top of page
Llywbr i'r Gerddorfa.png

APPLICATIONS CLOSED

​Tŷ Cerdd is calling untrained composers/music-creators* for an exciting skill-development opportunity

 

  • Has your route to music-creation excluded formal university or conservatoire routes?

  • You may be a DIY artist with a digital practice, wanting to learn how to transfer your ideas onto orchestral instruments (clarinet, violin, cello and piano)?

  • Perhaps you’re a self-taught singer-songwriter and you want to add scope and colour to your sound?

  • Or are you an experimental artist who’s come to composition through other artforms?

 

This could be the pathway for you!

​

Over a series of 1-to-1 mentoring sessions with composer Lynne Plowman – plus supplementary resources and sessions from TÅ· Cerdd and project partners BBC National Orchestra of Wales – five music-creators will receive bespoke training and skill-development in writing for orchestral instruments clarinetviolincello and piano. Workshops will take place from early October 2023, and alongside the 1-to-1 mentoring sessions, the project will include group visits to BBC NOW performances and workshops with a chamber ensemble of BBC NOW performers, alongside sessions with BBC NOW & TÅ· Cerdd staff.

 

1-to-1 mentoring sessions will be arranged once participants are recruited but all participants must be free for the following dates:

  • 5 October – half-day kick-off in Cardiff (with Lynne Plowman and chamber ensemble drawn from BBC NOW)

  • 19 October: concert #1 (evening, Cardiff) & pre-concert session

  • 7 December: zoom session, afternoon

  • 8 December: concert #2 (evening, Cardiff)

  • January/February (date tbc) – half-day session

  • 9 March: concert #3 (evening, Cardiff) & pre-concert session

  • 9 May: concert #4 (evening, Cardiff) & pre-concert session

  • May/June (date tbc) – final workshop day 

 

Why us?

  • As Music Centre Wales, TÅ· Cerdd is committed to supporting and developing new Welsh music of all kinds– reinforced by our mantra, “If you’re making music in Wales, it’s Welsh music!”

  • BBC National Orchestra of Wales is the nation’s national symphony orchestra, and invests in the development of composers, particularly through BBC Composition: Wales, its ongoing artist development platform. The next iteration of Composition: Wales will be spring 2025; this Pathway to the orchestra initiative represents one of a range of opportunities to support a broader range of artists to engage with instrumental and orchestral writing leading up to the next call.

  • Lynne Plowman is a leading Wales-based composer whose work is performed regularly on stages around the world. She is a composition tutor at the Royal Welsh College of Music and Drama and the resident composer for the pioneering Dyfed Young Composers scheme.

 

*And what about you?

  • You’ve not had formal composition training in university or conservatoire, and you’re keen to bring orchestral textures into your work.

  • Composers from any musical genre are welcomed, although you’ll be familiar with / a regular user of musical notation.

  • Welsh music-creators  If you’re creating original music and you’ve been based in Wales for at least a year (or if you’re born in Wales but living elsewhere), you’re eligible. Expenses bursaries will be available for artists’ travel within Wales.

  • ​Diversity  We are keen to receive applications from individuals who are under-represented / have faced neglect or exclusion from the arts community; we particularly welcome applications from disabled people, Black, Asian and ethnically diverse people, LGBTQ+ people, and people from lower socio-economic backgrounds.

​ 

If you’re interested, but you have some questions…

…we can chat with you directly by phone or Zoom.  Email to arrange a call.

  

To apply…

 …upload the following information to our portal

  1. Personal details: your name, email address, mobile number, address, plus confirmation that you are over 18 and that you’ve not studied composition in university or conservatoire

  2. Tell us about your practice:  Tell us what you love to do as a music-creator and what you’ve been most proud of. (Max 200 words)

  3. Why would you like to be part of this pathway? Tell us the nature of what you’d like to learn through this pathway, and how you hope it might impact on your work. (Max 300 words)

  4. Do you have any access requirements? Tell us if there is any support or any conditions you need to enable you to participate in the pathway.

  5. Examples of your work: please attach 2 links or attachments to your music (NB: please send links rather than sound or video files; if you need help creating links, let us know.)

NB: Video and audio applications are also welcomed. Record your answers to questions 2, 3 & 4 above (up to 4 minutes’ duration), and upload a link to your recording, adding the information requested in questions 1 & 5 to the upload form. If you need help creating a link to your video, email us for help.

 

Timeline & process

  • Deadline for applications: 12:00 midday on Monday 4 September.

  • ​The panel will consist of Lynne Plowman, Rhonwen Jones (BBC National Orchestra of Wales) and Deborah Keyser (TÅ· Cerdd) and we’ll let you know the outcome by Friday 8 September.

​

​

CEISIADAU WEDI CAU

Mae TÅ· Cerdd yn galw cyfansoddwyr/crewyr cerddoriaeth heb eu hyfforddi* i gyfle cyffrous i ddatblygu eu sgiliau

 

  • A yw eich llwybr i greu cerddoriaeth heb gynnwys llwybrau prifysgol neu gonservatoire ffurfiol?*

  • Efallai eich bod yn artist DIY sydd â gwaith digidol, ac eisiau dysgu sut i drosglwyddo eich syniadau i offerynnau cerddorfaol (clarinét, feiolin, soddgrwth a phiano)?

  • Efallai eich bod yn ganwr-gyfansoddwr sydd wedi dysgu eich hunan a’ch bod am ychwanegu sgôp a lliw i’ch sain?

  • Neu ydych chi’n artist arbrofol sydd wedi dechrau cyfansoddi trwy ffurfiau eraill ar gelfyddyd?

 

Gallai hwn fod yn llwybr i chi!

​

Drwy gyfres o sesiynau mentora un-i-un gyda’r gyfansoddwraig Lynne Plowman – ynghyd ag adnoddau a sesiynau atodol gan TÅ· Cerdd a phartneriaid y prosiect Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCbydd pum crëwr cerddoriaeth yn cael hyfforddiant pwrpasol a sesiynau i ddatblygu sgiliau cyfansoddi ar gyfer offerynnau cerddorfaol (clarinét, feiolin, soddgrwth a phiano). Cynhelir gweithdai o ddechrau mis Hydref 2023, ac ynghyd â’r sesiynau mentora un-i-un, bydd y prosiect yn cynnwys ymweliadau grŵp â pherfformiadau BBC NOW a gweithdai gydag ensemble siambr o berfformwyr BBC NOW, yn ogystal â sesiynau gyda staff BBC NOW a TÅ· Cerdd.

 

Bydd y sesiynau mentora un-i-un yn cael eu trefnu ar ôl recriwtio’r cyfranogwyr ond mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod yn rhydd ar y dyddiadau canlynol:

  • 5 Hydref – hanner diwrnod i ddechrau pethau yng Nghaerdydd (gyda Lynne Plowman ac ensemble siambr wedi’u tynnu o BBC NOW)

  • 19 Hydref: cyngerdd #1 (gyda’r nos, Caerdydd) a sesiwn cyn y cyngerdd

  • 7 Rhagfyr: sesiwn ar zoom, prynhawn

  • 8 Rhagfyr: cyngerdd #2 (gyda’r nos, Caerdydd)

  • Ionawr/Chwefror (dyddiad i'w gadarnau): sesiwn hanner diwrnod

  • 9 Mawrth: cyngerdd #3 (gyda’r nos, Caerdydd) a sesiwn cyn y cyngerdd

  • 9 Mai: cyngerdd #4 (gyda’r nos, Caerdydd) a sesiwn cyn y cyngerdd

  • Mai/Fehefin (dyddiad i'w gadarnau): diwrnod gweithdy olaf

​

Pam ni?

  • Fel Canolfan Cerddoriaeth Cymru, mae TÅ· Cerdd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth Gymraeg newydd o bob math – wedi’i atgyfnerthu gan ein mantra, “Os ydych chi’n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi!”

  • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw cerddorfa symffoni genedlaethol y genedl, ac mae’n buddsoddi yn natblygiad cyfansoddwyr, yn enwedig drwy Cyfansoddi’r BBC: Cymru sydd wrthi’n gyson yn datblygu. Yr iteriad nesaf o Cyfansoddi: Cymru fydd gwanwyn 2025; mae’r fenter hon Llwybr i’r Gerddorfa yn un o sawl cyfle i gefnogi ystod ehangach o artistiaid i fynd i’r afael ag ysgrifennu offerynnol a cherddorfaol.

  • Mae Lynne Plowman yn gyfansoddwraig flaenllaw o Gymru y mae ei gwaith yn cael ei berfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ledled y byd. Mae’n diwtor cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gyfansoddwraig breswyl ar gyfer cynllun arloesol Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed.

 

A beth amdanoch chi?

  • Dydych chi ddim wedi cael hyfforddiant cyfansoddi ffurfiol mewn prifysgol neu conservatoire, ac rydych yn awyddus i ddod ag ansawdd cerddorfaol i’ch gwaith.

  • Mae croeso i gyfansoddwyr o unrhyw genre cerddorol, er y byddwch yn gyfarwydd â nodiant cerddorol / yn ei ddefnyddio’n aml.

  • Crewyr cerddoriaeth o Gymru  Os ydych yn creu cerddoriaeth wreiddiol a’ch bod wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn (neu os ydych wedi’ch geni yng Nghymru ond yn byw yn rhywle arall), rydych yn gymwys. Bydd bwrsariaethau treuliau ar gael i artistiaid deithio o fewn Cymru.

  • Amrywiaeth   Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi wynebu esgeulustod neu allgáu o’r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

​ 

Os oes gennych ddiddordeb, ond bod gennych ambell gwestiwn…

…gallwn gael sgwrs dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch e-bost i drefnu galwad.

  

I ymgeisio…

 …lanlwythwch yr wybodaeth ganlynol i’n porth

 

1.  Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed ac nad ydych wedi astudio cyfansoddi yn y brifysgol nac mewn conservatoire

2.  Dywedwch wrthym am eich gwaith:  Dywedwch wrthym beth rydych yn hoffi ei wneud fel crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod fwyaf balch ohono. (dim mwy na 200 gair)

3.  Pam fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r llwybr hwn? Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei ddysgu drwy’r llwybr hwn, a sut yr ydych yn gobeithio y bydd yn effeithio ar eich gwaith. (dim mwy na 300 gair)

4.  A oes gennych unrhyw ofynion penodol o ran mynediad? Rhowch wybod os oes unrhyw gymorth neu amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y llwybr.

5.  Enghreifftiau o’ch gwaith: rhowch 2 ddolen neu atodiadau i’ch cerddoriaeth (noder: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

 

Sylwer: Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar fideo neu sain. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3 a 4 (i bara hyd at 4 munud), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad. Atebwch gwestiynau 1 a 5 ar y ffurflen a lanlwytho honno hefyd. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, e-bostiwch ni i gael cymorth.

 

Yr amserlen a’r broses

  • Dyddiad cau cael ceisiadau: 12:00 ganol dydd, dydd Llun 4 Medi.

  • Ar y panel bydd Lynne Plowman, Rhonwen Jones (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) a Deborah Keyser (TÅ· Cerdd) a chewch wybod y canlyniad erbyn Dydd Gwener 8 Medi.​

​

​

Pathway to the Orchestra logo strip_edited.png
bottom of page