top of page
Organ_Soar A3 poster (no background) REVISED.png

Mae chwe chyfansoddwr o Gymru, sy'n gweithio mewn genres amrywiol, wedi dod at ei gilydd i ysgrifennu darnau i James McVinnie a'r Organ sydd newydd ei hadferu yn Theatr Soar. Fel y mae Jamie wedi pwysleisio ar hyd y ffordd, mae ysgrifennu ar gyfer yr organ fel arfer yn golygu ysgrifennu ar gyfer yr adeiladau lie maen nhw wedi'u gosod. Yn wahanol i offerynnau eraill, cynllunnir organau ar gyfer lleoedd arbennig, i swnio'n dda yn eu hacwsteg unigryw, ac ar gyfer rhai traddodiadau cerddorol.

Nid yw'r offeryn hwn-a adferwyd yn ddiweddar i ysblander gan yr adeiladwyr o Swydd Nottingham, Goetze & Gwynn-yn eithriad. Oros dri mis, mae'r cyfansoddwyr wedi dychwelyd i Ferthyr ar benwythnosau i wrando ar gyflwyniadau gan Jamie a minnau ar yr heriau o ysgrifennu ar gyfer yr offeryn: ei rinweddau sain arbennig, y ffordd y mae ei gynllun a rhengoedd o bibellau yn adlewyrchu amser penodol gydag agwedd at adeiladu organau a chreu cerddoriaeth, cyfyngiadau a chyfleoedd ysgrifennu ar gyfer dwy allweddell ac un bwrdd pedal. Maent wedi dod a brasluniau o'u darnau ar wahanol gamau o'u cwblhau, o'r syniadau cychwynnol i ddarnau a oedd bran a'u gorffen ar gyfer ein sylwadau a'n hawgrymiadau. Ac yn awr, rydym yn gyffrous i fad yn eu rhannu a chynulleidfa, ar y safle y cawsant eu llunio ar ei chyfer.

Yn yr ystyr hwn, gellir dweud body darnau hyn yn 'weithiau safle-benodol'.

 

Ond mae'r safle hwn wedi dod i olygu mwy na dim ond yr offeryn a'r adeilad. Ochr yn ochr a'r gweithdai ymarferol hyn, mae'r cyfansoddwyr wedi bod yn ffodus i glywed cyflwyniadau gan gerddorion a haneswyr sy'n arbenigo yn hanes hynod ddiddorol a thraddodiadau cerddorol cyfoethog y dref enwog hon-gyda chyswllt anorfod a hanes y chwyldro diwydiannol, y mudiad llafur, ac o ddiwylliant dosbarth gweithiol yng Nghymru. Nid ormodiaith yw hi i ddweud bod hyn wedi bod yn ddatguddiad i bawb ynghlwm, gan gynnwys fi fy hun. Saif yr adeilad hwn fel cofeb fyw ryfeddol i'r gred y dylai pethau hardd-ac weithiau heriol-fod ar gael i bawb.

Richard Baker (Cyfansoddwr arweiniol)

Owain Hughes (1991) Valley Talk

Mae fy nghyfansoddiad ar gyfer yr organ yn Soar wedi'i ysbrydoli gan yr iaith lafar. Rwyf wedi defnyddio rhythmau ac ymadroddion y dafodiaith leol i ffurfio siapiau melodig a rhythmig y darn hwn. Roeddwn i eisiau ysgrifennu rhywbeth y gallwn uniaethu ag ef, gan fy mod yn dodo Ferthyr Tudful ac wedi fy magu yn Aberfan. Defnyddiais ddau brif syniad digrif yn sail i'r cyfansoddiad. Y cyntaf oedd fy mam yn dweud wrtha i gartref, 'What you on about mun?'; a'r llall oedd gwraig a glywais yn dweud mewn archfarchnad 'four pound's four pound, init!' wrth son am y fargen roedd hi newydd ei rhoi i'w chwsmer. Mae'r ddau ymadrodd hyn yn enghraifft o'r iaith lafar a ddefnyddir yn yr ardal, a minnau wedi'u plethu i sail y cyfansoddiad hwn i'w chwarae ar yr organ. Cymerais y ddau ymadrodd a thrawsgrifio'r rhythmau a'r traw. Yna fe'u defnyddiais i fod yn brif themau'r darn gan fynd ati'n gyson i ddatblygu'r syniadau a mynd a nhw drwy fydoedd rhythmig a thonyddol gwahanol. Drwy gydol y cyfansoddiad mae llawer o olau a chysgod. Hoffwn feddwl bod y gerddoriaeth yn adlewyrchu'r dylanwadau amrywiol sydd wedi bod arnaf, yn deillio o fy nghefndir jazz a chlasurol. Rwyf hefyd wedi ceisio defnyddio cerddoriaeth leol fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac wedi astudio llawer o gerddoriaeth organ hanesyddol a chyfoes. Credaf fad yr organ yn cael ei hanwybyddu braidd y dyddiau hyn, ond mae'n offeryn sain gwych sy'n cynnig gwead ac ansawdd niferus a gwahanol. Rwyf wedi mwynhau dod i adnabod yr offeryn hwn yn fawr iawn ac rwy'n meddwl wrth symud ymlaen y bydd yr organ bib yn rhywbeth yr hoffwn ei astudio'n ddyfnach a'i ddefnyddio ymhellach yn fy ngherddoriaeth fy hun. Cefais fy ngeni ym Merthyr Tudful ac yn chwarae sawl offeryn (gitarau, allweddellau). Rwyf wedi bod ar y sTn gerddoriaeth yng Nghymru ers yn 15 oed, yn chwarae mewn bandiau amrywiol a hefyd yn arwain fy mhrosiectau fy hun. Rwy'n gerddor amryddawn sydd a meddwl agored iawn o ran fy ymdrechion creadigol. Fel cyfansoddwr brwd, ar hyn o bryd rwy'n chwarae ac yn ysgrifennu fy neunydd fy hun, yn ogystal ag yn drefnydd ac yn gerddor sesiwn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn ysgrifennu ensemble, ond rwyf bob amser yn ceisio ehangu fy ngorwelion i ysgrifennu ar gyfer offerynnau newydd. Mae ystod eang o gerddoriaeth wedi dylanwadau arnaf, yn amrywio o gerddoriaeth Glasurol i fwy o gerddoriaeth jazz/byrfyfyr; mae cerddoriaeth Frank Zappa ymhlith y prif bethau sy'n fy ysbrydoli. Graddiais o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn astudiaethau Jazz ac rwyf bob amser yn ymdrechu i wella fy hun fel chwaraewr a chyfansoddwr.

Andrew Cusworth (1984) Esgyn Soar

Ar 18 Medi 1890, cafodd organ Conacher newydd Capel Soar ei hagor gan Gymdeithas Harmonig Soar mewn perfformiad o Meseia Handel. Ar y pryd, ac am flynyddoedd lawer wedyn, yr oedd ffawd y dref a'i thrigolion yn troi ar y diwydiant haearn, ac, os y'i canwyd y noson honno, byddai'r aria 'Fe'u drylli a gwialen haearn' wedi teimlo'n berthnasol iawn i'r perfformwyr a'u cynulleidfa. Ac eto, roedd seren ddiwydiannol Merthyr, o ran haearn o leiaf, eisoes yn simsanu, gan gyfeirio at ddyfodol llai sicr i'r dref a'i chymunedau; tuag at angen nas gwelwyd eto am ailddyfeisio yn y dyfodol; tuag at, ymhlith llawer o bethau, aileni Capel Soar yn Theatr Soar, ac adnewyddu organ y Conacher. Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer Esgyn Soar o'r broses o archwilio a dysgu am hanesion cerddorol a diwylliannol Theatr Soar a Merthyr Tudful: hanes un o drefi ôl-ddiwydiannol mwyaf adnabyddus Cymru yn codi, yn cwympo, ac yn ailddyfeisio'i hun. Mae'r enw 'Esgyn Soar' yn chwarae ar y gair 'soar' (enw'r theatr, a'r gair Saesneg 'soar' a'r Gymraeg cyfatebol, 'esgyn'). Mae wedi'i ffurfio o linell lled-felodig chwareus a dwy ran o'r aria 'Fe'u drylli a gwialen haearn' o'r Meseia, gan gyfeirio'n dawel at gyngerdd agoriadol yr organ yn ogystal a threftadaeth ddiwydiannol y dref. Caiff y syniadau hyn eu hymestyn yn ddarn sy'n rhannol adfyfyriol ac yn rhannol tocata; yn rhannol yn weddi, yn rhannol hiwmor; yn rhannol ddicter tawel am yr ecsbloetio dinistriol ar y dref gan ddiwydiant ac yna ei dirywiad, ac yn rhannol obeithiol am ei dyfodol diwylliannol, fel yr ymgorfforwyd gan Theatr Soar a'r prosiect i adfer a dathlu'r organ. Mae Andrew Cusworth yn gyfansoddwr o Gymru sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n fwyaf adnabyddus am ei gerddoriaeth gorawl. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cerddorion yn amrywio o gorau cymunedol i unawdwyr o fri rhyngwladol, ac mae'n gwerthfawrogi cyfleoedd i ysgrifennu ar gyfer pobl, lleoedd ac achlysuron arbennig. Mae ei weithiau wedi'u perfformio a'u darlledu ledled y byd ac yn cynnwys darnau i Gôr ABC, John Turner, C6r Dyfed, Côr Merched Eglwys Gadeiriol Caersallog, Ensemble Calmus, a Chor Eglwys Gadeiriol St Paul. Astudiodd Andrew yng Nghaergrawnt, lie bu'n ysgolhaig organ yng Ngholeg Magdalene, ac mae ganddo PhD o'r Brifysgol Agored am ymchwil ar gofnodion archifol cerddoriaeth draddodiadol Gymreig fel ffurf ar hanes diwylliannol. Mae'n gweithio ym Mhrifysgol Rhydychen ar hyn o bryd.

Hannah Paloma (2002) Awst 1931

Ym mis Awst 1831, cafwyd Dic Penderyn o Ferthyr yn euog ar gam o ymosod ar filwr ac o ganlyniad cafodd ei grogi yn Heal Eglwys Fair, Caerdydd. Yn ddiweddarach, daeth tystion ymlaen yn profi ei fod yn ddieuog ac yn 2000, cychwynnwyd ymgyrch i roi pardwn iddo, a'r ymgyrch yn parhau hyd heddiw. Yn fy narn 'Awst 1831', roeddwn i eisiau talu gwrogaeth i gadernid cymuned gref ac i daflu goleuni ar frwydrau sy'n dal i gael eu hymladd. Mae tair rhan i'r darn, gan fynd mewn cylch yn ôl i'r dechrau i adlewyrchu angerdd a phenderfyniad y gymuned - y nodyn grwn sy'n cael ei gynnal drwyddo yn drosiad o obaith a gwydnwch. Mae'r grwn cyntaf yn cynrychioli'r galled a diffyg llwybr clir i'w ddilyn; roeddwn am i'r rhan hon barchu bywydau'r gorffennol a myfyrio ar y bwlch rhwng diwedd a dechrau pethau. Mae'r patrwm pum nodyn a ailadroddir yn y rhan ganol yn cynrychioli'r ffyrdd y gweithiai'r gymuned yn y gorffennol yn ystod y Gwrthryfel, ac yn ddiweddarach mae'r alaw a'r gwrth-alaw yn addasu ac yn adeiladu i gynrychioli ysbryd y gymuned sydd wastad yn tyfu. Drwy gydol y broses ysgrifennu, cawsom gyfleoedd i archwilio'r organ yn Theatr Soar a phenderfynais ymgorffori rhai o'i nodweddion unigryw yn fy narn. Ganed Hannah Paloma yng Nghaerdydd, treuliodd ei blynyddoedd bore oes yn Sbaen ac erbyn hyn mae'n byw ar Ian y mar yn y Barri. Mae'n chwarae'r iwcalili a'r piano gan weithio'n helaeth ar osod haenau o harmon"fau lleisiol ac mae ei cherddoriaeth yn defnyddio natur fel trosiad am y cyflwr dynol. Mae cerddoriaeth wedi ffurfio rhan fawr o fywyd Hannah erioed. Mae'n cymryd rhan yn Music Mix a drefnir gan Actifyddion Artistig yng Nghaerdydd ers pedair blynedd gan gyfansoddi a pherfformio mewn grwpiau yn y Theatr Newydd a Neuadd Dewi Sant. Yn 2020, cynhyrchodd ei halbwm cyntaf ei hun, Herding Cats, am fyw bywyd i'r eithaf. Yn ystod y cyfnodau clo bu'n perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i Garnifal Butetown fel rhan o ffrydiad byw er budd yr elusen War Child. Yn 2020-21, cymerodd ran yn llwybr CoDI DIV Ty Cerdd gan weithio gyda Phedwarawd Mavron ar ei EP cyntaf, To the Moon, sy'n cynnwys y gan ddwyieithog 'Mynyddoedd'.

Dafydd Dabson (1985) Daw Golau i'r Dyffryn

Y syniad y tu ôl i 'Daw Golau i'r Dyffryn' yw ei fod yn cynrychioli dwy ochr Merthyr - y diwydiannol, sef y mwyngloddiau a'r gweithfeydd haearn y tyfodd y dref o'u cwmpas; a'r organig, sef y bobl oedd yn byw ac yn gweithio yno. Fy syniad cerddorol cyntaf ar gyfer y darn oedd yr alaw syml sydd ar ei dechrau, ei natur ailadroddus a'i rhythm llawen yn rhoi naws werinaidd iddo. Bwriais ati wedyn i ddatblygu'r syniad hwn a dod ag ef yn ôl mewn gwahanol ffyrdd wrth i'r darn barhau - gan gynrychioli sut mae poblogaeth Merthyr wedi esblygu dros amser. Wrth i'r darn fynd rhagddo mae yna ddau syniad a ddefnyddiais i gyfleu diwydiant - sef patrwm hanner ton sy'n mynd yn ôl ac ymlaen tebyg i seiren, a 3ydd Mwyaf ailadroddus sy'n swnio bran fel larwm car sy'n brwydro'n ddi-baid yn erbyn curiad sefydledig y darn. Fy mhrif ysbrydoliaeth wrth ysgrifennu oedd y ffordd y mae'r syniadau hyn yn rhyngweithio a'i gilydd, weithiau'n gynnil ac weithiau'n grafog, weithiau'n gweithio gyda'i gilydd ac weithiau yn erbyn ei gilydd. Mae'r tensiwn rhwng y ddwy elfen hyn, a'r modd y mae pobl yn addasu i ddatblygiad technolegol gyda'r cynnwrf y gall y newidiadau hynny ei achosi, yn rhan o hanes Merthyr sy'n ddiddorol iawn i mi felly mae'n rhywbeth yr oeddwn yn awyddus i'w gyfleu yn fy narn. Mae Dafydd Dabson yn gitarydd ac yn gyfansoddwr caneuon o Gaerdydd. Ar ôl cael ei fagu ym Mhen Llyn symudodd o'r Gogledd i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol. Mae Dafydd bellach yn rhannu ei amser yn gigio, dysgu a recordio gwaith yn ogystal ag yn ysgrifennu ar gyfer ei ddau brosiect gwreiddiol - y band rap/ roe/reggae Codewalkers a'r act pop siambr Derw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hefyd wedi bod yn chwarae i fand teyrnged Lady Gaga sef Donna Marie, gan berfformio yn Sbaen, y Swistir a Rwsia yn ogystal a lleoliadau ym Mhrydain fel Nottingham Motorpoint Arena, Liverpool Echo Arena a Birmingham NEC. Gan weithio mewn arddulliau cerddoriaeth boblogaidd o indi i hip-hop, mae Dafydd yn tynnu ar ystod eang o ddylanwadau yn ei gerddoriaeth - mae ei ffefrynnau ar hyn o bryd yn cynnwys: Bleachers, Little Simz, The National a Sam Fender.

Heledd C Evans (1997) Afon I

Yn y darn hwn rydw i wedi bod yn archwilio dulliau cydweithredol o berfformio, cyfansoddi, a gwrando. Maegan y perfformiwr reolaeth dros hyd nodau a newidiadau, gan ymateb i sut mae sain yn atseinio yn y gofod. Fe'ch gwahoddir i wrando ac ymwneud a'r darn sut bynnag y dymunwch - mae croeso i chi symud o gwmpas, cau eich llygaid, eistedd ar y llawr, ac ati. Mae Heledd C Evans yn artist ac yn hwylusydd yng Nghaerdydd, yn gweithio gyda sain fel cyfrwng a deunydd pwnc - o seinweddau aml­ haenog i osodweithiau a pherfformiadau sy'n safle-benodol. Yn ddiweddar dyfarnwyd Cymrodoriaeth Fenis Cymru 10 i Heledd ac mae'n hanner y ddeuawd perfformio sain Ardal Bicnic sy'n gweithio mewn lleoliadau amrywiol ar draws De Cymru ac yn teithio ledled y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd mae hi'n breswylydd stiwdio yn Shift Caerdydd, ac yn rhedeg sioe radio greadigol dan arweiniad gwirfoddolwyr, sef Pitch Radio, ar Radio Cardiff.

David John Roche (1990) Cenwch i'r Arglwydd yr Holl Ddaear

Roedd llawer o'r bandiau Cymreig y ces i fy magu yn gwrando arnynt yn canu am ddadrithio, dad-ddiwydianeiddio, a thlodi De Cymru. Rwy'n meddwl am bobl fel y Manic Street Preachers a'u halbwm The Holy Bible, ond hefyd yn fwy cyffredinol am fandiau lleol a'r sîn gerddoriaeth leol yn y 2000au. I bobl (fel fi fy hun) sy'n dod o lefydd nad oes fawr o bosibiliadau ynddynt, roedd hyn yn hynod ysgogol ac ysbrydoledig. Roedd y gerddoriaeth roedd pobl yn ei gwneud yn teimlo'n bwysig. Wrth ysgrifennu ar gyfer yr organ yn Theatr Soar, rwy'n teimlo fy mod yn ceisio cysylltu sawl llinach wahanol. Euthum ati i gyfuno'r patrymau ailadroddus oedd yn seiliedig ar riff ac ar y gerddoriaeth y cefais fy magu yn ei chwarae a'i hysgrifennu ag ysgrifennu organ mwy traddodiadol yn ymwneud a galluoedd penodol yr offeryn yn Theatr Soar. Mae'r organ ei hun ynghlwm wrth gyfnod lle'r oedd gan gerddoriaeth rôl wahanol ond yr un mor bwysig yn y De - gallai'r berthynas hon rhwng llinachau ein helpu i ddeall ein bod yn dal i wynebu problemau tebyg yn ymwneud a thlodi, cadwraeth, a hanes. Dylai'r gorffennol lywio ein gweithredoedd yn y dyfodol. Fel rhywun sy'n dod o'r rhan hon o'r byd, mae'n fy ngwneud yn drist y gallai agweddau o'n hanes cerddorol gael eu colli neu eu dinistrio. Roedd ysgrifennu ar gyfer yr organ hon yn gwneud i mi deimlo cysylltiad a diwylliant yr oeddwn bob amser wedi bod yn agos ato ond nad oedd erioed wedi cael ei ddangos. Dylai fad yn fwy presennol, ac mae'n rhyfeddol bod rhan mor hardd a chyfoethog o'r gorffennol wedi'i gwarchod. Mae cerddoriaeth David John Roche yn uniongyrchol, yn benderfynol ac yn uchel. Mae dan ddylanwad trwm metel trwm, cerddoriaeth gerddorfaol lysh, a'i gefndir Cymraeg dosbarth gweithiol, mae gwaith David wedi'i ganmol am ei "passages of intense expressive power" (Thomas Ades), ei ddisgrifio yn "exquisite" (Adam Walton, BBC Introducing), a'i alw yn "bold, exciting, and beautiful" (Syr James Dyson). Ar y cyd a chyfres gyson o gomisiynau a pherfformiadau rhyngwladol, mae ei gyfansoddiadau wedi'u darlledu, maent wedi bod ar y teledu, mae pobl ledled y byd wedi ysgrifennu amdanynt i filiynau o bobl (Rais, Tellebelluno, S4C, NHK, BBC Radio 3, BBC Introducing, London Evening Standard, a llawer o rai eraill). Ar hyn o bryd mae'n cwblhau comisiynau ar gyfer Canolfan Gerdd Tanglewood, Sefydliad Diwylliannol Dinas Opera Tokyo, a Gwyl Bro Morgannwg (Band Tref Tredegar). Mae hefyd yn gwneud gwaith ymchwil a chynhyrchu gyda Meta Arts a Wales Arts Review.

Organ&Soar logo strip (with VWF).png
bottom of page