
Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2024 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000. Mae gan Gymru draddodiad hir a llewyrchus o ganu corawl, a nod y
gystadleuaeth yw cynnal a chodi’r safonau hynny.
Trefnir y gystadleuaeth gan gwmni Rondo Media a bydd y rowndiau cyn-derfynol a’r rownd derfynol yn cael eu recordio gan Rondo i’w darlledu ar S4C.
Mae pump categori yn y gystadleuaeth:
Corau Plant 16 oed ac o dan
Corau Ieuenctid o dan 25 oed
Corau Cymysg
Corau Lleisiau Unfath (Merched neu Meibion)
Côr Sioe (cantorion sy’n cyfuno canu a llwyfannu) lle mae pob agwedd o’r
perfformiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth feirniadu gan gynnwys coreograffi,
dweud stori ac adloniant gyda ffocws arbennig ar allu cerddorol a thechneg lleisiol. Mae’r arddull yn ymestyn o gerddoriaeth pop i sioeau cerdd i jazz. Anogir corau i ganu un darn o’r set yn ddigyfeiliant.
Yn dilyn cyfres o glyweliadau sain led led Cymru gwahoddir hyd at bedwar côr ym
mhob categori i ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddyau Aberystwyth ar benwythnos Chwefror 16eg – 18ed 2024.
Bydd pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cyn-derfynol yn derbyn gwobr o £500 a bydd enillwyr y categoriau uchod yn derbyn gwobr ychwanegol o £1,000.
Ni fydd ennill y categori yn gwarantu lle yn y rownd derfynol.
Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis 5 côr o’r penwythnos i ymddangos yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddyau, Aberystwyth ar Sul, Mai 12ed 2024. Bydd y corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am y teitl Côr Cymru 2024 a’r brif wobr o £4,000.
dyddiad cau: 13.10.23
With a first prize of £4,000 and the prestigious Côr Cymru title, the the aim of the competition since its inception has been to sustain and raise the choral standards in the Land of Song.
There are five categories in the competition – children’s choirs, youth choirs, mixed choirs, equal voice choirs and show choirs.
A panel of international judges will choose up to four choirs in each category to perform in the semi-finals in February 2024. Each choir that reaches the semi-finals will receive £500 with the winner of the category receiving a further £1,000.
The five best choirs in the semi-finals will be chosen by the international judges to proceed to the grand final on May 12th at the Aberystwyth Arts Centre which will be live on S4C.
There’s an award for the best conductor and a prize for the best performance by a choir that hasn’t reached the final.
closing date: 13.10.23