top of page

Deborah Keyser

(Cyfarwyddwr / Director)

deborah.keyser@tycerdd.org      

​

Mae Deborah Keyser yn Gyfarwyddwr TÅ· Cerdd ers mis Tachwedd 2016. Ei rôl cyn hynny oedd fel Cyfarwyddwr Creu Cymru (yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau) lle bu’n gweithio gyda theatrau, perfformwyr, cynhyrchwyr a chynulleidfaoedd ar draws Cymru. 

​

Wedi’i geni a’i magu yng Nghymru, astudiodd Deborah gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac Astudiaethau Cerddorfaol ar lefel ôl-raddedig yng Ngholeg y Gofaint Aur (Prifysgol Llundain) cyn dechrau ei gyrfa’n gweithio gyda’r BBC (Radio 3 a BBC Music Magazine). Dilynwyd hyn gan gyfnod o reoli cerddorfaol a chynhyrchu operâu yn ogystal â sbel mewn asiantaeth newyddion yn Llundain cyn i Creu Cymru ei dwyn yn ôl i Gymru yn 2005. Tan 2011, roedd Deborah hefyd yn gweithio ar ddigwyddiad blaenllaw blynyddol Cymru ar gyfer cerddoriaeth gyfoes, Gŵyl Bro Morgannwg, lle mae bellach yn eistedd ar y bwrdd rheoli.

​

Ar hyn o bryd yn Llywydd Etholedig yr ISM (Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion), mae Deborah hefyd yn Ymddiriedolwr Anthem (Cronfa Gerdd Anthem Cymru), Sinfonia Cymru a Gŵyl Llanandras, ac ar Fwrdd IAMIC (Cymdeithas Ryngwladol Canolfannau Gwybodaeth Cerdd).

 

Deborah Keyser has been the Director of TÅ· Cerdd since November 2016. Her previous role was as Director of Creu Cymru (the development agency for theatres and arts centres), where she worked with theatres, performers, producers and audiences across Wales. 

​

Welsh born-and-bred, Deborah studied music at Cardiff University and postgraduate Orchestral Studies at Goldsmiths’ College (University of London), before starting her career working at the BBC (Radio 3 and BBC Music Magazine). A period in orchestral management and opera production followed, as well as a stint at a London news agency – before Creu Cymru brought her back to Wales in 2005. Until 2011, Deborah also worked on Wales’s flagship annual contemporary music event, the Vale of Glamorgan Festival, for whom she now sits on the board of management. 

​

Currently President Elect of the ISM (Incorporated Society of Musicians), Deborah is also a Trustee of Anthem Music Fund Wales, Sinfonia Cymru and the Presteigne Festival, and on the Board of IAMIC (International Association of Music Centres). 

 

English
bottom of page