Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Kiddus Murrell
Resident Music-Creator / Crëwr Cerddoriaeth Preswyl
(Weston Jerwood Creative Bursary Fellow / Cymrawd 2021)
Pleser o’r mwyaf i Dŷ Cerdd yw cyhoeddi penodiad Kiddus Murrell i’w tȋm staff fel Crëwr Cerddoriaeth Preswyl.
Canwr, cynhyrchydd, aml-offerynnwr ac artist gweledol 23 oed o Gaerdydd yw Kiddus. Yn ymrwymedig i’w gymuned yn Grangetown a Butetown, mae Kiddus wedi bod yn perfformio cerddoriaeth yn lleol drwy’r rhan fwyaf o’i fywyd a dechreuodd ryddhau ei frand arbennig o R&B arbrofol bedair blynedd yn ôl, ers pryd mae’n adeiladu cronfa ymroddgar o ffans yn rhyngwladol. Bydd yn ymuno â thȋm Tŷ Cerdd am flwyddyn o 12 Ebrill.
Cefnogir rôl y Crëwr Cerddoriaeth Preswyl gan Fwrsarïau Creadigol Weston Jerwood - menter ar draws y DU i gefnogi creadigwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is i ddatblygu gyrfaoedd yn sectory celfyddydau lle o hyd i raddau helaeth mae’r garfan hon wedi’i thangynrychioli. Mae 50 o ‘Gymrodyr’ yn eu lle mewn sefydliadau creadigol ar draws y DU - saith ohonynt yng Nghymru - gan dderbyn cefnogaeth i feithrin gyrfaoedd yn y celfyddydau. Ochr yn ochr â chael rôl fel aelod o staff mewn sefydliad creadigol, mae’r Cymrodyr yn derbyn mentora a datblygu proffesiynol drwy raglen Bwrsarïau Creadigol Weston Jerwood.
Yn ôl Kiddus: “Dw i wedi cyffroi’n lân am y rôl newydd yma. Y dylanwad pennaf ar fy mhrofiad o fod yn Gymreig yw fy nhreftadaeth ddu ac Asiaidd a’r cymunedau o’m cwmpas ac mae cydweithio â Thŷ Cerdd i alluogi creadigwyr nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli cystal yn sȋn y celfyddydau yng Nghymru’n dibyn o ysgogiad i mi.”
Yn ôl Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Mi gawson ni ein llorio gan Kiddus – artist rhyfeddol sydd â rhyw egni anhygoel o heintus ac mae ei angerdd dros helpu i sicrhau bod lleisiau ei gymuned yn cael eu clywed yn ganolog i’w waith. Rydyn ni’n ymrwymedig i ehangu cyrraedd ac estheteg y gwaith rydyn ni’n ei ddatblygu ac yn ei gefnogi ac mae Kiddus yn addo chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwnnw dros y flwyddyn nesaf.”
Mae Tŷ Cerdd yn gweithio ar draws gwahanol genres i hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru gan fabwysiadu’r slogan, “Os ydych yn cerddora yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi.” Derbyniwyd 79 o geisiadau gan y sefydliad am rôl y Crëwr Cerddoriaeth Preswyl oedd yn agored i gerddorion mewn unrhyw genre. Mae’r pum ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn cael cynnig mentora a chefnogaeth arall fel cynhysgaeth i’w ceisiadau ac mae’r 73 sy’n weddill wedi’u gwahodd i ymgysylltu â chyfleoedd eraill Tŷ Cerdd sy’n amrywio o weithdai ar-lein i lwybrau creadigol.
Bydd y criw o saith Cymrodor y Bwrsarïau yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth ychwanegol gan y sefydliadau lle maent yn breswyl i rwydweithio a chydweithio â’i gilydd. Y sefydliadau preswyl yng Nghymru yw :