top of page

Cystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop
(EYBBC) Malm
ö, 2023

Mae Tŷ Cerdd ar y cyd â Bandiau Pres Cymru yn gwahodd ceisiadau i Gystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop 2022 yn y Malmö Live Concert AB, Sweden ddydd Sul 7 May 2023 yn rhan o Bencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop 2023.

Yn dilyn ymlaen o berfformiad gwych Band Pres Ieuenctid De Cymru eleni ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop yn Neuadd Symffoni Birmingham, bydd Cymru unwaith eto yn chwilio am fandiau Ieuenctid i fod yn gynrychiolwyr yn yr Adrannau Datblygu ac Elît ar gyfer y Pencampwriaethau Ieuenctid (EYBBC).

Gan nad oes cystadleuaeth bandiau pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar hyn o bryd i asesu cymhwyster a safon y chwarae i gymhwyso ar gyfer y digwyddiad hwn, dewiswyd cynrychiolwyr 2022 gan banel o arbenigwyr, a gynullwyd gan Tŷ Cerdd, lle gofynnwyd i fandiau oedd â diddordeb mewn cystadlu ysgrifennu llythyr cais, gan gynnwys crynodeb yn manylu ar gyflawniadau a gweithgareddau diweddar, ynghyd â rhagolwg cyllideb ar gyfer mynychu’r digwyddiad, i sicrhau bod y bandiau llwyddiannus mewn sefyllfa i allu bod yn bresennol, os cânt eu dewis.


Gydag amser, costau a logisteg yn hollbwysig i alluogi bandiau i wneud cynlluniau a chodi’r cyllid angenrheidiol i fynychu digwyddiad 2023, bydd y broses ymgeisio hon yn cael ei defnyddio unwaith eto, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i fandiau wneud taith o’r fath yn hyfyw.

Gwahoddir pob gwlad sy’n aelod o EBBA i enwebu DAU fand ieuenctid i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, un i bob adran o’r digwyddiad. Mae dwy adran i’r gystadleuaeth, y Brif Adran a’r Adran Ddatblygu.

 

Ni fydd ffi i’w thalu i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a gall bandiau ddisgwyl y bydd yn rhaid iddynt gyflwyno eu rhaglen erbyn mis Mawrth 2023. Cyhoeddir y darnau gosod ar gyfer pob adran gan EBBA yn y man, heb fod yn ddiweddarach na 1 Rhagfyr 2022, debyg iawn.

Gall bandiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth fod yn fandiau ieuenctid sefydledig, bandiau ysgol, bandiau rhanbarthol, bandiau cenedlaethol neu “fandiau prosiect” sy’n cynnwys cyfuniad o chwaraewyr wedi’u dethol i ffurfio band i chwarae yn y gystadleuaeth. Fodd bynnag, gan y bydd pob band yn cynrychioli ei wlad, RHAID i’r holl chwaraewyr ym mhob band hanu o’r wlad honno’n unig.

Rhaid i bob band pres ieuenctid gael ei ffurfio’n unol â band pres Prydeinig safonol o ran offeryniaeth. Caiff bandiau ddefnyddio uchafswm o 50 o chwaraewyr, gan gynnwys offerynnau taro.

Y Brif Adran

Mae’r adran hon ar gyfer bandiau pres ieuenctid hŷn. Dylai chwaraewyr fod yn 22 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2023. Rhaid chwarae rhaglen o’ch dewis sy’n para uchafswm o 20 munud o amser chwarae a fydd yn cynnwys darn gosod byr (tua 10-12 munud ar ei hyd) ynghyd ag eitem yn cynnwys unawdydd o’r band (bydd gwobr am yr unawdydd gorau yn y Brif Adran).

Yr Adran Ddatblygu

I fandiau ieuenctid iau y mae’r adran hon. Dylai chwaraewyr fod yn 18 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2023. Rhaid chwarae rhaglen o’ch dewis sy’n para uchafswm o 20 munud o amser chwarae a fydd yn cynnwys darn gosod byr (tua 6-8 munud ar ei hyd) ynghyd ag eitem yn cynnwys unawdydd o’r band (bydd gwobr am yr unawdydd gorau yn yr Adran Ddatblygu).

Beirniadu

Bydd dau feirniad a fydd yn gallu gweld perfformiadau’r bandiau’n agored. Bydd y beirniaid yn ysgrifennu sylwadau am bob perfformiad.

Bydd y ddau feirniad yn cymryd i ystyriaeth yr agweddau canlynol ar berfformiadau pob band:
 

  1. Rhagoriaeth gerddorol y perfformiad

  2. Ansawdd a chydbwysedd y rhaglen a chwaraeir.

  3. Gwerth adloniadol perfformiad y gerddoriaeth i’r gynulleidfa.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 10:00, dydd Mercher 13 Gorffennaf a bydd enwebiadau'r Panel Asesu yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mercher 20 Gorffennaf.

bottom of page