Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
We distribute lottery funds on behalf of the Arts Council Wales / Rydym yn dosbarthu arian Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru

TÅ· Cerdd Lottery Grants
Grantiau Loteri TÅ· Cerdd
TÅ· Cerdd distributes Lottery funds on behalf of Arts Council of Wales, to help organisations develop music-making of all genres in communities around Wales.
Three strands – Create, Engage & Inspire – support a range of work. Your organisation can apply to one, two or even three pots at once if you have activity that fits the priorities and guidelines.
Priorities
-
To nurture new music
-
To create partnerships between artists and organisations
-
To help bring communities together
-
To inspire young people
And we’re most interested in projects that provide opportunities for individuals and communities that are under-represented or have been neglected and excluded.
A fund to support the creation of new work by composers and music-creators of any genre. Apply for up to £2,000 from Create to commission a composer, work with an artist in residence, or join forces with a music-creator to write a new piece for your group.
Funding a range of activity – from live performances to online productions, from workshops to community collaborations – Engage offers grants of between £250 and £2,000 towards activity that reaches out to audiences and communities.
With young people at its heart, Inspire can support your organisation up to the tune of £2,000 for a music project for participants aged under 26, or under 31 for disabled participants.
​Traditions
This autumn, TÅ· Cerdd is kicking off a brand new strand of activity in traditional music - with support from ACW, in response to their recent Traditional Music Review. In our remaining Lottery funding rounds of 2025/2026 additional funds are being allocated specially for traditional music of all kinds. We are particularly looking for applications for music activity based in tradition to any of our existing strands. This can include Welsh music or traditional music of any culture.
​​▶ Guidelines
​
​
â–¶ Writing a strong funding application
​
​Deadlines for future rounds:
21 January 2026
​​
The application portal closes automatically at 5pm and applications not submitted by this time will be rejected by the system.
​​
​For more information contact us on: 029 2063 5640 / lottery@tycerdd.org
​
or join us for a Q&A session. These will include detail on what we can and can't fund, how to complete the application form and the budget and how to navigate the application portal.
​
Wednesday 7 January 2026, 4pm
Thursday 8 January 2026, 10am
Tuesday 13 January, 5pm
​
​
Mae TÅ· Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae tair elfen – Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli – yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau.
Blaenoriaethau
-
Meithrin cerddoriaeth newydd
-
Creu partneriaethau rhwng artistiaid a sefydliadau
-
Helpu i ddod â chymunedau ynghyd
-
Ysbrydoli pobl ifainc
Ac mae ein diddordeb pennaf mewn prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd i unigolion a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli neu sydd wedi’u hesgeuluso a’u heithrio.
Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth mewn unrhyw genre. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gan Creu i gomisiynu cyfansoddwr, cydweithio ag artist preswyl neu ymuno â chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi darn newydd i’ch grŵp.
Gan ariannu amrywiaeth o weithgarwch – o berfformiadau byw i gynyrchiadau ar-lein, o weithdai i gydweithrediadau cymunedol – mae Ymgysylltu yn cynnig grantiau rhwng £250 a £2,000 tuag at weithgarwch sy’n ymestyn allan at gynulleidfaoedd a chymunedau.
Gyda phobl ifainc yn ganolog iddo, mae Ysbrydoli yn gallu cefnogi’ch sefydliad hyd at gyfanswm o £2,000 am brosiect cerdd i gyfranogwyr o dan 26 oed neu o dan 31 ar gyfer cyfranogwyr anabl.
​Traddodiadau
Yr hydref hwn, mae TÅ· Cerdd yn cychwyn llinyn newydd sbon o weithgarwch mewn cerddoriaeth draddodiadol - gyda chefnogaeth gan CCC, mewn ymateb i'w Hadolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol ddiweddar. Yn ein rowndiau ariannu Loteri sy'n weddill yn 2025/2026 mae arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu'n arbennig ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol o bob math. Rydym yn chwilio'n benodol am geisiadau ar gyfer gweithgaredd cerddoriaeth yn seiliedig ar draddodiad i unrhyw un o'n llinynnau presennol. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth Gymreig neu gerddoriaeth draddodiadol o unrhyw ddiwylliant.
​
​
​
â–¶ Llunio cais cryf am gyllid
​
Dyddiad(au) cau ar gyfer rowndiau nesaf:
​​
21 Ionawr 2026
​
Mae'r porth ymgeisio yn cau'n awtomatig am 5yp a bydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl yr amser hwn yn cael eu gwrthod gan y system.
​
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: 029 2063 5640 / lottery@tycerdd.org
​
neu ymunwch â ni am Sesiwn Holi ac Ateb:
​
Dydd Mercher 7 Ionawr 2026, 4yp
Dydd Iau 8 Ionawr 2026, 10yb
Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026, 5yp
​​​






