top of page

Galwad i artistiaid: i fenywod o liw sydd wedi’u lleoli yng Nghymru

Cyfle wedi’i dalu ar gyfer dwy gantores, dwy ddawnswraig, dwy ddrymwraig a 2 fardd

Tŷ Cerdd, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru
yn cyhoeddi llwybr i ddatblygu artistiaid ar gyfer dawnsio Somalïaidd

Mae Dawns Somalïaidd yn un o arferion traddodiadol gwerthfawr Cymru. Yn rhyfeddol nid yw wedi derbyn cyllid na chefnogaeth i ddatblygu, ac mae’r menywod sy’n ymarfer y ddisgyblaeth yn gwneud hynny heb gefnogaeth. Bydd y llwybr hwn yn cynnig ffioedd i gyfranogwyr, lle i weithio, cymorth mentora a chysylltiadau yn y sector.

 

Mewn cyfres o weithdai, bydd yr wyth artist sy’n cymryd rhan yn cael eu harwain trwy lwybr datblygu gan bedwar artist arweiniol:

  • Dawnswraig – artist creadigol yw Muna Isman sy’n mwynhau dawns Somalïaidd yn ei holl gymhlethdodau – y creadigrwydd wrth ddysgu’r gwahanol fathau o ddawnsiau ond hefyd yr ystyr diwylliannol y tu ôl i bob un ohonynt. Mae’n edrych ymlaen at ddatblygu ei sgiliau trwy’r llwybr hwn a’u rhannu ag eraill.

  • Cantores – mae Ifraah Abdilahi yn Somaliad creadigol sy’n byw yng Nghymru ac yn adnabyddus ledled Cymru a thu hwnt am arbenigo mewn canu Buraanbur (barddoniaeth yn y traddodiad Somalïaidd). Mae Ifraah yn dangos menter a chreadigrwydd yn ei gwaith ac yn edrych ymlaen at ddatblygu ei sgiliau Buraanbur hyd yn oed ymhellach fel un o artistiaid arweiniol y prosiect hwn.

  • Drymwraig – Faduma Jama, o dras Somalïaidd mae hi’n byw yma yng Nghymru ac yn angerddol am ddawnsio Somalïaidd ac yn arbennig drymio gyda’r Duff (Drwm). Ar hyn o bryd mae Faduma yn gweithio ar ddatblygu ei sgiliau drymio i gyd-fynd â’r llu o ddawnsiau Somalïaidd, gan gynnwys Jhaan Dheer. 

  • Bardd – Mae Umulkhayr Mohamed yn awdur ac artist Somalïaidd o Gymru, sydd hefyd yn cynhyrchu gwaith o dan yr enw arall Aisha Ajnabi. Mae ei hymarfer artistig yn ymwneud yn bennaf â barddoniaeth, delwedd symudol artist, arsefydliad a pherfformiad sy'n archwilio'r tensiwn sy'n bresennol rhwng mwynhau'r weithred o grwydro rhwng tymereddau rhydd ac angen swyddogaethol i leoli'ch hun yn y presennol.

 

Bydd yr wyth artist yn cael eu dewis gan banel yn dilyn galwad agored, a bydd pob un yn derbyn £500 am gymryd rhan. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ond croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir costau unrhyw artistiaid sydd angen teithio. Daw’r cyfan i ben gyda pherfformiad i rannu’r gwaith y mae’r cyfranogwyr wedi’i ddatblygu gyda’i gilydd.

 

Rhaid i’r holl gyfranogwyr fod yn rhydd ar gyfer y gweithdai canlynol yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, yn ogystal ag ar gyfer y perfformiad (yr union leoliad yng Nghaerdydd i’w gadarnhau).

gweithdy #1

1000-1700, dydd Sadwrn 14 Ionawr

gweithdy #2

1000-1700, dydd Sadwrn 25 Chwefror

gweithdy #3

1000-1700, dydd Sadwrn 4 Mawrth

gweithdy #4

1000-1700, dydd Sul 5 Mawrth

rhannu’r gwaith (cynulleidfa drwy wahoddiad)

pnawn dydd Sadwrn 11 Mawrth

Oes gennych chi ddiddordeb, neu ydych chi’n adnabod rhywun allai fod â diddordeb?

 

  • Byddwn yn cynnal sesiwn i chi alw draw i’n gweld yng Nghanolfan Gymunedol Butetown nos Fawrth 22 Tachwedd @ 1700-1900 – gallwch alw heibio unrhyw bryd yn ystod y slot 2 awr i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais. Byddwn yn siarad am y cyfle, sut bydd yn gweithio, a sut i wneud cais. Os ydych am wneud cais, gallwn fwrw ymlaen a’i ysgrifennu gyda chi bryd hynny.

 

  • Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn Zoom (dydd Iau 24 Tachwedd 1700) i fenywod sy’n methu dod yn gorfforol i’r sesiwn galw-draw – i ateb cwestiynau a chynorthwyo â’r ceisiadau. Bydd y sesiwn yn cael ei recordio, i’w ddosbarthu i’r rheiny nad ydynt ar gael i ymuno. COFRESTRWCH YMA ar gyfer y sesiwn honno.

 

  • Gallwn hefyd gael sgwrs dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch e-bost atom i drefnu galwad.

 

Os credwch eich bod yn barod i ymgeisio…

…lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n porth

  1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18

  2. Soniwch am eich gwaith: ydych chi’n canu, dawnsio, barddoni/ysgrifennu, chwarae’r drwm? Dywedwch wrthym beth sy’n mynd â’ch bryd fel artist a beth rydych yn fwyaf balch ohono. (dim mwy na 200 gair)

  3. Pam fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r llwybr hwn? Beth yr hoffech ei gyflawni? Beth ydych chi’n gobeithio y gall y cyfle hwn ei gynnig i chi?

  4. Enghreifftiau o’ch gwaith: os oes gennych enghreifftiau o’ch gwaith artistig, anfonwch ddwy ddolen neu atodiadau i’ch cerddoriaeth (e.e. barddoniaeth; dolenni i sain neu fideo – sylwer: byddem yn ddiolchgar petaech yn anfon dolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; cofiwch gysylltu os oes angen help arnoch i greu dolenni.)

 

Rydym yn croesawu ceisiadau fideo hefyd. Recordiwch eich fideo yn ateb cwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 3 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch fideo, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 4 ar y ffurflen i’w lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, mae pob croeso i chi yrru e-bost atom i gael help.

 

Yr amserlen a’r broses

  • Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: 12:00 ddydd Llun 12 Rhagfyr

  • Bydd y panel (sef y pedwar artist arweiniol a Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd) yn cwrdd ddydd Mercher 15 Rhagfyr.

  • Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi erbyn: ddydd Llun 19 Rhagfyr

 

Mynediad

Rydyn ni am ddileu cynifer o rwystrau ag y gallwn – os hoffech siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â Deborah Keyser a bydd hi’n fwy na pharod i geisio helpu i ddod o hyd i ateb.

Somali Dance logo strip revised.png
bottom of page