Ymgysylltu
£250 at £2,000
.png)
Engage
£250 to £2,000
Mae’r elfen hon yn ymwneud â chefnogi’ch sefydliad i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Efallai’ch bod yn cynllunio cyngerdd, neu efallai’ch bod am ymgysylltu â’ch cymuned drwy brosiect digidol; gall cyfres o weithdai roi hwb i’ch ymgyrch recriwtio neu efallai’ch bod chi eisiau cydweithio â chanolfan i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Gall grant Ymgysylltu gefnogi’ch prosiect gyda chyllid rhwng £250 a £2,000 tuag at weithgarwch sy’n ymestyn allan i gynulleidfaoedd a chymunedau.
Pethau i’w hystyried:
-
Er y gall Ymgysylltu ddarparu cyllid o hyd at £2,000, y disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o geisiadau am symiau rhwng £250 a £500.
-
Gallwch wneud cais i’r elfen hon yn ogystal â’r elfen Creu (ar yr un pryd neu’n ddiweddarach) i gefnogi’ch gwaith newydd i gyrraedd cynulleidfa. Cofiwch y bydd y panel yn awyddus i gyrraedd cymaint o gymunedau ag y bo modd drwy’r cronfeydd hyn.
-
Dylech sicrhau bod eich cais yn ateb gofynion y meini prawf a nodir yn y canllawiau.
This strand is all about supporting your organisation to engage with audiences and participants. You may be planning a concert, or perhaps you want to engage with your community through a digital project; a series of workshops may boost your recruitment drive, or you might want to partner up with a venue to reach new audiences.
An Engage grant can support your project with funds of between £250 and £2,000 towards activity that reaches out to audiences and communities.
Things to consider:
-
While Engage can provide funding of up to £2,000, we expect most applications to be for between £250 and £500.
-
You can apply to this strand in addition to the Create strand (simultaneously or at a later date) to support your new work to reach an audience. Please be mindful that the panel will have a keen eye on reaching as many communities as possible through these funds.
-
You should ensure that your application meets the criteria laid out in the guidelines.
Y dyddiad cau nesaf: 5yp 22 Ionawr 2021
Ffurflen gais ar gael 7 Ionawr 2021
Next deadline: 5pm 22 January 2021
Application form available from 7 January 2021
