Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
PECYN CYMORTH

Defnyddio’r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol i ffurfio eich prosiect
Does dim rhaid i chi ddarllen Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol Cyngor Celfyddydau Cymru cyn ymgeisio, ond os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, mae’n lle gwych i ddechrau arni.
Comisiynwyd yr Adolygiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn deall beth sydd ei angen ar y sector cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n cofnodi lleisiau dros 200 o gerddorion, addysgwyr, trefnwyr, a chynulleidfaoedd, gan gynnig darlun casgliadol ynghylch ble mae’r egni, y cyfleoedd a’r bylchau.
Dengys yr adroddiad gryfder a breuder y sîn. Mae’n dangos bod cyfoeth o wybodaeth, creadigrwydd ac arfer da ledled Cymru ond sonia hefyd am yr angen i gael gwell cysylltiadau a chefnogaeth, a chryfhau pa mor weladwy ydyw. Gall prosiectau a ariennir gan y cynllun hwn helpu i ddiwallu rhai o’r anghenion hyn.
​
Er bod yr Adolygiad wedi canfod bod datblygiad creadigol artistiaid yn ffactor pwysig, mae’n bwysig nodi bod prosiectau sy’n canolbwyntio’n unig ar yr elfen hon y tu allan i gwmpas y gronfa hon ar hyn o bryd.
Efallai y gallech ddefnyddio’r Adolygiad ar gyfer y canlynol:
-
Nodi lle gallai eich gwaith lenwi bwlch neu gryfhau rhwydwaith.
-
Canfod cyfleoedd i gydweithio ag eraill neu adeiladu cysylltiadau rhwng cymunedau.
-
Dod o hyd i syniadau ar gyfer prosiectau sy’n ymateb i heriau gwirioneddol yn y sector.
-
Dangos sut mae eich syniad yn adeiladu ar leisiau eraill yn y gymuned cerddoriaeth draddodiadol.
Syniadau am brosiectau sy’n gysylltiedig â chanfyddiadau’r Adolygiad
Dyma rai ffyrdd y gallai artistiaid droi themâu allweddol yr Adolygiad yn syniadau prosiect cryf:
1. Dysgu cymunedol a llawr gwlad
​
Yr her: Canfu’r Adolygiad fod mynediad i gerddoriaeth draddodiadol yn aml yn dibynnu ar bwy rydych chi’n ei adnabod neu ble rydych chi’n byw.
​
Syniadau am brosiectau:
-
Creu clwb alawon lleol neu grŵp dysgu anffurfiol sy’n agored i chwaraewyr newydd.
-
Datblygu adnoddau cymunedol dwyieithog fel casgliadau alawon, tiwtorialau fideo, neu ganllawiau ar gyfer dechrau sesiynau, a’u rhoi ar waith mewn cyfres o sesiynau.
-
Cefnogi cyfarfodydd cerddoriaeth dan arweiniad y gymuned sy’n dod â phobl ynghyd i ddysgu alawon a rhannu traddodiadau.
-
Cynnig gweithdai cyflwyno mewn neuaddau neu fannau diwylliannol lleol, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddechreuwyr gymryd rhan.
​
2. Cyfleoedd ar lawr gwlad i bobl ifanc
Yr her: Tynnodd yr adolygiad sylw at ddiffyg cyfleoedd ar lawr gwlad i blant a phobl ifanc. Os yw’r rhan fwyaf o weithgarwch cerddoriaeth draddodiadol wedi’i anelu at oedolion – megis digwyddiadau gyda’r nos neu sesiynau tafarn – sut gall pobl ifanc heb brofiad blaenorol ddod ar ei draws, rhoi cynnig arni, a chymryd rhan yn rheolaidd?
​
Syniadau am brosiectau:
-
Dod â cherddoriaeth draddodiadol fyw i ysgolion drwy bartneru â lleoliad lleol neu artistiaid gwadd.
-
Defnyddio Cynllun Hyrwyddwyr Ifanc Noson Allan i gefnogi plant i drefnu eu gigs cymunedol eu hunain.
-
Cynnig sesiynau “rhowch dro ar chwarae offeryn” mewn partneriaeth â’ch gwasanaeth cerdd lleol.
-
Gweithio gydag ymarferydd creadigol i sefydlu gweithgaredd rheolaidd yn yr ysgol, fel grŵp cerddoriaeth draddodiadol ar ôl ysgol, band gwerin neu grŵp dawns.
-
Cysylltu â gŵyl leol i greu cyfle perfformio i’ch grŵp.
-
Gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod am gyfleoedd datblygu pellach, fel gwersylloedd ieuenctid ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol ​
​
3. Rhannu gwybodaeth a mentora
Yr her: Mae llawer o wybodaeth draddodiadol ym meddiant unigolion ac mae angen cefnogaeth i’w throsglwyddo.
Syniadau am brosiectau:
-
Paru deiliaid profiadol traddodiad â cherddorion newydd neu drefnwyr cymunedol i rannu repertoire a dulliau addysgu.
-
Cynnal gweithdai sy’n pontio’r cenedlaethau lle mae chwaraewyr hÅ·n ac iau yn dysgu ochr yn ochr.
-
Dogfennu a rhannu dulliau addysgu neu repertoire i eraill eu defnyddio ar ôl y prosiect.
​
4. Mynediad a bod yn weladwy
Yr her: Mae’r cyhoedd yn dal yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gerddoriaeth draddodiadol – mae gwybodaeth wedi’i gwasgaru ac mae cyfleoedd yn aml wedi’u cuddio.
Syniadau am brosiectau:
-
Datblygu canolbwynt lleol neu ar-lein sy’n cysylltu sesiynau cymunedol, clybiau alawon, adnoddau a threfnwyr a chynnal rhai sesiynau cydweithredol ar draws grwpiau.
-
Creu adnodd ar-lein sy’n rhannu alawon, straeon, neu gyfweliadau o’ch ardal.
-
Cynnal digwyddiad cymunedol agored neu ddiwrnod blasu lle gall pobl ddysgu alawon, clywed straeon, a chysylltu ag eraill sy’n ymwneud â’r traddodiad.
​
5. Cynhwysiant a chynrychiolaeth
Yr her: Mae rhai cymunedau a grwpiau diwylliannol yn teimlo eu bod wedi’u tangynrychioli yn y dirwedd gerddoriaeth draddodiadol.
​
Syniadau am brosiectau:
-
Cydweithio â cherddorion o draddodiadau amrywiol i archwilio repertoire, traddodiadau a dulliau rhannu gyda chymunedau.
-
Gweithio gyda threfnwyr lleol i wneud sesiynau’n fwy hygyrch a chroesawgar – efallai trwy gyfieithu, cymorth teithio neu ddod o hyd i leoliadau priodol – a rhoi cynnig ar y model newydd.
-
Ymchwilio a dogfennu straeon, alawon neu draddodiadau lleol o leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan eu rhannu trwy weithdai neu sesiynau cymunedol.
6. Cydweithredu ac adeiladu’r sector
Yr her: Mae’r Adolygiad yn galw am gydweithio mwy cydgysylltiedig, arweinyddiaeth gryfach, a chyfathrebu ar draws y sector.
Syniadau am brosiectau:
-
Dod â threfnwyr neu glybiau alawon rhanbarthol ynghyd i gyd-greu adnoddau neu gydgynllunio cyfarfodydd / dod ynghyd.
-
Cyd-ddatblygu hyfforddiant neu becynnau cymorth ar gyfer arweinwyr cymunedol gan ganolbwyntio ar ddulliau addysgu, hygyrchedd neu ddiogelu, a’u rhoi ar waith yn eich gwaith cyfranogol.
-
Treialu cyfnewid cymuned-i-gymuned lle mae dau grŵp yn ymweld â’i gilydd i rannu alawon, iaith a syniadau.
​
​





