
CoDI: cyflwyniad i godi arian ac ysgrifennu cynigion/ceisiadau
Dydd Mawrth 30 Mehefin a dydd Iau 2 Gorffennaf, 1000-1300 (drwy Zoom)
Mae Tŷ Cerdd yn cynnig cwrs hyfforddiant 2 sesiwn ar-lein i 15 cyfansoddwr/crëwr cerddoriaeth dan arweiniad y codwr arian profiadol, Laura Drane.
Byddwch yn dysgu am wahanol ffynonellau cyllid ac yn dysgu’r sgiliau elfennol angenrheidiol i ysgrifennu cynigion. Does dim angen gwybodaeth flaenorol.
Erbyn diwedd y ddau weithdy, dylech fod yn gallu:
-
ymchwilio i amrywiaeth o gyllidwyr i’ch helpu i asesu pa un, os o gwbl, sy’n gweddu orau i chi
-
ysgrifennu paragraff rhagarweiniol addas (neu ragor) sy’n crynhoi’ch cynnig
-
adnabod sut mae cyllidwyr ac aseswyr yn gweithredu a’r prosesau allweddol a ddefnyddir yn gyffredin gan gyllidwyr y Loteri, sefydliadau ac ymddiriedolaethau preifat ac yn y blaen
-
dadansoddi amrywiaeth eich ffrydiau incwm ac adnabod y posibiliadau o ran cyllid ychwanegol gan ystod o ffynonellau a mathau (e.e. incwm a enillir, cyllid torfol, nawdd)
-
adnabod ieithwedd a dull ysgrifennu a all fod yn addas i chi
Mae Laura Drane yn brofiadol ym maes ysgrifennu cynigion/ceisiadau a chodi arian a hithau wedi llwyddo i rwydo amryw o ffynonellau cyllid i ddigwyddiadau a rhaglenni celfyddydol a diwylliannol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Cynhyrchydd creadigol yw Laura ar gyfer gwyliau, digwyddiadau a theithiau ac mae’r sesiwn yma wedi’i gwreiddio yn yr hyn mae wedi’i ddysgu o’i phrofiad wrth godi arian yn rheolaidd.
WEDI GWERTHU ALLAN