
ISCM 2019
Llwyddiant dwbl i gyfansoddwyr Cymreig!
Mae Tŷ Cerdd wrth ei bodd i gyhoeddi fod dau gyfansoddwr wedi cael ei ddewis i gynrychioli'r Adran Gymraeg yn World New Music Days, I’w gynnal yn Estonia o 2 i 10 Mai.
Perfformir Straatmuziek, ar gyfer ensembl siambr ac electroneg, gan y Defunensemble (Y Ffindir) ar 8 May.
Mae Socialite, ar gyfer electroneg a fideo, wedi ei raglennu fel gosodwaith.
Datganiad Adran Cymru ISCM
- - -
Y ceisiadau swyddogol i Ŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd
ISCM 2019, yn Estonia
World New Music Days ydy’r prif ddigwyddiad blynyddol yr ISCM (International Society for Contemporary Music), ac mae’n arddangos cerddoriaeth gyfoes glasurol o ar draws y byd. Mae digwyddiad blwyddyn yma yn rhan o Estonian Music Days, Gwyl o fri ledled y byd sy’n dathlu ei ben-blwydd 40 mlynedd.
Cyflwynodd y ddau ddetholiad o Gymru i’r rheithgor rhyngwladol fel rhan o rhestr fer o chwech (ar bwys weithiau Eloise Gynn, Bethan Morgan-Williams, Lynne Plowman and Andrew Powell). Rydyn yn danfon llongyfarchiadau mawr i’r ddau gyfansoddwr: mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle sylweddol i’r cyfansoddwyr a ddewiswyd ac am y gynrychiolaeth o gerddoriaeth Gymreig ar lwyfan rhyngwladol, ac rydyn yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau’r effaith a pharhad o’r digwyddiad.
Mae Tŷ Cerdd yn falch o gyhoeddi’r cyfansoddwyr a’r gweithiau sydd wedi’u dewis gan Adran Cymru yr ISCM (Cymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes) i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2019 ISCM, a gynhelir yn Tallinn a Tartu, Estonia, rhwng 2 a 10 Mai 2019.
Dewisodd panel Cymru chwe gwaith cerddorol i fynd gerbron y rheithgor rhyngwladol, sef:
Eloise Gynn
Song of Awakening Dawn (ensemble siambr)
Andrew Lewis
Straatmuziek (ensemble siambr gydag electroneg)
Bethan Morgan-Williams
Ghost Tongues (pedwarawd llinynnol)
Lynne Plowman
The Mariner’s Compass (côr)
Andrew Powell
Points upon a Canvas (cerddorfa)
Daniel Soley
Socialite (electroneg)
Bydd o leiaf un o’r chwe darn sydd yn ein cais cenedlaethol yn cael ei berfformio yn ystod yr ŵyl (gall y rheithgor rhyngwladol, fodd bynnag, ddewis mwy nag un).
Derbyniwyd 37 cais gan gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru, ar draws naw categori. Cafodd y rheithgor eu synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a chan amrywiaeth yr arddull, gan roi cipolwg trawiadol ar yr ystod o waith sy’n cael ei lunio yng Nghymru, a thu hwnt, gan gyfansoddwyr Cymreig.
Disgwylir cyhoeddi’r gwaith a ddewisir i’w berfformio yn ystod y digwyddiad 9 diwrnod ddiwedd mis Hydref. Bydd Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2019 yn rhoi llwyfan pwysig i’r cyfansoddwr dethol, ac yn gyfle allweddol i broffil Cymru, ei chyfansoddwyr a’r maes cerddoriaeth newydd.