
ISCM 2020
Dewiswyd Mark Bowden i gynrychioli
Adran Gymreig ISCM yn Seland Newydd 2020
Pleser mawr i Dŷ Cerdd yw cyhoeddi bod y cyfansoddwr Mark Bowden wedi cael ei ddethol i gynrychioli Adran Cymru yn Niwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2020 i’w cynnal yn Seland Newydd, 21-30 Ebrill: perfformir ei Five Memos i’r feiolín a’r piano ochr yn ochr â’r gerddoriaeth newydd orau a gyflwynir gan adrannau’r ISCM o bedwar ban byd.

Mark Bowden
Ffoto: Kate Benjamin a Rob Orchard
Digwyddiad blaenllaw blynyddol yr ISCM (International Society of Contemporary Music) yw Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd. Cyflwynir yr ŵyl eleni gan Composers Association of New Zealand (CANZ).
Cyflwynwyd y gwaith Cymreig dethol gan Mark Bowden i’r rheithgor rhyngwladol fel rhan o restr fer o chwech (ochr yn ochr â gweithiau gan Sarah Lianne Lewis, Ashley John Long, Bethan Morgan-Williams, Mike Parkin a Steph Power).
Croesawyd y cyhoeddiad gan Mark Bowden: “Gwefr anhygoel i mi yw bod Five Memos wedi’i ddethol i gynrychioli Adran Cymru’r ISCM yn Niwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2020. Dw i’n ymwneud yn agos â’r ISCM ers sawl blwyddyn – arferwn i gadeirio Adran Prydain ac mi wnes i gefnogi Cymru i ddatblygu ei hadran ei hun ychydig flynyddoedd yn ôl – a braint o’r fwyaf yw bod fy ngwaith yn cael ei berfformio yn y digwyddiad rhyngwladol pwysig yma.”
Mae Tŷ Cerdd yn anfon llongyfarchiadau gwresog at Mark: mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfle pwysig iddo ac i gynrychiolaeth cerddoriaeth Gymreig ar lwyfan y byd ac edrychwn ymlaen at weithio i sicrhau’r effaith a’r gwaddol mwyaf o’r digwyddiad.
Y ceisiadau swyddogol i ISCM Gŵyl
Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2020, yn Seland Newydd
Mae Tŷ Cerdd yn falch o gyhoeddi’r cyfansoddwyr a’r gweithiau sydd wedi’u dewis gan Adran Cymru yr ISCM (Cymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes) i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2020 ISCM, a gynhelir yn Auckland a Christchurch, Seland Newydd, rhwng 21 a 30 Ebrill 2020.
Dewisodd panel Cymru chwe gwaith cerddorol i fynd gerbron y rheithgor rhyngwladol, sef:
Mark Bowden
Five Memos (ffidil a phiano)
Sarah Lianne Lewis
first snow, falling (pedwarawd llinynnol)
Ashley John Long
Ensembl chwarae’n fyrfyfyr
Bethan Morgan-Williams
Double Double (pedwarawd llinynnol)
Michael Parkin
Monsieur Croche's Fugue (unawd piano)
Steph Power
and / ante (triawd piano)
Bydd o leiaf un o’r chwe darn sydd yn ein cais cenedlaethol yn cael ei berfformio yn ystod yr ŵyl (gall y rheithgor rhyngwladol, fodd bynnag, ddewis mwy nag un).
Derbyniwyd 23 cais gan gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru, ar draws 11 categori. Cafodd y rheithgor eu synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a chan amrywiaeth yr arddull, gan roi cipolwg trawiadol ar yr ystod o waith sy’n cael ei lunio yng Nghymru, a thu hwnt, gan gyfansoddwyr Cymreig.
Disgwylir cyhoeddi’r gwaith a ddewisir i’w berfformio yn ystod y digwyddiad 10-diwrnod yn yr Hydref. Bydd Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2020 yn rhoi llwyfan pwysig i’r cyfansoddwr dethol, ac yn gyfle allweddol i broffil Cymru, ei chyfansoddwyr a’r maes cerddoriaeth newydd.