top of page

Sun, 03 Mar

|

Royal Welsh College of Music and Drama

Jeremy Huw Williams yn canu gwerin Cymreig gan gyfansoddwyr heddiw

Jeremy Huw Williams (bariton) a Paula Fan (piano)

Registration is Closed
See other events
Jeremy Huw Williams yn canu gwerin Cymreig gan gyfansoddwyr heddiw
Jeremy Huw Williams yn canu gwerin Cymreig gan gyfansoddwyr heddiw

Time & Location

03 Mar 2019, 17:00

Royal Welsh College of Music and Drama, North Rd, Cardiff CF10 3ER, UK

About the Event

Cyflwynir y cyngerdd gan Ŵyl Bro Morgannwg yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan gysylltu, yn ddigon addas i’r Ŵyl a phenwythnos Dydd Gŵyl Ddewi, y Gymru hynafol a’r Gymru gyfoes. Perfformir y cyngerdd gan ddau artist rhyngwladol eu bri – Jeremy Huw Williams (bariton) a Paula Fan (piano)

Mae eu rhaglen hynod wreiddiol yn cynnwys 15 trefniant newydd gan bum cyfansoddwr o Gymru sy’n byw heddiw o 15 o ganeuon gwerin Cymreig. Bydd llawer o’r trefniannau hyn yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yn y byd yn y cyngerdd hwn. Mae’r detholiad yn cynnwys caneuon tra adnabyddus a fydd yn gyfarwydd i lawer un megis Dafydd y Garreg Wen a Bugeilio’r Gwenith Gwyn a ‘darganfyddiadau’ rhyfeddol o bob rhan o Gymru. Y cyfansoddwyr yw Nathan James Dearden, John Hardy, Paul Mealor, John Metcalf a Pwyll ap Siôn .

Eleni rydym yn dathlu 50 mlwyddiant Gŵyl Bro Morgannwg a’r cyngerdd yw un o sawl digwyddiad sy’n arwain at y brif Ŵyl ym mis Mai. Yn ddigon priodol, bydd y cyflwyniad yn ddathliadol gyda’r gynulleidfa’n eistedd o gwmpas byrddau. Bydd gwin o Gymru ar gael o’r bar.

Pris y tocynnau i’r cyngerdd yw £14 (gan gynnwys diod wrth gyrraedd) a gellir eu prynu yma

Share This Event

bottom of page