Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Yn dilyn galwad agored mae chwech o grewyr cerddoriaeth wedi’u dewis i gymryd rhan yn Ffidil Plws, llwybr datblygu taledig mewn ysgrifennu ar gyfer ffidil ac electroneg. Byddant yn cael eu mentora drwy’r broses gan Angharad Davies (cyfansoddwr) a Darragh Morgan (feiolinydd), artistiaid blaenllaw ym myd cerddoriaeth newydd y DU.
Following an open call six music-creators were selected to participate in Ffidil Plws, a paid development pathway in writing for violin and electronics. They will be mentored through the process by Angharad Davies (composer) and Darragh Morgan (violinist), leading artists in the UK’s new-music scene.
Mae Delyth Maiya Field yn gyfansoddwraig Japaneaidd-Gymreig sydd â diddordeb angerddol mewn cerddoriaeth electronig ac acwstig. A hithau wedi graddio o’r Coleg Cerdd Brenhinol, mae hi’n dal i archwilio posibiliadau’r dechnoleg gerddoriaeth ddiweddaraf a ffyrdd newydd o gyfansoddi cerddoriaeth.
Delyth Maiya Field is a Japanese-Welsh composer with a passionate interest in both electronic and acoustic music. A graduate of the Royal College of Music, she continues to explore the possibilities of the latest music technology and new ways of composing music.
Cyfansoddwr o’r De yw Joseph Graydon ond yn byw yn Llundain. Mae wedi astudio cyfansoddi yng Nghymru, yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Mae ei gerddoriaeth wedi’i pherfformio a’i recordio gan EXAUDI Vocal Ensemble, Plus Minus Ensemble, Ensemble Cerddoriaeth Newydd UPROAR Cymru, ICTUS Ensemble Brwsel, ynghyd ag unawdwyr o’i genhedlaeth ei hun.
Joseph Graydon is a composer from South Wales and is based in London. He has studied composition in Wales, at the Royal Academy of Music and Guildhall School of Music and Drama. His music has been performed and recorded by EXAUDI Vocal Ensemble, Plus Minus Ensemble, UPROAR New Music Ensemble Wales, ICTUS Ensemble Brussels, alongside soloists of his own generation.
Mae Joshua Lascar yn gyfansoddwr-gitarydd Ffrengig-Americanaidd sy’n cyfuno ei gefndir mewn gitâr jazz ag electroneg. Mae hefyd yn hunangynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer ffilm/teledu, a hynny’n cynnwys Netflix, Nat. Geo., BBC, Bravo, Channel 4 & 5 ac S4C.
Joshua Lascar is a French-American composer-guitarist who blends his background in jazz guitar with electronics. He also self-produces music for Film/TV, with credits including Netflix, Nat. Geo., BBC, Bravo, Channel 4 & 5 and S4C.
Mae Natalie Roe yn gyfansoddwraig ac yn artist electronig sydd â diddordeb mewn cyfuno’r bydoedd acwstig ac electronig mewn perfformiadau byw. Mae hi’n mwynhau cydweithio’n fawr iawn, ac yn aml yn dod ag elfennau gweledol i mewn i’w gwaith ac wrth ei bodd yn gweithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol.
Natalie Roe is a composer and electronic artist interested in combining the acoustic and electronic worlds in live performance. With a passion for collaboration, she often brings in visual elements to her work and loves working on interdisciplinary projects.
Cyfansoddwr ac artist amlgyfrwng a aned ym Melffast yw Richard McReynolds, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei waith yn aml yn archwilio ffyrdd o uno gwahanol gyfryngau artistig gan ddefnyddio codio creadigol a thechnoleg ddigidol.
Richard McReynolds is a Belfast-born composer and multimedia artist living in Cardiff. His work often explores ways of merging different artistic mediums using creative coding and digital technology.
Mae Sara Evelyn yn artist sain rhyngddisgyblaethol y mae ei gwaith cyfansoddi yn rhoi ystyriaeth i ofod, deunyddiau, a safle ac yn aml caiff ei gwaith ei greu wrth ymateb i elfennau deunyddiau ac acwstiaeth lle neu amgylchedd penodol. Mae’n gweithio â llais a recordio allan yn y maes ochr yn ochr ag organ bib, telyn, ffidil, syntheseisydd a recordiad electroacwstig ar dâp casét i greu cyfansoddiadau amlhaenog a pherfformiadau byw.
Sara Evelyn is a sound and interdisciplinary artist whose compositional practice considers space, materiality, and site and is often created as a response to the acoustic or material elements of a specific place or environment. She works with voice and field recording alongside pipe organ, harp, violin, synthesiser and electroacoustic recording on cassette tape to create multilayered compositions and live performances.
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner