top of page

NYAW appoints Evan Dawson as its new Chief Executive



National Youth Arts Wales, the national charity for young performers and creatives aged 11-25, has appointed Evan Dawson as its new Chief Executive. Evan will start his role with National Youth Arts Wales in October 2023.


Evan, a Welsh-speaker born in Cardiff, has previously worked as CEO of Live Music Now and, most recently, CEO of the Royal Photographic Society – where he developed a new inclusive strategy and identity, its first youth programme and a series of visual arts and wellbeing projects.


As a saxophonist and piano player, his own musical training included South Glamorgan’s county music groups before joining National Youth Jazz Orchestra and spending a year studying jazz and studio music at Guildhall School of Music and Drama. He has since led his own 50-piece big band, volunteered as a children’s music leader on a housing estate project, and written music for TV and live performance.




Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer perfformwyr a phobl ifanc greadigol 11-25 oed, wedi penodi Evan Dawson yn Brif Weithredwr newydd. Bydd Evan yn dechrau ar ei swydd gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ym mis Hydref 2023.


Mae Evan, sy’n Gymro Cymraeg a aned yng Nghaerdydd, wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Live Music Now ac, yn fwy diweddar, fel Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol – lle y datblygodd strategaeth a hunaniaeth gynhwysol newydd, ei rhaglen ieuenctid gyntaf a chyfres o brosiectau celfyddydau gweledol a llesiant.


Yn sacsoffonydd a phianydd, roedd ei hyfforddiant cerddorol ef ei hun yn cynnwys grwpiau cerddoriaeth sirol De Morgannwg, cyn ymuno â’r Gerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid a threuliodd flwyddyn yn astudio jazz a cherddoriaeth stiwdio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall. Ers hynny mae wedi arwain ei fand mawr 50 offeryn ei hun, mae wedi gwirfoddoli fel arweinydd cerddoriaeth ar brosiect ystâd dai ac wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a pherfformiadau byw.

bottom of page