Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Grantiau Loteri
TÅ· Cerdd
Lottery Grants

Cronfa Tradd
Yn cefnogi Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru 
Mae Cronfa Tradd yn gronfa newydd sbon sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gefnogi cerddorion, mudiadau a grwpiau sy’n gweithio â thraddodiadau cerddorol, o unrhyw gefndir diwylliannol, i ddatblygu eu gwaith trwy ymgysylltu ystyrlon â chymunedau.
Mae’r ffocws ar weithgarwch cymunedol a chymryd rhan, yn hytrach nag ar berfformiadau neu greu gwaith at ddibenion cyflwyno yn unig. Dylai prosiectau archwilio ffyrdd i bobl gymryd rhan, rhannu a chysylltu trwy gerddoriaeth draddodiadol mewn ffordd gydweithredol.
Caiff y gronfa ei rhedeg gan TÅ· Cerdd gydag adnoddau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan ymateb yn uniongyrchol i’r Adolygiad Cerddoriaeth Traddodiadol​​.
Dyma amcanion Cronfa Tradd:
-
Cefnogi artistiaid a chymunedau i lunio a chynnal prosiectau sy’n bwysig iddyn nhw.
-
Annog creadigrwydd, arloesi a chydweithio ar draws traddodiadau amrywiol.
-
Sicrhau bod dysgu a rhannu wrth wraidd prosiectau er mwyn i’r sector cyfan elwa.
-
Cryfhau ecosystem cerddoriaeth draddodiadol o lawr gwlad i’r proffesiynol.
​
Dyma flaenoriaethau Cronfa Tradd:
-
Cysylltu cyfranogiad ar lawr gwlad â datblygiad proffesiynol.
-
Cysylltu pobl ifanc â cherddoriaeth draddodiadol.
-
Annog prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau ac sy’n drawsddiwylliannol.
-
Cefnogi artistiaid i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy y tu hwnt i berfformio, sef cyfleoedd portffolio sy’n eu cysylltu’n uniongyrchol â chreu cerddoriaeth ar lawr gwlad.
-
Cefnogi gweithgareddau dan arweiniad y gymuned sy’n cryfhau hunaniaeth a pherthyn.
-
Ymgorffori’r Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill mewn cyd-destunau cerddoriaeth draddodiadol.
-
Hyrwyddo amrywiaeth cymunedau Cymru a chefnogi’r holl gerddoriaeth draddodiadol sy’n bresennol yng Nghymru, er mwyn i weithgarwch barhau i fod yn groesawgar, yn gynrychioliadol ac yn gysylltiedig ag ystod eang o brofiadau byw.
(Rydym yn sylweddoli na fydd y rhan fwyaf o brosiectau yn cyflawni pob un o’r blaenoriaethau hyn.)
Bydd grantiau hyd at £25,000 ar gael i gefnogi ystod eang o weithgarwch cerddoriaeth draddodiadol ledled Cymru:
-
Grantiau llai (hyd at £10,000) i gefnogi artistiaid sy’n arwain prosiectau cymunedol ar lawr gwlad.
-
Dyfarniadau mwy (£2,000–£25,000) i gefnogi partneriaethau rhwng mudiadau a cherddorion i gydweithio i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol mewn cymunedau.
​
Cefnogir derbynwyr grantiau hefyd i rannu eu dysgu a’u harferion gorau drwy gydol y rhaglen er mwyn bod yn sail i waith yn y dyfodol. Drwy’r rhannu hwn, ein nod yw olrhain effaith a gwaddol y gronfa, yn ogystal â chefnogi’r rhai a ariannwn i ddod yn rhan o rwydwaith ehangach o weithgarwch cerddoriaeth draddodiadol ledled Cymru.
Pam ydyn ni’n lansio Cronfa Tradd?
Mae Cronfa Tradd wedi’i llunio i gefnogi datblygu ecosystem cerddoriaeth draddodiadol, gan ddechrau o lawr gwlad. Bydd yn cynnig cefnogaeth hyblyg a hygyrch sy’n cryfhau’r sector cyfan ac yn ymateb yn uniongyrchol i’r anghenion a nodwyd yn Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae ymarferwyr creadigol yn ganolog i’r genhadaeth hon. Dyma drosglwyddwyr traddodiadau, yn athrawon, yn fentoriaid, ac yn hyrwyddwyr gweladwy diwylliant yng Nghymru. Pan gaiff artistiaid eu cefnogi i greu, perfformio a thyfu eu gyrfaoedd, maent yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf a bywiog. Ar yr un pryd, mae gweithgarwch ffyniannus ar lawr gwlad a chyfleoedd dysgu hygyrch yn creu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a chynulleidfaoedd.
Mae mudiadau a sefydliadau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi a darparu cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Rydym yn annog ceisiadau sydd â mudiadau ac ymarferwyr creadigol unigol yn cydweithio mewn partneriaeth.
Cynlluniwyd y gronfa i gefnogi gweithgarwch ar lawr gwlad dan arweiniad ymarferwyr creadigol, yn aml mewn partneriaeth â mudiadau a grwpiau sy’n agos at gymunedau, er mwyn cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn cerddoriaeth draddodiadol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gweithgarwch ar lefel leol sy’n cynnwys pobl ifanc ac/neu gyfnewid rhwng y cenedlaethau.
Rhannu ag eraill
Mae cydweithredu a rhannu gwybodaeth yn ganolog i’r gronfa hon. Bydd pawb sy’n derbyn cefnogaeth yn cymryd rhan mewn o leiaf un sesiwn rhannu ar-lein, gan roi cyfle i gyfnewid syniadau, adfyfyrio ar y gwaith a chyfrannu at ddatblygiad ehangach cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru.
Bydd ffurf y rhannu yn digwydd yn ôl anghenion arweinwyr y prosiectau. Bydd ein Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol yn cydlynu’r elfen hon i sicrhau ei bod yn ddefnyddiol, yn gefnogol ac yn berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei wneud.
Mae’r grant hwn hefyd yn ymwneud â chefnogi’r bobl y tu ôl i’r prosiectau. Drwy ddod ag ymarferwyr at ei gilydd, rydym yn gobeithio cryfhau cysylltiadau ledled Cymru a helpu i adeiladu cymuned a all gefnogi ei gilydd yn eu gwaith â cherddoriaeth draddodiadol.
Byddwn yn dechrau arni drwy gael digwyddiad rhannu ar-lein yn syth ar ôl y cyhoeddiad ariannu llwyddiannus, a digwyddiad rhannu ar-lein terfynol i’w drefnu ar gyfer mis Medi 2027.
Pa weithgarwch fydd Cronfa Tradd yn ei gefnogi?
Rydym eisiau bod yn hyblyg yn y mathau o brosiectau y gall unigolion a mudiadau ofyn i ni eu cefnogi.
Fodd bynnag, mae’r gronfa hon yn targedu gweithgarwch cymunedol ar lawr gwlad yn ogystal â chyfleoedd i glywed cerddoriaeth draddodiadol, cymryd rhan ynddi a’i mwynhau. Byddwn yn blaenoriaethu prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, sy’n gyfranogol, ac sydd wedi’u cynllunio i greu budd parhaol i gymunedau a’r sector cerddoriaeth draddodiadol ehangach.
Rydym yn eich gwahodd i fod mor greadigol â phosibl yn eich cynigion am brosiectau, ac i feddwl yn uchelgeisiol am yr hyn y gallai eich gwaith ei gyflawni. Rydym yn croesawu syniadau sy’n archwilio dulliau newydd ac sy’n ymateb yn ystyrlon i artistiaid, cyfranogwyr a chymunedau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n dangos ymdeimlad clir o bwrpas ar yr un pryd â pharhau i fod yn agored, yn chwilfrydig ac yn flaengar.
​
Pecyn cymorth ar gyfer llunio cais
I chi gael ysbrydoliaeth bellach ar gyfer llunio eich gweithgarwch a’ch cais, gallwch ddarllen ein PECYN CYMORTH sy’n amlinellu rhai o’r heriau y soniwyd amdanynt yn yr Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol, ynghyd â rhywfaint o syniadau i fynd i’r afael â nhw.
​​
Ffurfiau celf eraill
Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cynnwys ffurfiau celf eraill, cyn belled â bod elfen gref o gerddoriaeth draddodiadol wrth wraidd y prosiect. Gall ffurfiau celf traddodiadol eraill gynnwys chwedleua, dawns, defodau tymhorol ac ati.
Gweithio mewn ysgolion
Fel rhan o’r dull peilot hwn, mae prosiectau sy’n gweithio mewn ysgolion yn gymwys. Rhaid i weithgareddau mewn ysgolion gael eu harwain gan ymarferwyr a chanolbwyntio ar ymgysylltu creadigol yn hytrach nag ar gyflwyno’r cwricwlwm yn unig.
Cyhoeddiadau
Gall Cronfa Tradd gefnogi cyhoeddi adnoddau os ydynt yn rhan glir ond bach o brosiect cymunedol ehangach a chyfranogol. Yn y cyd-destun hwn dylai unrhyw gyhoeddiadau gael eu llunio i ehangu mynediad, rhannu gwybodaeth neu hybu lleisiau cyfranogwyr yn hytrach na bod yn rhywbeth ar wahân, annibynnol. Mae gennym ddiddordeb mewn cefnogi cyhoeddiadau sy’n gymesur o ran maint, wedi’u cynhyrchu’n feddylgar ac wedi’u cysylltu’n glir ag ymgysylltu ystyrlon a budd cymunedol.
Beth ydyn ni’n ei olygu wrth ddweud ‘cerddoriaeth draddodiadol’?
Ar gyfer y gronfa hon, rydym yn diffinio cerddoriaeth draddodiadol i fod yn rhywbeth sydd yn seiliedig ar gorff o repertoire ac ymarfer byw, a hwnnw’n cael ei rannu a’i drosglwyddo’n llafar, sef dysgu alawon, caneuon ac arddull gyffredin yn bennaf trwy wrando, efelychu a chyfranogi ar y cyd yn hytrach na thrwy ddysgu cyfundrefnol yn unig, yn seiliedig ar ffynonellau ysgrifenedig.
Mae cerddoriaeth o’r fath yn cael ei ffurfio dros amser gan gymunedau, lle a defnydd cymdeithasol, gan esblygu wrth iddo gael ei drosglwyddo o berson i berson a rhwng cenedlaethau. Er ei fod yn aml yn dibynnu ar ffynonellau ysgrifenedig a dylanwadau cyfoes, mae ei hunaniaeth graidd yn parhau i fod yn seiliedig ar gof cyfunol, gwybodaeth wedi’i hymgorffori a chyfnewid cymunedol.
Nodiadau ynghylch beth sy’n gymwys
 
-
Ni all Cronfa Tradd gefnogi gweithgarwch sydd eisoes wedi digwydd neu sydd eisoes ar y gweill, er y gallwn gefnogi newidiadau neu ychwanegiadau i weithgarwch arfaethedig pan fo hyn yn cryfhau effaith neu hygyrchedd (er enghraifft, symud prosiect i leoliad mwy hygyrch i ddiogelu’r gwaith at y dyfodol).
-
Nid yw prosiectau yn gymwys os ydynt yn canolbwyntio’n llwyr ar berfformio neu ddatblygu artistiaid. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n canolbwyntio ar greu neu gyflwyno gwaith perfformio yn unig, neu ddatblygu artistiaid sydd y tu hwnt i ymgysylltu cymunedol ystyrlon. I gael gwybodaeth am gyfleoedd eraill o fewn TÅ· Cerdd gweler ein ffrydiau ariannu’r Loteri a rhaglenni CoDI neu gweler Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer perfformio, teithio neu ddatblygiad artistig unigolion.
-
Rhaid bodloni gofynion diogelu. Rhaid i unigolion sy’n dymuno gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed bartneru â mudiad/sefydliad a all ddarparu polisïau a chefnogaeth diogelu priodol yn unol â rheoliadau Cyngor Celfyddydau Cymru. Ni ellir cefnogi prosiectau nad ydynt yn bodloni gofynion diogelu.
-
Nid yw rhai costau a mathau o weithgareddau yn gymwys, gan gynnwys cystadlaethau a chostau craidd sefydliadol sydd eisoes yn cael eu cefnogi trwy gyllid rheolaidd. Ni ellir cefnogi ceisiadau cyfalaf y tu hwnt i £2000; fodd bynnag, gallwn ariannu hyd at £2000 o dreuliau cyfalaf fel rhan o’ch prosiect.
-
I gael gwybodaeth fanylach ynghylch y pethau na ellir eu cefnogi, gweler nodiadau cyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru.
-
Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cynnwys amser gwirfoddolwyr. Gellir cynnwys amser gwirfoddolwyr fel incwm o fath arall (in-kind), fodd bynnag ni all sefydliad/mudiad na phrif ymgeisydd gynnig eu hamser eu hunain fel cefnogaeth o fath arall. Dylai ymgeiswyr ddeall ein bod am gefnogi cyflog teg i greadigwyr, yn hytrach na chael gwirfoddolwyr i gymryd lle talu am waith proffesiynol.
Pwy all ymgeisio?
Unigolion 
Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais am hyd at £10,000.
​
Gall ymgeiswyr fod yn: 
-
Ymarferwyr creadigol wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth draddodiadol Gymreig neu unrhyw ymarfer sy’n seiliedig ar gerddoriaeth draddodiadol.
-
Trefnwyr neu hyrwyddwyr llawr gwlad sy’n darparu gofodau ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol
Rhaid i ymgeiswyr ddangos yn glir sut y bydd eu prosiect o fudd i’r gymuned ehangach a sut y bydd yn cyfrannu at adael etifeddiaeth i gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Byddwn yn asesu sut mae’r gweithgaredd yn mynd y tu hwnt i’ch gweithgarwch presennol ac yn cynnig effaith ychwanegol ystyrlon. Er mai llwybr cais i unigolion yw hwn, rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddangos partneriaethau addas.
Gweler meini prawf cymhwysedd Cyngor Celfyddydau Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
​​
Mudiadau a sefydliadau  
Gall y rhain wneud cais am rhwng £2,000 a £25,000.
​
Rhaid i bob mudiad neu sefydliad sy’n gwneud cais fod yn gweithio mewn partneriaeth ag o leiaf un ymarferwr creadigol a bod â chymuned darged sydd wedi’i diffinio’n glir. Rydym am weld cydweithio llawn parch lle mae cymunedau ac ymarferwyr yn cael eu trin fel partneriaid cyfartal ac yn cael eu cynnwys yn ystyrlon mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Gall pob grŵp cyfansoddiadol wneud cais. Gweler meini prawf cymhwysedd Cyngor Celfyddydau Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Dylai ceisiadau gan fudiadau ddangos sut y bydd eu prosiect:
-
Yn esgor ar fuddion clir a pharhaol i’r gymuned berthnasol ac i’r sector cerddoriaeth draddodiadol ehangach.
-
Yn arwain at ganlyniadau amlwg megis adnoddau newydd, partneriaethau cryfach neu gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol.
-
Yn cyfrannu at waddol ystyrlon a chynaliadwy i gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. 
Pwy sydd ddim yn cael gwneud cais 
Ni allwn dderbyn ceisiadau gan y canlynol: 
-
Unigolion sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru.
-
Mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru nad ydynt yn darparu gweithgarwch yng Nghymru.
-
Unigolion sy’n gwneud cais i weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed heb gefnogaeth sefydliad neu fudiad.
-
Grwpiau anghyfansoddiadol neu grwpiau anffurfiol heb brif ymgeisydd sy’n gallu cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol am y prosiect.
-
Busnesau masnachol sydd â gwneud elw yn brif ddiben iddynt.
-
Unrhyw un sydd â chofnodion monitro neu adrodd, neu ad-daliadau, yn dal yn ddyledus yn sgil cyllid blaenorol gan Gyngor Celfyddydau Cymru neu DÅ· Cerdd.
Beth mae’n rhaid i’ch prosiect ei gynnwys
-
Rhaid i’ch prosiect gynnwys gweithio gydag eraill. Mae’r prosiectau gorau’n digwydd pan fydd partneriaid yn rhan ohonynt. Byddwn yn disgwyl eich gweld yn gweithio gydag o leiaf un unigolyn neu sefydliad/mudiad arall a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu a chynnal eich prosiect.
-
Rhaid bod terfyn amser i’ch prosiect. Mae hyn yn golygu bod ganddo ddyddiad cychwyn a gorffen pendant. Mae’n syniad da gadael rhywfaint o amser ychwanegol i chi’ch hun rhag ofn y bydd angen i chi anfon mwy o wybodaeth atom yn dilyn y dyfarniad.
-
Rhaid bod gennych gyllid arall i gyfrannu at gostau cyffredinol eich prosiect. Ni allwn gefnogi costau llawn prosiect. Rydym yn disgwyl i o leiaf 10% o incwm eich prosiect ddod o ffynhonnell nad yw’n gyllid y Loteri Genedlaethol. Gall hyn fod yn gefnogaeth o fath arall (sylwer: nid yw cyfraniadau amser staff / lleoliad yr ymgeiswyr yn gymwys fel cefnogaeth o fath arall). Dylech ddeall y bydd 10% o ddyfarniadau grant yn cael eu dal yn ôl hyd nes y cyflwynir ac y cymeradwyir yr adroddiad cwblhau ar ddiwedd eich prosiect.
-
Rhaid i chi adael digon o amser i baratoi. Byddwn yn disgwyl gweld digon o amser yn cael ei gynnwys yn eich prosiect i gyflawni’r gwaith yn effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran unrhyw waith hyrwyddo, datblygu cynulleidfa neu waith allgymorth. Bydd angen i chi ystyried yr amser y bydd ei angen arnoch i ddatblygu eich cais yn ogystal â’r amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu a gwneud penderfyniad.
Sut i ymgeisio
Rhaid gwneud cais drwy BORTH TÅ· Cerdd.
Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ychydig o wybodaeth sylfaenol ynglÅ·n â phwy ydych chi, enwau a manylion cysylltu dau gyswllt, a gwirio eich bod yn gymwys. Yna, o’r fan honno, gofynnir i chi ddisgrifio’ch prosiect: beth rydych chi am ei wneud, ar gyfer pwy y mae, y traddodiad rydych chi’n gweithio ynddo a’r artistiaid perthnasol, yn ogystal â phartneriaid rydych chi’n gweithio gyda nhw. Bydd angen i chi gynnwys datganiad byr gan eich artist(iaid) cydweithredol a dweud wrthym beth hoffech chi ei gael o’r broses rannu.
Sut yr asesir eich cais
Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu, gan banel, yn erbyn y meini prawf canlynol:
-
Ansawdd ac arloesedd y syniad
-
Pa mor ymarferol yw eich cynlluniau, gan gynnwys y partneriaethau a’r timau perthnasol sydd ar waith
-
Effaith bosibl eich gweithgaredd
-
Ystyriaeth i’r Gymraeg
-
Ystyried gan bwy y mae’r cais ac ar gyfer pwy, a sut rydych chi’n sicrhau mynediad a chynhwysiant
-
Sut mae eich prosiect yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cronfa Tradd
Fel rhan o’r broses asesu, byddwn hefyd yn edrych ar sicrhau cydbwysedd o ran mathau o weithgareddau a lledaeniad daearyddol.
Amserlen
-
Dyddiad cau derbyn y ffurflen gais yw 17:00 dydd Mercher 1af Ebrill 2026.
-
Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr am benderfyniadau’r panel o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cau (erbyn 13 Mai).
-
Gall eich prosiect ddechrau o 1af Mehefin, a rhaid iddo ddechrau dim hwyrach na 1af Awst. Gall y prosiect bara am hyd at 13 mis yn unig.





