Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
CYFANSODDWR Y MIS
Rhodri Davies
HYDREF 2023
gan Takisha Sargent
Mae’r cyfansoddwr a thelynor radical Rhodri Davies yn barod i ailddiffinio ac ail-ddychmygu potensial ei offeryn. Wedi’i eni yn Aberystwyth ym 1971 a bellach wedi’i leoli yn Abertawe, mae Davies yn crefftio perfformiadau a chyfansoddiadau fel gosodiadau celf, yn aml wedi’u cyfuno ag amlygu’r delyn i amodau eithafol fel tân, rhew sych, gwynt a dŵr.
Wedi cychwyn ar ei daith gerddorol ar hyd llwybr traddodiadol, trodd Davies yn fuan i gyfeiriad mwy anghonfensiynol, arbrofol. Mae’n un o aelodau amlycaf yr ysgol gerddoriaeth fyrfyfyr yn Llundain – grŵp anffurfiol a oedd yn weithgar yn y 1990au – lle daeth o hyd i’w lais cerddorol nodedig a chymhleth. Defnyddir ei weithiau sy'n seiliedig ar fyrfyfyrio i herio rheolau cyfansoddiadol o’r traddodiad clasurol Gorllewinol, yn hytrach yn archwilio'r rhyddid ehangach o fewn byrfyfyrio. Mae Davies yn defnyddio gwaith byrfyfyr rhydd fel dull er mwyn datblygu cerddoriaeth ar ei ben, gan gredu ei fod yn caniatáu iddo adeiladu ar ei gamgymeriadau yn lle eu cosbi nhw, sy'n caniatáu mwy o greadigrwydd. Mae’n sôn am ei ddiffiniad o fyrfyfyrio o’i gymharu â’r rheolau llymach o fewn jazz, a’r hierarchaeth a’r rheolau sy’n ei lywodraethu fel genre: ‘Rwy’n cyfansoddi fy sain fy hun mewn amser real, a dim ond fy nychymyg a’m hofferyn sy’n cyfyngu arnaf.’
Wedi'i ysgogi gan yr hyn y teimlai oedd yn angen am gyfoethogi'r repertoire telyn, mae Davies wedi ymdrechu'n hir i ddod o hyd i ffyrdd mwy dychmygol fyth o foderneiddio offeryn sydd mor wedi'i drwytho mewn traddodiad. Mae wedi ehangu ei balet timbral trwy baratoadau telyn, wedi archwilio ei photensial fel offeryn taro ac wedi defnyddio technegau bwa a defnyddio electroneg. Mae Davies hefyd yn defnyddio cyseinyddion a mwyhaduron i ehangu ystod y seiniau ymhellach.
Fel cyfansoddwr mae Davies wedi canolbwyntio’n benodol ar ymarfer cydweithredol ac wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o berfformwyr gan gynnwys Derek Bailey ac Evan Parker; yn ogystal ag artistiaid gweledol fel y sylfaenydd o Gelf 'Auto-Destructive', Gustav Metzger; a'i chyd-grewyr cerddoriaeth gan gynnwys Phill Niblock, Christian Wolff a Ben Patterson. Ers mwy na 10 mlynedd mae wedi bod yn gysylltiedig â'r cyfansoddwr Ffrengig Éliane Radigue a greodd Occam I iddo, y darn cyntaf yn ei chyfres barhaus, Occam.
Bydd Rhodri Davies yn perfformio yn Oriel Weston y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 29 Hydref. Bydd ei raglen yn cynnwys clasuron modern ochr yn ochr â chyfansoddiadau ei hun, a premiere byd gan Anton Lukoszevieze. ▶ tocynnau a gwybodaeth