top of page

WHAT IS CoDI? 

CoDI is our ongoing artist-centered creative development programme, supporting the creation and development of music in Wales. We support music-creators in and from Wales, across all genres, styles, and career stages.  

Working in partnership with artists and organisations, CoDI delivers high-quality, paid and accessible creative opportunities shaped by the needs of participants.  

OUR 2026/27 CoDI ARTIST DEVELOPMENT PROGRAMME

Rooted in the themes of experimentation, voice, and communication, the 2026/27 programme offers a welcoming space for artists to explore ideas, take creative risks, and expand their practice in new directions.

 

Open to anyone making music in Wales, CoDI provides multiple pathways and entry points for artist development, as well as progression opportunities for established music-creators. Across a diversity of backgrounds, training, genres and career stages, participants are supported to develop their skills, grow their networks, and create ambitious new work. 

Programmes range from collaborative workshops and residencies to performance and recording opportunities, spanning everything from contemporary classical, traditional music, folk, improvisation and jazz, to experimental, electronic, R&B, singer-songwriters, and cross-genre practice. Alongside this, the Interact strand offers accessible workshops, mentoring, and networking (both online and in-person), supporting artists to build sustainable careers and meaningful connections. 

We also run an artist-led record label, Sionci. Releases represent a broad range of music and artists from across Wales, sometimes platforming work created through our CoDI programme. 

Our main 2026/27 strands of activity are:

plus a partnership with the Oram Awards, coming to Wales for the first time in 2026. 

At its core, CoDI is about nurturing talent, amplifying voices, and supporting a vibrant, inclusive music scene in Wales where artists of any genre can thrive. 

WHO DO WE MEAN BY 'ARTIST', 'MUSIC-CREATOR' OR 'COMPOSER'?

We use the terms ‘artist’, ‘composer’ and ‘music-creator’ interchangeably, regardless of genre or educational background. Different terms suit different people and practices. The CoDI programme supports artists who have come through formal education and training routes, as well as those who have come to music through other routes, such as through traditional music, bands, DIY practice or other sectors like Visual, Sound or Performing Arts.  

WHAT CAREER STAGE IS THE CoDI PROGRAMME FOR?

We hope that our programme – comprising months-long development strands, one-off workshops, residentials, mentoring, one-to-ones, talks and networking events – will offer artists several points at which to access and engage with us. The strands and mentoring we offer in each year’s programme are aimed at a range of career stages, from recent graduates to early and mid-career artists, to established composers looking to sustain and expand their work.  

 

HOW IS CoDI FUNDED?  

Our 2026/27 CoDI programme is generously supported by the Arts Council of Wales (including a ringfenced figure to support traditional music artists, as part of our collaborative work to support the development of traditions in Wales) and PRS Foundation – we are proud members of the PRSF Talent Development Network. We are also active members of the Outlands Network and are one of the founding signatories on Sound & Music’s Fair Access Principles

 

DO YOU FUND ARTISTS TOO? 

Separate to our CoDI Programme, Tŷ Cerdd also distributes funding to artists and organisations on behalf of Arts Council of Wales. For information on our small funds for organisations, click HERE; for details of grants to individuals and organisations working in traditional music, click HERE

CoDI 2026 - 27 logo strip copy.png

BETH YW CoDI? 

CoDI yw ein rhaglen datblygu creadigol barhaus sy’n ffocysu ar artistiaid. Mae’r rhaglen yn cefnogi creu a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru. Rydym yn cefnogi crewyr cerddoriaeth yng Nghymru ac o Gymru, ar draws pob genre, arddull a chyfnod gyrfa.

Gan weithio mewn partneriaeth ag artistiaid a sefydliadau, mae CoDI yn darparu cyfleoedd creadigol o ansawdd uchel, hygyrch, gyda thâl sydd wedi’u llunio gan anghenion y cyfranogwyr.

EIN RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID CoDI 2026/27

Gyda themâu megis arbrofi, llais a chyfathrebu wrth wraidd rhaglen 2026/27, mae CoDi yn cynnig lle croesawgar i artistiaid archwilio syniadau, cymryd heriau creadigol, ac ehangu eu hymarfer i gyfeiriadau newydd.

Mae CoDi, sy’n agored i unrhyw un sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru, yn cynnig nifer o lwybrau a mynediadau ar gyfer datblygiad artistiaid, yn ogystal â chyfleoedd cynnydd ar gyfer crewyr cerddoriaeth sefydledig. Ar draws amrywiaeth o gefndiroedd, hyfforddiant, genres a chyfnodau gyrfa, mae cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau, tyfu eu rhwydweithiau a chreu gwaith newydd uchelgeisiol.

Mae rhaglenni’n amrywio o weithdai cydweithredol a phreswyliadau i gyfleoedd perfformio a recordio, gan rychwantu popeth – o gerddoriaeth glasurol gyfoes, traddodiadol, gwerin, byrfyfyr a jazz, i gerddoriaeth arbrofol, electronig, R&B, cantorion-cyfansoddwyr ac ymarfer traws-genre. Ochr yn ochr â hyn, mae llinyn Rhyngweithio yn cynnig gweithdai hygyrch, mentora, a rhwydweithio (ar-lein ac wyneb i wyneb), gan gefnogi artistiaid i ddatblygu gyrfeydd cynaliadwy a chysylltiadau ystyrlon.

Rydym hefyd yn cynnal label recordio dan arweiniad artistiaid, o’r enw Sionci. Mae’r gwaith sy’n cael ei ryddhau drwy Sionci yn cynrychioli ystod eang o gerddoriaeth ac artistiaid o bob cwr o Gymru, gan roi platfform o bryd i’w gilydd i waith a grëwyd drwy ein rhaglen CoDi.

Prif linynnau gweithgarwch ein rhaglen ar gyfer 2026/27 yw:

yn ogystal â phartneriaeth gyda Gwobrau Oram, sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2026.

Meithrin talent, codi lleisiau, a chefnogi sin gerddoriaeth gynhwysol a disglair yng Nghymru, lle gall artistiaid pob genre ffynnu – dyma sydd wrth wraidd CoDi. 

PWY YDYN NI'N EI GOLYGU GAN 'ARTIST', 'CRËWR-CERDDORIAETH' NEU 'GYFANSODDWR'?

Rydyn ni’n defnyddio’r termau ‘artist’, ‘cyfansoddwr’ a ‘chrëwr cerddoriaeth’ mewn ffordd ymgyfnewidiol, waeth beth fo’r genre neu gefndir addysg. Mae gwahanol dermau yn gweddu gwahanol bobl ac ymarferion. Mae rhaglen CoDI yn cefnogi artistiaid sydd wedi derbyn addysg a llwybrau hyfforddi ffurfiol, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi dod i gerddoriaeth drwy lwybrau eraill, megis cerddoriaeth draddodiadol, bandiau, ymarfer ‘DIY’ neu sectorau megis y Celfyddydau Perfformio, Gweledol neu Sain.

I BA GYFNOD GYRFA MAE RHAGLEN CoDI YN ADDAS?

Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein rhaglen – sy’n cynnwys llinynnau datblygu misoedd o hyd, gweithdai un-tro, preswyliadau, mentora, cyfarfodydd un-i-un, sgyrsiau a digwyddiadau rhwydweithio – yn cynnig sawl pwynt mynediad i artistiaid ymwneud â ni. Mae’r llinynnau a mentora yr ydym ni’n eu cynnig yn y rhaglen flynyddol wedi’u hanelu at ystod o gyfnodau gyrfa – i artistiaid ar gychwyn gyrfa, artistiaid sydd yng nghanol eu gyrfa a chyfansoddwyr sefydledig sy’n edrych i gynnal ac ehangu eu gwaith.

 

SUT MAE CoDI YN CAEL EI ARIANNU?  

Cefnogir ein rhaglen CoDi 2026/27 yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS. Rydyn ni’n aelodau balch o Rwydwaith Datblygu Talent PRSF. Rydyn ni hefyd yn aelodau gweithredol o Rwydwaith Outlands ac yn un o sylfaenwyr Sound & Music’s Fair Access Principles. Mae ein cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys ffigwr a glustnodwyd ar gyfer cefnogi artistiaid cerddoriaeth draddodiadol, fel rhan o’n gwaith cydweithredol i gefnogi datblygu traddodiadau yng Nghymru.

 

YDYCH CHI'N ARIANNU ARTISTIAID HEFYD?

Ar wahân i’n rhaglen CoDI, mae Tŷ Cerdd hefyd yn dosrannu cyllid i artistiaid a sefydliadau ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.  

 

I gael gwybodaeth ynglŷn â’n cronfeydd bychan ar gyfer sefydliadau, gweler y ddolen YMA;  am wybodaeth ynglŷn â grantiau ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n gweithio o fewn cerddoriaeth draddodiadol, gweler y ddolen YMA.

CoDI 2026 - 27 logo strip copy.png
bottom of page