top of page

14.06.26 Diwrnod cydweithredol ymarferol i gerddorion traddodiadol

  • May 14
  • 1 min read



Adeiladu Ecosystem i’r Traddodiad 

MOMA Tabernacl, Heol Penrallt, Machynlleth, SY20 8AJ

Sunl 14 Mehefin 2026


Ymunwch â ni am ddiwrnod cydweithredol ymarferol sy’n dod â cherddorion, addysgwyr, swyddogion celfyddydau a threfnwyr cymunedol ynghyd i fapio ecosystem cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Bydd y sesiwn ryngweithiol  yn cael eu arwain gan Beth Celyn a Siôn Rickard gyda rheolwr datblygu cerddoriaeth draddodiadol Tŷ Cerdd, Jordan Price Williams. Byddan nhw’n archwilio sut mae pobl yn darganfod, cael mynediad at, a symud drwy’r traddodiad a ble mae rhwystrau, bylchau a chyfleoedd yn bodoli ar draws addysg, dogfennaeth, perfformio a chyllido. 


Gan ddefnyddio dulliau creadigol bydd cyfranogwyr yn adeiladu darlun ar y cyd o’r dirwedd bresennol. Trwy drafodaethau wedi’u hwyluso, byddwn yn gofyn: ble mae’r pwyntiau mynediad a’r mannau o allgáu? Pa seilwaith sydd eisoes yn bodoli? A sut olwg allai fod ar ddyfodol mwy cysylltiedig? 


Nod y sesiwn yw creu syniadau beiddgar ac ymarferol o ddychmygu “Gwasanaeth Cerddoriaeth Draddodiadol Cenedlaethol” i lunio llwybrau cliriach i mewn i’r traddodiad gyda chanlyniadau a all lywio polisi, cryfhau rhwydweithiau a chefnogi buddsoddiad yn y dyfodol. 


Lle ar gyfer meddwl yn strategol, datrys problemau’n greadigol a chyd-greu gweledigaeth, dyma gyfle i lunio dyfodol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, gyda’n gilydd. 


COFRESTRWCH am ddim

Comments


bottom of page