top of page

The Coronavirus pandemic has blighted artistic activity of all kinds across Wales. Community groups are particularly vulnerable – activity has ceased, and many choirs, bands and orchestras struggle to see how they will be able to restart, their membership often including the more vulnerable members of society.

 

At time of writing (27 August) the Welsh Government guidelines still prohibit any rehearsal or performance activity, beyond arranged groups of up to 30 people outdoors. TÅ· Cerdd (supported by individuals from performing groups in our Network) has been part of a consultation process with Arts Council of Wales and the Welsh Government around the draft guidelines for resuming performance and rehearsal. We are awaiting publication of the finalised guidelines, and when they are released we plan to issue some interpretation for community groups, together with sample risk assessments and advice.

 

In the meantime, while we await further news from the First Minister, we’d like to collect some information and opinions from the groups themselves.

 

This short survey has just three questions – covering financial losses, what support you need, and your view of the long-term impact. It will take just a few minutes to complete and will be a great help for us in planning any future support, as well as lobbying for music-groups at Arts Council and Welsh Government level.

​

​

​

​

We’re grateful for your input, and would be pleased if you’d circulate the survey to any other groups in your network

Mae pandemig y Coronafeirws wedi amharu ar weithgarwch artistig o bob math ledled Cymru. Mae grwpiau cymunedol, yn enwedig, wedi bod yn arbennig o fregus – mae gweithgareddau wedi stopio, ac mae llawer o gorau, bandiau a cherddorfeydd yn ei chael hi’n anodd gweld sut y byddant yn gallu ailddechrau arni, yn enwedig gan fod eu haelodaeth yn aml yn cynnwys aelodau mwy bregus y gymdeithas.

 

Ar adeg ysgrifennu hwn (27 Awst) mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dal yn gwahardd unrhyw weithgareddau ymarfer neu berfformio y tu hwnt i grwpiau wedi’u trefnu o hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored. Mae TÅ· Cerdd (gyda chefnogaeth unigolion o grwpiau perfformio yn ein Rhwydwaith) wedi bod yn rhan o broses ymgynghori â Chyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch y canllawiau drafft ar gyfer ailafael mewn perfformio ac ymarfer. Rydym yn aros i’r canllawiau terfynol gael eu cyhoeddi, a phan gânt eu rhyddhau rydym yn bwriadu cyhoeddi rhywfaint o ddehongliad arnynt ar gyfer grwpiau cymunedol, ynghyd â chyngor ac asesiadau risg enghreifftiol.

 

Yn y cyfamser, wrth i ni aros am newyddion pellach gan y Prif Weinidog, hoffem gasglu rhywfaint o wybodaeth a chael barn y grwpiau eu hunain.

 

Dim ond tri chwestiwn sydd i’r holiadur byr hwn, gan holi am eich colledion ariannol, pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, a’ch barn am yr effaith hirdymor. Bydd ond yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau a bydd yn help mawr i ni wrth gynllunio unrhyw gefnogaeth yn y dyfodol, yn ogystal â lobïo dros grwpiau cerdd ar lefel Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru.

​

​

 

Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniad, a byddem hefyd yn falch pe baech yn anfon yr holiadur ymlaen i unrhyw grwpiau eraill yn eich rhwydwaith.

Cymraeg
Coronavirus survey bubble.png
Coronavirus survey bubble Cym.png
bottom of page