad byw gyda nhw – yn cefnogi 8 gwneuthurwr cerddoriaeth i archwilio eu hymarfer artistig eu hunain drwy gydweithio.
Mae tair rhan i’r llwybr:
-
Enciliad 1 2 ddiwrnod (a nosweithiau) mewn lleoliad gwledig yn y Canolbarth (ger gorsaf drenau – byddwn yn helpu gyda thrafnidiaeth ac yn talu’r costau) lle bydd pob un o’r 14 artist yn archwilio eu hymarfer artistig eu hunain wrth gydweithredu ag eraill – gyda’r artistiaid arweiniol yn cynnig cymorth, cyngor ac ysbrydoliaeth i’r artistiaid sy’n cymryd rhan. Bydd lle, bwyd, cynhesrwydd, cysur, llety en-suite – ac yn bwysicaf oll artistiaid sydd am archwilio, chwarae a rhoi cynnig ar bethau newydd.
-
Sesiynau dilynol o bell gyda’r arweinwyr artistig yn y mis rhwng y ddau enciliad drwy e-bost / Zoom / WhatsApp etc
-
Enciliad 2 2 ddiwrnod (1 noson) yng Nghaerdydd (CMC; darperir llety gwesty) – dal ati i archwilio gyda chyd-artistiaid, gyda phosibilrwydd o waith recordio yn ein Stiwdio Tŷ Cerdd
DYDDIADAU
-
Enciliad 1 Dydd Gwener 4 Mawrth 2022 (cyrraedd diwedd y prynhawn) hyd at ddydd Sul 6 Mawrth (gadael yn ystod y prynhawn) – ger Llanidloes
-
Enciliad 2 Dydd Sadwrn 2 Ebrill (yn dechrau am 1100) a Dydd Sul 3 Ebrill (gadael tua 1700) – Caerdydd
DS: Rhaid i’r ymgeiswyr fod ar gael i fynd i bob sesiwn ar bob un o’r dyddiadau
FFI I'R GWNEUTHURWYR SY'N CYMRYD RHAM
Bydd Tŷ Cerdd yn talu bwrsari o £500 i bob artist sy’n cymryd rhan (ynghyd â theithio a llety a bwyd)
ARTISTIAID ARWEINIOL
-
Catrin Finch – telynores a chyfansoddwraig aml-genre Siarad Cymraeg
-
Eädyth – crëwr cerddoriaeth soul, jazz a RnB Siarad Cymraeg
-
Lady Nade – folk / Americana singer-songwriter
-
Mr Phormula – bît-bocsiwr / rapiwr / artist lwpio byw Siarad Cymraeg
-
N’famady Kouyate – gwneuthurwr cerddoriaeth / meistr ar y balafon; Cyfarwyddwr Artistig Successors of the Mandingue
-
Rowland Sutherland – ffliwtydd, cyfansoddwr, trefnydd, arweinydd band ac addysgwr
CYFRANOGWYR
-
Genre Rydym yn croesawu ymgeiswyr o unrhyw genre cerddorol.
-
Gwneuthurwyr-cerddoriaeth yng Nghymru Os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol a’ch bod wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, rydych chi’n gymwys.
-
Amrywioldeb Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol/wedi cael eu hesgeuluso neu eu gwahardd o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
-
Y Gymraeg mae 3 o’r 8 lle wedi’u neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg; bydd defnyddio’r Gymraeg (yn artistig ac yn gymdeithasol) i’w groesawu yn ystod yr Enciliadau – byddwn yn ceisio peidio â chreu rhaniad rhwng y Gymraeg a’r di-Gymraeg, ond yn hytrach yn annog cydweithio a deialog.
-
Pobl ifanc mae 4 o’r 8 lle ar lwybr CoDi Hunan wedi’u neilltuo ar gyfer unigolion sydd rhwng 18 a 25 oed.
CEISIADAU
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 dydd Gwener 10 Rhagfyr
-
Rhaid ymgeisio drwy ein porth ar-lein, lle mae ffurflen gais syml yn gofyn am fanylion cysylltu, etc, ac yn cynnwys dau gwestiwn y mae angen i chi eu hateb yn y bwlch testun yn eich geiriau eich hun. Sylwer: ni allwch gadw manylion ar y ffurflen hon, felly gwnewch yn siŵr fod eich gwybodaeth a’ch atebion testun wedi’u paratoi o flaen llaw pan fyddwch yn barod i anfon eich cais.
-
Rhaid i bob cais gynnwys 2 ddolen i’ch cerddoriaeth (sylwer: peidiwch ag anfon ffeiliau sain). Os oes angen cymorth arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag Ethan (ethan.davies@tycerdd.org)
-
Rydym yn gallu derbyn ceisiadau ar fideo: yn eich fideo, atebwch y ddau gwestiwn sydd yn y ffurflen gais ac anfonwch eich fideo gyda’ch ffurflen i’w lanlwytho (sylwer: ni ddylai eich fideo fod yn hirach na 3 munud).
-
Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen i’w lanlwytho, mae pob croeso i chi gysylltu ag Abby (abby.charles@tycerdd.org) a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu â’r broses.
-
Os oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag ymgeisio neu gymryd rhan yr hoffech ei drafod â ni, mae pob croeso i chi gysylltu â Deborah (deborah.keyser@tycerdd.org), a bydd hi’n hapus i drafod unrhyw ymholiadau gyda chi.
