Casi Wyn yn ymuno â thîm Tŷ Cerdd
- Apr 16
- 1 min read
Updated: Apr 20

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Casi Wyn wedi'i phenodi'n Gynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau Tŷ Cerdd. Bydd hi'n helpu i lunio proffil cyfryngau cymdeithasol y sefydliad a hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys llwybrau datblygu artistiaid a gweithdai mewn stiwdio.
Cantores a chyfansoddwr o ddinas Bangor yw Casi Wyn a fu’n gweithio am ddwy flynedd fel Bardd Plant Cymru. Mae hi wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru, Sinfonia Cymru yn ogystal â chyd-gynhyrchiad rhyngwladol diweddar deithiodd Japan - Dawns y Ceirw mewn partneriaeth â Cwmni Dawns Ceneldaethol Cymru, Theatr Cymru a Wales Arts International.
Mae record hir gyntaf o’i chaneuon personol, Plentyn yr Haul, ar gael i’w chlywed.





Comments