In September, Tŷ Cerdd’s director, attended the annual conference and general assembly of IAMIC (International Association of Music Centres), an international network of organisations that promote, document and signpost the music of their country or region in a diversity of musical genres. The event took place in Latvia – in Riga and port city Liepāja, on the Baltic Sea.
The conference covered a wide range of issues of concern, from developing sustainable organisations, to artistic responses to the climate justice, and Tŷ Cerdd took part in a panel discussion: Music education: its role, objectives and challenges, sharing the recent developments in Wales around the new National Music Service.
Latvia’s vibrant music scene was platformed in a number of events, including a performance by the Latvian Radio Choir in Riga, and by Liepaja Symphony Orchestra in the city’s stunning “Great Amber” concert hall.
The proximity to the ongoing war – Russia is Latvia’s eastern neighbour – was palpable, and warm discussions were had about the impact on everyday life, as well as programming and performing.
Ym mis Medi, teithiodd cyfarwyddwr Tŷ Cerdd i gynhadledd flynyddol a chynulliad cyffredinol IAMIC (Cymdeithas Ryngwladol y Canolfannau Cerdd), rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau sy’n hyrwyddo, dogfennu a goleuo cerddoriaeth eu gwlad neu ranbarth mewn amrywiaeth o arddulliau cerddorol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Latfia – yn Riga a dinas porthladd Liepāja, ar y Môr Baltig.
Ymdriniodd y gynhadledd ag ystod eang o faterion o bryder, o ddatblygu sefydliadau cynaliadwy, i ymatebion artistig i gyfiawnder hinsawdd, a chymerodd Tŷ Cerdd ran mewn trafodaeth banel: Music education: its role, objectives and challenges, gan rannu’r datblygiadau diweddar yng Nghymru o gwmpas y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol newydd.
Llwyfannwyd sîn gerddoriaeth fywiog Latfia mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiad gan Gôr Radio Latfia yn Riga, a gan Gerddorfa Symffoni Liepāja yn neuadd gyngerdd syfrdanol “Great Amber” y ddinas.
Roedd yr agosrwydd at y rhyfel parhaus – Rwsia yw cymydog dwyreiniol Latfia – yn amlwg, a chafwyd trafodaethau cynnes am yr effaith ar fywyd bob dydd, yn ogystal â rhaglennu a pherfformio.
Comments