Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Adjua, Bethan Mai, Dean Yhnell a Sara Evelyn wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn Llwybr i'r Gerddorfa.
Drwy gyfres o sesiynau mentora un-i-un gyda’r gyfansoddwraig Lynne Plowman – ynghyd ag adnoddau a sesiynau atodol gan Tŷ Cerdd a phartneriaid y prosiect Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – bydd pedwar crëwr cerddoriaeth yn cael hyfforddiant a sesiynau pwrpasol i ddatblygu sgiliau cyfansoddi ar gyfer offerynnau cerddorfaol (clarinét, ffidil, soddgrwth a phiano).
Yn ogystal â’r sesiynau mentora un-i-un gyda Lynne, bydd y prosiect yn cynnwys ymweliadau grŵp â pherfformiadau BBC NOW a gweithdai gydag ensemble siambr perfformwyr BBC NOW, ynghyd â sesiynau gyda BBC NOW a chefnogaeth arbenigol gan staff Tŷ Cerdd.
We’re pleased to announce that Adjua, Bethan Mai, Dean Yhnell and Sara Evelyn have been selected to participate in Pathway to the Orchestra.
Over a series of one-to-one mentoring sessions with composer Lynne Plowman – plus supplementary resources and sessions from Tŷ Cerdd and project partners BBC National Orchestra of Wales – the four artists will receive bespoke training and skill-development in writing for orchestral instruments (clarinet, violin, cello and piano).
In addition to the one-to-one mentoring sessions with Lynne, the project will include group visits to BBC NOW performances and workshops with a chamber ensemble of BBC NOW performers, alongside sessions with BBC NOW and specialist support from Tŷ Cerdd staff.

Adjua
Mae cerddoriaeth Adjua yn amrywio o Indi i neo-soul, gydag elfennau o jazz, R&B, a lliwiau wedi’u hysbrydoli gan Affro. Mae hi’n peintio tirweddau sain bywiog drwy riffiau cain, harmonïau haenog, a geiriau sydd ar yr un pryd yn drawsgynnol, yn fyfyriol, ac yn hollol ddynol. Yn agos atoch ac yn eang ar yr un pryd, mae ei pherfformiadau’n denu gwrandawyr i ofod lle mae bregusrwydd a chryfder yn cydfodoli. A hithau’n chwaraewr bas a gitâr medrus, mae Adjua yn dod â dawn gerddorol a hyblygrwydd i’w chrefft. Wedi’i hysbrydoli gan artistiaid fel Erykah Badu, Sade, Hiatus Kaiyote, Aaliyah, a Terence Trent D’Arby, mae hi’n cyfuno dylanwadau amserol â’i safbwynt ffres ei hun. Mae Adjua wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ond yn ymestyn ymhell y tu hwnt wrth i’w cherddoriaeth fod ar rai o lwyfannau mwyaf cyffrous y byd, gan gynnwys Gŵyl Glastonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, SXSW (Austin, Texas), Sofar Sounds Efrog Newydd, WAVES Fienna, New Skool Rules (Rotterdam), a Viva Sounds (Sweden). Yn 2024, dyfarnwyd Gwobr Triskel iddi yng Ngwobr Gerddoriaeth Cymru, gan gydnabod ei bod yn un o’r lleisiau mwyaf cyffrous sy’n codi yng Nghymru. Mae ganddi gyfres o recordiau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod, a bydd Adjua yn dal ati i dorri ei chwys ei hun yn y dirwedd gerddorol sydd ohoni, wedi’i adeiladu ar ddilysrwydd, celfyddyd a chysylltiad.
Adjua’s music spans from Indie to neo-soul, with elements of jazz, R&B, and Afro-inspired colours. She paints vivid soundscapes with delicate riffs, layered harmonies, and lyrics that are at once transcendent, meditative, and deeply human. Both intimate and expansive, her performances draw listeners into a space where vulnerability and strength coexist. A proficient bass and guitar player, Adjua brings musicianship and versatility to her craft. Inspired by artists such as Erykah Badu, Sade, Hiatus Kaiyote, Aaliyah, and Terence Trent D’Arby, she blends timeless influences with her own fresh perspective. Based in Cardiff but reaching far beyond, Adjua has brought her music to some of the world’s most exciting stages, including Glastonbury Festival, Green Man, SXSW (Austin, Texas), Sofar Sounds New York, WAVES Vienna, New Skool Rules (Rotterdam), and Viva Sounds (Sweden). In 2024, she was awarded the Triskel Award at Wales Music Prize, recognising her as one of the most exciting emerging voices in Wales. With a string of releases scheduled for the coming year, Adjua continues to carve out her own space in today’s musical landscape, built on authenticity, artistry, and connection.

Bethan Mai
Cyfansoddwr, crëwr a chynhyrchydd cerddoriaeth yw Bethan Mai. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 gyda’i band Rogue Jones am eu hail albwm: Dos Bebés. Mae hefyd wedi rhyddhau darnau arbrofol unigol, a’r llynedd gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel Cyfansoddwr Sioe Lwyfan i gwmni Frân Wen gyda’u trosiad llwyfan o’r gyfres deledu arobryn Deian a Loli. A hithau’n artist aml-gyfrwng, mae Bethan hefyd yn gweithio fel arlunydd yn ogystal ag wedi bod mewn sawl cynhyrchiad fel actor sgrin a llwyfan. Hyfforddodd ar y cwrs Actio yn Central School of Speech and Drama, Llundain, a chyn hynny ar gwrs celf UWE, Bryste a Choleg Celf Caerfyrddin. Mae Bethan wrth ei bodd yn creu darnau arloesol sy’n gwneud i bobl ymgysylltu a theimlo’n fyw. Ym Mhen-bre, ger y môr, y mae Bethan yn byw ac mae wrth ei bodd â byd natur a mynd am antur gyda’i chi Myfi Mŵg a’i theulu bach sy’n ysbrydoliaeth ddiddiwedd yn ei gwaith, cyn mynd ’nôl adre i gael disgo yn y gegin.
Bethan Mai is a composer, creator and music producer. She won the Welsh Music Prize with her band Rogue Jones for their second album: Dos Bebés. She has also released experimental solo pieces and last year saw her debut as a Theatre Composer for critically acclaimed Fran-Wen’s stage adaptation of the much-loved TV series ‘Deian a Loli’. As a multi-disciplined artist, she is also an illustrator, and worked extensively as a stage and screen actor. Bethan trained at the Central School of Speech & Drama, London, on the Acting course after studying Art at UWE, Bristol and Carmarthen School of Art. She loves creating pieces that make people feel alive and connected. Bethan lives by the sea in Pen-bre. She loves exploring nature with her dog Myfi Mŵg and her little family, who are an endless inspiration in her work, before coming back and having a kitchen disco.

Dean Yhnell
Mae Dean Yhnell, a adwaenir hefyd dan yr enw Beat Technique, yn artist creadigol amlddisgyblaethol a niwroamrywiol sy’n gwisgo llawer o hetiau. Mae ganddo ddawn ar gyfer bîtbocsio, cyfansoddi, bod yn DJ ac addysgu. Ysgogiad ei gynyrchiadau yw archwilio – croesi genres a chymysgu profiadau sonig unigryw. Mae Beat Technique wedi ennill cydnabyddiaeth fel addysgwr cerddoriaeth medrus yn y DU. Cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobrau Addysg Cerddoriaeth a Drama, ac mae wedi cael cyfle i rannu ei farn am bŵer trawsnewidiol cerddoriaeth i Gyngor Llais Prydain, Coleg Brenhinol y Meddygon a’r Ganolfan ar gyfer Cyfiawnder y Bobl. Drwy gydweithredu rhwng y byd adloniant a’r byd corfforaethol, mae wedi gweithio yn y gorffennol gyda Coca Cola, Facebook, Lloyds Bank, Vodafone, Glaxosmithkline, yr SAS, Arctic Coffee a Think.gov, ymhlith eraill. Mae wedi perfformio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Royal Ascot, 02 Llundain, Neuadd Frenhinol Albert, Stadiwm Aviva, Glastonbury, Neuadd Dewi Sant, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cae Ras Silverstone ac i Stade De France llawn.
Dean Yhnell, also known by his alias Beat Technique, is a neurodivergent multidisciplinary creative artist who wears many hats, with a talent for beatboxing, composing, DJing and Teaching. His productions are driven by exploration - crossing genres and blending unique sonic experiences. Beat Technique has garnered recognition as an accomplished music educator in the UK. A Music & Drama Education Awards nominee, he has shared his insights on the transformative power of music to the British Voice Council, Royal College of Physicians and the Centre for Peoples Justice. In entertainment and corporate collaborations, he has previously worked with Coca Cola, Facebook, Lloyds Bank, Vodafone, Glaxosmithkline, the SAS, Arctic Coffee and Think.gov, among others. He has performed nationally and internationally, including at Royal Ascot, 02 London, Royal Albert Hall, Aviva Stadium, Glastonbury, St Davids Hall, Greenman Festival, Silverstone Racecourse and to a full Stade De France.

Sara Evelyn
Mae Sara Evelyn yn artist sain a rhyngddisgyblaethol ac mae ei gwaith yn cynnwys senograffeg, cyfansoddi, gwneud printiau, electroneg DIY ac adeiladu offerynnau. Mae ei gwaith yn ystyried gofod, materoldeb, a safle ac yn aml caiff ei greu fel ymateb i elfennau acwstig neu faterol mewn man neu amgylchedd penodol. Mae gwaith cyfansoddi Sara yn dwyn ynghyd ymchwil ei gradd MA, gan blethu arferion gofodol a thopograffig i archwilio cof a lle, gydag arbrofion mewn byrfyfyrio, perfformio a recordio mewn gwahanol amgylcheddau acwstig (eglwysi, chwareli, ogofâu). Mae hi’n gweithio’n bennaf â llais a recordio allan yn y maes ochr yn ochr â recordio organ bibell, syntheseisydd, telyn, tâp ac electroacwstig i greu cyfansoddiadau amlhaenog a pherfformiadau byw.
Sara Evelyn is a sound and interdisciplinary artist whose practice spans scenography, composition, printmaking, DIY electronics and instrument building. Her work considers space, materiality, and site and is often created as a response to the acoustic or material elements of a specific place or environment. Sara's compositional practice brings together her MA research, interweaving spatial and topographical practices to explore memory and place, with experiments in improvisation, performing and recording in different acoustic environments (churches, quarries, caves). She works primarily with voice and field recording alongside pipe organ, synthesiser, harp, tape and electroacoustic recording to create multilayered compositions and live performances.

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network






