Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
We distribute lottery funds on behalf of the Arts Council Wales / Rydym yn dosbarthu arian Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru

Tŷ Cerdd Lottery Grants
Grantiau Loteri Tŷ Cerdd
*The guidelines for these funds were updated in February 2026. Please read the information carefully.
Through Create, Engage & Inspire, Tŷ Cerdd distributes small grants (from ACW Lottery funds) to enable music-making of all kinds across Wales.
Organisations can apply for grants from £250 to £2000 to support a range of activity, from the creation of new music, to participatory work in communities, workshops, performances, and projects with young people.
The three schemes:
A fund to support the creation new music, of any genre. You may be commissioning a composer to write a new piece for your group, working collaboratively as a band to create new repertoire, hosting music-creator in residence.
From workshops, to performances, to community collaborations, Engage supports you to bring music-making to participants and communities.
With young people at its heart, Inspire funds music-making led by and with participants under 26 (or under 31 for disabled participants).
In addition to the awards made under our Cronfa Tradd Fund, additional funds from ACW are being allocated in our remaining 2026/2027 Create, Engage and Inspire rounds specially for traditional music of all kinds. We are particularly looking for applications for music activity based in Tradition to any of our existing strands. This can include Welsh music or Traditional music of any culture.
Priorities for funding
The panel will look to fund projects that provide excellent opportunities for artists / participants / audiences and that align to our Cornerstones.
In addition, the panel will look at the geographic spread and the type of organisations applying to make sure our funds are targeted as widely as possible. We will also look at need, trying to direct funds to where it will make the most difference, and a financial need is demonstrated.
Deadlines for future rounds:
29 April 2026
22 July 2026
21 October 2026
20 January 2027
The application portal closes automatically at 5pm and applications not submitted by this time will be rejected by the system.
For more information contact us on: 029 2063 5640 / lottery@tycerdd.org
or join us for a Q&A session. These will include detail on what we can and can't fund, how to complete the application form and the budget and how to navigate the application portal.
22 June 2026 - 11:30
8 July 2026 - 08:30
14 July 2026 - 16:00
▶ Eligibility guidelines & how to apply
We distribute lottery funds on behalf of the Arts Council Wales / Rydym yn dosbarthu arian Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru

Tŷ Cerdd Lottery Grants
Grantiau Loteri Tŷ Cerdd
* Sylwer ein bod wedi diweddaru’r canllawiau ar gyfer y cronfeydd hyn ers gwanwyn 2026.
Darllenwch y wybodaeth yn ofalus.*
Drwy Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli, mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu grantiau bychain (o gyllid Loteri CCC) i alluogi creu cerddoriaeth o bob math ledled Cymru.
Gall sefydliadau/mudiadau/cymdeithasau wneud cais am grantiau o £250 i £2000 i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau, o greu cerddoriaeth newydd a chael pobl mewn cymunedau i gymryd rhan, i weithdai, perfformiadau, a phrosiectau gyda phobl ifanc.
Dyma'r tri chynllun:
Cronfa i gefnogi creu cerddoriaeth newydd mewn unrhyw genre. Gallwch gomisiynu cyfansoddwr i lunio darn newydd i’ch grŵp, cydweithio fel band i greu repertoire newydd neu groesawu crëwr cerddoriaeth i fod yn artist preswyl.
O weithdai, i berfformiadau, i gydweithrediadau cymunedol, mae Ymgysylltu yn eich cefnogi i gael cyfranogwyr a chymunedau yn rhan o greu cerddoriaeth.
Pobl ifanc sy’n ganolog i’r cynllun hwn, ac mae Ysbrydoli yn ariannu creu cerddoriaeth gyda chyfranogwyr o dan 26 oed (neu o dan 31 ar gyfer cyfranogwyr anabl) ac o dan arweiniad hwy.
Yn ychwanegol at y dyfarniadau a wnaed o dan ein Cronfa Tradd, mae arian ychwanegol gan CCC yn cael ei ddyrannu yn ein rowndiau Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli sy'n weddill yn 2026/2027 yn arbennig ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol o bob math. Rydym yn chwilio'n benodol am geisiadau ar gyfer gweithgaredd cerddoriaeth yn seiliedig ar Draddodiad i unrhyw un o'n llinynnau presennol. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth Gymreig neu gerddoriaeth Draddodiadol o unrhyw ddiwylliant.
Blaenoriaethau ar gyfer ariannu
Bydd y panel am ariannu prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd rhagorol i artistiaid / cyfranogwyr / cynulleidfaoedd a phrosiectau sy’n cyd-fynd â’n Conglfeini.
Yn ogystal, bydd y panel yn ystyried lledaeniad daearyddol a’r math o sefydliadau sy’n gwneud cais er mwyn gwneud yn siŵr bod ein harian yn cael ei dargedu mor eang â phosibl. Byddwn hefyd yn ystyried angen, gan geisio cyfeirio arian i’r mannau y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, a lle dangosir bod angen ariannol.
Dyddiad(au) cau ar gyfer rowndiau nesaf:
29 Ebrill 2026
22 Gorffenaf 2026
21 Hydref 2026
20 Ionawr 2027
Mae'r porth ymgeisio yn cau'n awtomatig am 5yp a bydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl yr amser hwn yn cael eu gwrthod gan y system.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: 029 2063 5640 / lottery@tycerdd.org
neu ymunwch â ni am Sesiwn Holi ac Ateb:
22 Mehefin 2026 - 11:30
8 Gorffennaf 2026 - 08:30
14 Gorffennaf 2026 - 16:00
COFRESTRWCH AM SESIWN HOLI AC ATEB
▶ Canllawiau ar bwy sy’n gymwys a sut i ymgeisio



