
Please scroll down for English…
Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2024 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000. Mae gan Gymru draddodiad hir a llewyrchus o ganu corawl, a nod y
gystadleuaeth yw cynnal a chodi’r safonau hynny.
Trefnir y gystadleuaeth gan gwmni Rondo Media a bydd y rowndiau cyn-derfynol a’r rownd derfynol yn cael eu recordio gan Rondo i’w darlledu ar S4C.
Mae pump categori yn y gystadleuaeth:
Corau Plant 16 oed ac o dan
Corau Ieuenctid o dan 25 oed
Corau Cymysg
Corau Lleisiau Unfath (Merched neu Meibion)
Côr Sioe (cantorion sy’n cyfuno canu a llwyfannu) lle mae pob agwedd o’rperfformiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth feirniadu gan gynnwys coreograffi, dweud stori ac adloniant gyda ffocws arbennig ar allu cerddorol a thechneg lleisiol.
Mae’r arddull yn ymestyn o gerddoriaeth pop i sioeau cerdd i jazz. Anogir corau i ganu un darn o’r set yn ddigyfeiliant.
Yn dilyn cyfres o glyweliadau sain led led Cymru gwahoddir hyd at bedwar côr ym
mhob categori i ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddyau Aberystwyth ar benwythnos Chwefror 16eg – 18ed 2024.
Bydd pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn derbyn gwobr o £500 a bydd enillwyr y categoriau uchod yn derbyn gwobr ychwanegol o £1,000.
Ni fydd ennill y categori yn gwarantu lle yn y rownd derfynol.
Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis 5 côr o’r penwythnos i ymddangos yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddyau, Aberystwyth ar Sul, Mai 12ed 2024.
Bydd y corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am y teitl Côr Cymru 2024 a’r brif wobr o £4,000.
Gwobr Arweinydd
Cyflwynir gwobr arbennig i’r arweinydd gorau yn y gystadleuaeth. Bydd y dewis yn cael ei wneud yn ystod y rowndiau cyn-derfynol.
Gwobr am y perfformiad gorau gan gôr o’r rowndiau cyn-derfynol sydd ddim yn y
ffeinal.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth gorau o Gymru a chorau o’r tu hwnt i Glawdd Offa
sydd â chysylltiad agos â Chymru neu sy’n perfformio’n gyson yn yr iaith Gymraeg.
Rhaid bod lleiafswm o 20 aelod ym mhob Côr. Yn y categori Corau Ieuenctid, rhaid i bob aelod o’r côr fod o dan 25 oed ar Awst 31ain 2024. Yn y categori Corau Plant,
rhaid i bob aelod o’r côr fod yn 16 oed neu o dan 16 oed ar Awst 31ain 2024.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Hydref 13eg 2023
S4C is proud to announce Côr Cymru 2024- the competition with a first prize of
£4,000. Wales boasts a long tradition of fine choral singing, and this competition
aims to raise the standard even further.
The competition is organised by Rondo Media and the semi-final and final rounds
will be recorded by Rondo Media for broadcast on S4C.
There are five categories:
Children’s Choirs 16 years of age and under
Youth Choirs under 25 years of age
Mixed Voice Choirs
Equal Voice Choirs (Female or Male)
Show Choirs
Show choirs should present a contrasting repertoire of music, for which all aspects of performance will be taken into consideration for judging, including choreography, storytelling, and entertainment, with a particular focus on musicianship and vocal/choral technique. The style typically ranges from pop tunes to musicals and jazz standards. It is encouraged for one number of the set to be performed a cappella.
Following a series of auditions across Wales, up to 4 choirs in each category will be
invited to appear at the Aberystwyth Arts Centre during the weekend of
February 16th – 18th 2024.
Each choir that reaches the semi-finals will receive £500 and the winners of each
category will receive a further prize of £1,000.
Winning the session does not guarantee a place in the final.
A panel of judges will choose 5 choirs from the February weekend to proceed to the final at the Aberystwyth Arts Centre on Sunday May 12th 2024.
A special award will be presented to the best conductor in the competition. This will be based on performances in the semi-finals.
An award will be given for the best performance by a choir from the semi-finals who is not selected to perform in the final.
Applications are invited from choirs from Wales, and choirs outside Wales that have a close connection with Wales, or who perform regularly in the Welsh language.
closing date: 13.10.23