top of page

Cân:affricerdd

AC1_edited.png

Mae Cân: affricerdd yn gyfle i grewyr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru i ysgrifennu cân newydd (mewn unrhyw iaith a genre cerddorol) a chreu fideo cerddoriaeth o'r gwaith newydd.

Mae Mirari More, N'famady Kouyaté, Ogun, a Skunkadelic (Tumi Williams) eu dewis ar ôl galwad agored i artistiaid i greu gwaith newydd ar gyfer cân: affricerdd. Mae'r rhaglen hon yn un o linynnau Tapestri, menter newydd TÅ· Cerdd sy'n helpu i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru – wedi’i hariannu gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

GLITCH_N'Famady_PhotoShoot_270521_1899.jpg
  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube
  • Instagram
  • RSS

Pencerdd ifanc o Guinea (Conakry) yw N’famady Kouyaté sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn aml-offerynnwr talentog, ei brif offerynnau yw’r balaffon – seiloffon pren traddodiadol sy’n sanctaidd i ddiwylliant Gorllewin Affrica a threftadaeth ‘griot’ ei deulu. Mae N’famady yn chwarae fel artist unawd yn ogystal â gyda band cyfan fel y Successors of the Mandingue. Asiad yw ei drefniannau o Affricanaidd Mandingue a dylanwadau jazz, pop, indi a ffync gorllewin Ewrop sy’n cael eu cynhyrchu gan griw bythol-esblygol o gerddorion.

Mae perfformiadau N’famady yn creu sawl gwahanol naws a feib rhyfeddol a bydd cynulleidfaoedd yn cael eu swyno gan ei frwdfrydedd heintus a llawenydd, gan wefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon yn ystod hydref/gaeaf 2019/20 yn cefnogi Gruff Rhys ar daith yr albwm ‘Pang!’ yn ogystal â chwarae gyda band Gruff.

Yn haf 2021, gwelwyd N’famady yn dechrau ar bennod greadigol newydd a chyffrous wrth ryddhau ei EP gyntaf, “Aros i Fi Yna” – casgliad o ganeuon llawn lliwiau llachar ac yn gyflwyniad llawen i artist cyffrous a gwirioneddol ryngwladol yng Nghymru.

Manssa Nou Cissé – N'famady Kouyaté    

cliciwch YMA am y geiriau mewn tair iaith

Tumi Williams - Can Aff.png
  • Facebook
  • Spotify
  • Twitter
  • YouTube
  • Instagram
  • Bandcamp

Mae bariton cyfarwydd a deheurwydd telynegol prif MC Caerdydd Skunkadelic (Tumi Williams) yn hawdd ei adnabod yn syth yn seinlun ffrwythlon hip-hop y DU. Yn tynnu ar dreftadaeth gerddorol a luniwyd gan oes aur hip-hop ac sydd wedi’i gwreiddio yn Nigeria, cartref ei deulu, mae’n sianelu angerdd amrwd, profiad a dyfeisgarwch i bob odl.

Cafodd darn diweddar ganddo gyda’r ddeuawd ffync a sôl o Fryste, yr Allergies, ei chwarae cryn dipyn ar y radio’n genedlaethol (Lauren Laverne, Radio 2), gan ddod i’r fei fel un o draciau’r DU a chwaraewyd fwyaf ar Shazam yn 2021 cyn dod yn ddynodiad cerddorol i ITV am sbel.

Mae Skunkadelic yn enwog am fod yn brif leisydd i’r criw affro-ffync a hip-hop 8-darn o Gaerdydd, Afro Cluster. Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf  yng ngwanwyn 2021, gyda sioeau byw yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2021 a Chastell Caerdydd. Mae pob un o’r cysylltiadau creadigol arbennig yma wedi gyrru enw Skunkadelic fel un o MCs pwysicaf y DU.                                                                      

Wo Ni Pe – Skunkadelic

cliciwch YMA am y geiriau mewn tair iaith

Andrew Ogun 1.jpg
  • Spotify
  • Twitter
  • YouTube
  • iTunes
  • Instagram

Cerddor, awdur, cyfarwyddwr creadigol a threfnydd cymunedol 23 oed o Gasnewydd yw Ogun sy’n byw yng Nghaerdydd. Ef yw prif drefnydd mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yng Ngwent ac yn ddiweddar fe’i penodwyd fel Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gan ddechrau ei siwrnai greadigol wrth lansio brand ffasiwn o’r enw SUPERNOVA yn ei arddegau, roedd Ogun bob amser yn credu ym mhwysigrwydd mynegiant artistig. Dechreuodd ei gyrch i’r byd cerddora gyda’i gyfaill a chydweithredwr creadigol, Tony, a’r cynhyrchydd Goom o dan yr enw 'AFTERPARTY' gan ryddhau EP yn 2016.

Ar ôl bod yn y brifysgol, roedd Ogun yn awyddus i sefydlu ei lais cerddorol a bu’n gweithio ar ei EP unigol gyntaf, 'In My Own Skin' a ryddhawyd yn 2018. Ac yntau ddim yn un i sefyll yn llonydd am yn hir, symudodd Ogun i Ferlin lle esgorwyd ar y cysyniad ar gyfer y gwaith diweddaraf i’w ryddhau ganddo, 'Flight Mode'. Darllenwch mwy...

The Voice – Ogun & Aisha Kigs

"Mae 'The Voice' yn gydweithrediad rhwng Ogun ac Aisha Kigs sy'n ymgorffori naws hunaniaeth, hanes a chyd-destun cymdeithasol Ogun. Gan gyfeirio at faterion cyfiawnder cymdeithasol lleol yn achos Christopher Kapessa a Siyanda Mngaza, dau berson lleol sydd wedi dioddef yn nwylo'r system, mae Ogun yn plethu ei stori bersonol â straeon ei gymuned; cymuned sy'n parhau i fod yn agos at ei galon. Cyfeiria at luosogrwydd ei etifeddiaeth a'i hunaniaeth; Cymraeg, Nigeriaidd, Togoaidd ac Eidaleg."

cliciwch YMA am y geiriau mewn dwy iaith

Mirari More.jpg
  • Facebook
  • YouTube
  • Instagram
  • RSS

Cerddor amlddisgyblaeth yw Mirari More a chanddo wreiddiau mewn hip-hop, greim ac R&B sydd wedi gadael iddo gyfuno sawl arddull a dylanwad i’w sŵn. Mae’n ymfalchïo’n fawr yn y caneuon y mae’n eu cyfansoddi, boed yn ddarnau telynegol neu ganeuon sy’n canolbwyntio’n fwy ar felodi.

Yn ôl Mirari: “Fy ngherddoriaeth yw’r math sy’n gosod y trac sain i’r pethau tebyg rydyn ni i gyd yn eu rhannu yn ein bywydau pob dydd. Dw i’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng neges ac alaw, gan gynnig rhywbeth i bob math o wrandäwr.”​

Roedd ​Mirari yn un o bedwar derbynnydd Cronfa Greadigol OnlyFans ym mis Gorffennaf 2021. Ac yntau wedi symud i Gaerdydd o Lundain yn ddiweddar, mae Mirari yn gobeithio canfod ei le yng nghanol diwylliant celfyddydau cyfoes Cymru.

​

Culture – Mirari More

Mae 'Diwylliant' yn drac gan Mirari More sy'n amlygu ei hunaniaeth, ei hanes a'i agwedd. Gan gyfeirio at La Haine, mae'n cymryd arno natur wrthryfelgar gan edrych ar ail-greu diwylliant ac adnewyddu'r hyn y mae'n ei olygu i 'berthyn' i ddiwylliant. Mae'n cyfeirio at dapestri cyfoethog ei dreftadaeth a'i hunaniaeth; Prydeinig a Nigeria, a sut mae diwylliant amrywiol wedi llifo i'w hunaniaeth.

  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • YouTube
  • Spotify
SZWÉ plethu.jpeg
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • YouTube
  • Spotify

Wedi’i eni yn Harare, Zimbabwe, canwr, rapiwr a chyfansoddwr caneuon 23 oed yw Sizwe ‘SZWÉ’ Chitiyo sy’n byw yn ne Cymru.

 

Ar ôl dechrau ei yrfa gerddorol yn broffesiynol 4 blynedd yn ôl, byddai Sizwe yn chwarae setiau acwstig o gwmpas de Cymru cyn mentro i gynhyrchu electronig 3 blynedd yn ôl.

 

Ac yntau wedi cael ei waith ar restr chwarae Spotify ac ar y radio cenedlaethol ac wedi ymgymryd â rôl newydd fel Rheolwr Prosiect Bannau Cymru, ei nod bellach yw meithrin hyb lle gall cerddoriaeth ddinesig ffynnu yng Nghymru a chynhyrchu ton newydd o sain.

We'll be okay SZWÉ feat. Dee

Mae 'We’ll Be Okay' yn ymwneud â fy ffydd, sydd wedi chwarae rhan enfawr yn fy niwylliant, a hefyd fy adferiad yn feddyliol fel artist a cherddor! Mae'r gân yn ymwneud â chydio yn y cred bod rhai eiliadau drwg yn ymddwyn fel cymylau o law sy'n mynd heibio heb ots.

SSAP grayscale.png
ndcw.png
DAC_Logo grayscale.png
EISTEDDFOD grayscale.png
WPA logo grayscale.png
tc logo.png
WG lottery & ACW logos.png
bottom of page