top of page

Cyfansoddwyr yn derbyn comisiynau CoDI Bydis


Bydd Jack White yn gweithio gyda Côr Aduniad

Pleser mawr i Dŷ Cerdd yw cyhoeddi bod Jack White ac Iestyn Harding wedi derbyn grantiau i’w galluogi i ddod â gwaith newydd i’r llwyfan, ochr yn ochr â grwpiau perfformio cymunedol. Bu Jack ac Iestyn yn rhan o garfan wreiddiol o wyth artist a ddetholwyd ar gyfer rhaglen Bydis CoDI 18/19 sy’n paru cyfansoddwyr â chymdeithasau lleol. Er mwyn hwyluso hyn, derbyniodd pob cyfansoddwr a grŵp perfformio grant cychwynnol gan CoDI, gyda’r parau’n cydweithredu dros gyfres o weithdai ar ddechrau 2019.


Bu Jack White yn cydweithio â Chôr Aduniad o Gwmbrân i ddatblygu Beacons, darn lleisiol arbrofol sy’n cynnwys defnyddio seinyddion symudol. Daw’r enw o fynyddoedd Bannau Brycheiniog lle byddai tanau’n cael eu cynnau i rybuddio am unrhyw fyddinoedd oedd yn dynesu. Yn y gwaith defnyddir tân yn fetaffor ar gyfer newid posibl a bydd y côr yn symud o gwmpas y gofod perfformio cyn dod at ei gilydd yn yr adran olaf. Bydd y grant ychwanegol o £750 yn gadael i Jack weithio gyda’r côr (sy’n derbyn £250) i gwblhau’r darn yn barod ar gyfer ei berfformiad cyntaf ym mis Mawrth 2020.


Mae Iestyn Harding yn ysgrifennu consierto ar gyfer Cerddorfa Symffoni Y Fenni

Bu Iestyn Harding yn gweithio ar frasluniau ar gyfer concerto triphlyg gyda cherddorion o Gerddorfa Symffoni’r Fenni dros dri gweithdy yn ystod mis Mehefin. Gan adeiladu ar yr arbrofion hyn, bydd yn awr yn gweithio gyda’r grŵp i gwblhau ei waith i’r feiolín, ffliwt a chorn unawd a cherddorfa’n barod ar gyfer ei berfformiad cyntaf yn ystod haf 2020.


“Bydis” yw un o’r amryfal feysydd sy’n cael eu rhedeg fel rhan o CoDI, rhaglen ddatblygu Tŷ Cerdd i gyfansoddwyr Cymreig. O fis Ionawr i fis Mehefin 2019, bu wyth pâr o artistiaid / grwpiau cerdd cymunedol wrthi mewn gweithdai’n datblygu darnau newydd oedd yn cynnwys cerddoriaeth i bumawd chwyth, cerddoriaeth electronig arbrofol a darn i fandiau pres yn chwarae ar y cyd. Dewiswyd cynigion Jack White ac Iestyn Harding i ddatblygu eu gwaith gwreiddiol gan banel Tŷ Cerdd i fynd yn eu blaenau at y cam nesaf.


Yn ôl Matthew Thistlewood, Tŷ Cerdd: “Mae wedi bod yn bleser gweld ystod y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei ddatblygu drwy CoDi dros y flwyddyn ddiwethaf - ac yn galonogol gweld y fath gysylltiadau bywiog rhwng cyfansoddwyr proffesiynol a’n cymdeithasau ffyniannus. Roedd prosiectau Jack ac Iestyn ill dau’n ddychmygus yn artistig ac yn hygyrch i’r grwpiau roeddent yn cydweithio â nhw - ac rydyn ni mor falch bod yr ensembles am gydweithio â’r cyfansoddwyr i’w cyflwyno i gynulleidfaoedd.”


Bydd galwad am artistiaid ar gyfer cyfle Bydis CoDI 19/20 ar ganol mis Hydref.

Comments


bottom of page