top of page

CoDI Adlais: Preswyliad Llais ac Electroneg  

Yn galw ar artistiaid, artistiaid sain, a chyfansoddwyr-perfformwyr sy’n gweithio gyda llais ac electroneg ar gyfer y preswyliad byr, dwys hwn yn agos at arfordir de Cymru. 

Mae CoDI Adlais yn breswyliad tri diwrnod o hyd sy’n cynnwys gweithdai, sesiynau gwrando a rhannu arfer i artistiaid sydd eisiau ehangu eu gwaith a’u harbrofi gyda llais ac electroneg. Mae’r preswyliad yn rhan allweddol o’n rhaglen CoDI ac rydyn ni’n falch o’i gynnal yr wythnos cyn y daw Gwobrau Oram i Gymru fel rhan o Ŵyl Llais 2026, mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd.  

 

Dan arweiniad yr artistiaid Nik RawlingsMarged Siôn a Freya Dooley o Tŷ Cerdd, bydd y grŵp yn archwilio arbrofi lleisiol, perfformio ac electroneg gan ddefnyddio samplau, dulliau recordio ‘DIY’, a chaledwedd/meddalwedd. Bydd sesiynau ymarferol yn archwilio technegau perfformio, gweithio gyda geiriau, trin testun, symudiad corfforol a dulliau electroneg gofodol. Bydd y sesiynau’n cael eu llunio ar ôl dethol y cyfranogwyr, er mwyn ymateb i ymarfer aelodau’r grŵp yn ogystal ag ymarfer y rheiny sy’n cynnal y preswyliad.  

 

Cynhelir y preswyliad yn Southerndown, de Cymru, yn agos at y traeth. Cynhelir gweithdai ymarferol yn yr ardal leol. 

MAE CODI ADLAIS YN CYNNWYS:  

  • Ffi o £300 fesul artist 

  • Llety am 3 noson (gweler gwybodaeth ynglŷn â’r llety isod) 

  • Sesiwn dilynol gyda Tŷ Cerdd (dyddiad i’w gadarnhau) 

  • Byddwn yn talu costau teithio yng Nghymru. Nodwch na fydd costau teithio y tu hwnt i Gymru yn cael eu had-dalu, oherwydd amodau ariannu. 

  • Prydau ar y cyd bob dydd yn ystod y preswyliad 

  • Gwahoddiad i ddigwyddiad cymdeithasol Gwobrau Oram a gynhelir mewn cydweithrediad â Llais a Tŷ Cerdd (ganol fis Hydref) – mae mynychu’r digwyddiad yn opsiynol 

 

DYDDIADAU: Dydd Gwener 2 Hydref (bore) tan ddydd Llun 5 Hydref (bore). Bydd gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod ar gael ar gyfer holl gyfnod y preswyliad.  

 

LLEOLIAD: Bythynnod Slade, Southerndown, De Cymru 

A ALLAF WNEUD CAIS GYDA FY NGHYDWEITHREDWR?  

  • Mae 5 lle ar gael ar gyfer artistiaid unigol.  

  • Mae croeso i barau sy’n cydweithio ymgeisio hefyd, ond mae ystafelloedd / lleoedd yn gyfyngedig iawn. Os fyddwch yn gwneud cais fel pâr, gofynnwn i chi nodi ar eich cais a fyddech chi’n fodlon rhannu ystafell (gyda dau wely sengl). Mae angen i bob artist yn y pâr gyflwyno cais ar wahân.  

OFFER TECHNEGOL   

Mae hwn yn breswyliad sy’n seiliedig ar weithdai, ar gyfer arbrofi, wedi’i gynllunio i hybu rhannu arfer, cydweithio a rhoi cynnig ar bethau newydd – nid recordio ffurfiol nac amgylchedd stiwdio. Lle bo’n berthnasol ac yn ymarferol bosib, bydd disgwyl i gyfranogwyr ddod â’u hoffer eu hun gyda nhw – beth bynnag yr ydych yn ei ddefnyddio fel arfer i greu eich gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gallu rhoi benthyg darnau bach / cyffredinol o offer, ond byddai angen trafod hyn ymlaen llaw. 

CYMHWYSEDD  

Mae’r preswyliad yn agored i geisiadau gan artistiaid a chrewyr cerddoriaeth yn gweithio mewn unrhyw genre neu arddull.  

 

Mae artistiaid yn gymwys os ydynt:  

  • yn perfformio eu cerddoriaeth/cyfansoddiadau eu hunain 

  • yn creu cerddoriaeth neu gelfyddyd sain mewn unrhyw genre/arddull

  • wedi’ch lleoli yng Nghymru ers blwyddyn o leiaf, neu wedi eich geni yng Nghymru a bellach yn byw rhywle arall  

  • yn 18 oed neu'n hŷn  

  • yn gallu ymrwymo i fynychu pob gweithdy a gynhelir

  • yn gweithio gyda’r llais eisoes, neu heb ddefnyddio’u llais eu hunain yn eu gwaith hyd yma ond yn awyddus i ddechrau gwneud hynny ac/neu fagu hyder gyda’r llais 

  • yn gweithio ar hyn o bryd gyda/neu â phrofiad o electroneg (unrhyw lefel o brofiad) 

  • yn agored i arbrofi a chydweithio  

  • yn debygol o fuddio o gysylltu gyda charfan fechan, gefnogol o artistiaid eraill 

 

Nodwch: 

  • Nid yw nodiant ffurfiol yn rhan o’r llwybr hwn 

  • Mae’n bosib y byddwch eisoes yn gweithio gyda phrosesu byw ac / neu DAW (meddalwedd Digital Audio Workstation, megis Ableton neu Logic) neu ddim. 

 

Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan artistiaid sydd:  

  • heb dderbyn hyfforddiant cyfansoddi/cerddoriaeth ffurfiol, neu sydd wedi dod i gerddoriaeth drwy lwybrau ‘DIY’, gan gynnwys celfyddyd weledol neu ddisgyblaethau eraill 

  • wedi wynebu rhwystrau economaidd-cymdeithasol ac/neu systemig i gyfleoedd i ddatblygu eu hymarfer neu gerddoriaeth yn y gorffennol.  

  • yn uniaethu fel person anabl ac/neu niwrowahanol 

  • yn Ddu, Asiaidd neu’n perthyn i’r mwyafrif byd-eang 

  • yn uniaethu fel LHDTCRhA+  

  • yn ddosbarth gweithiol. 

GWYBODAETH YNGLŶN Â’R LLETY  

  • Mae’r llety yn ystafell breifat gydag ystafell ymolchi a rennir. Bydd y llety wedi rhannu ar draws dau fwthyn, un gyda 3 ystafell wely ac un gyda 5. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r llety cyn gwneud cais, e-bostiwch ymholiadau@tycerdd.org 

  • Mae croeso i barau sy’n cydweithio ymgeisio, ond mae ystafelloedd / lle yn gyfyngedig iawn. Os ydych chi’n gwneud cais fel pâr, mae angen i chi nodi hyn ar eich cais a bod yn barod i rannu ystafell (ystafell gyda dau wely sengl). Mae angen i’r ddau artist wneud cais ar wahân.  

PWY YDYM NI? 

Cynhelir y preswyliad gan yr artistiaid Marged Siôn, Nik Rawlings a Freya Dooley (Rheolwr Datblygu Artistiaid, Tŷ Cerdd). 

Marged Sion.jpg

​Wedi’i lleoli yn Ne Llundain ac yn dod yn wreiddiol o brifddinas Cymru, mae Marged Siôn, yn artist rhyngddisgyblaethol yn gweithio gyda’r llais, symudiad a pherfformiad. Mae hi’n archwilio ymarfer lleisiol ac yn cydnabod ei bŵer trawsnewidiol fel offeryn ar gyfer rhyddid cyfunol. Mae ei gwaith yn rhychwantu diwydiannau cerddoriaeth, celf, diwylliant, a’r sector addysg. Mae ei phrosiectau yn cynnwys: Radio Ballads, Orielau Serpentine (2025) Alter, Altar, Jasleen Kaur (Enillydd Gwobr Turner 2024), Theatr Cymru (2023-24), We Rise: Voice and Survivorship, Orielau Serpentine (2024), Atlantic Railton, Ain Bailey (2021) ac mae hi’n ganwr a dawnsiwr cefnogol i Self Esteem (2018-heddiw). Mae Marged yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. 

placeholder.jpg

​Mae Nik Rawlings yn uwchdenor, cyfansoddwr ac artist sy’n ymroi i archwilio gweithiau gofodol. Maen nhw’n creu gwaith sy’n ystyried profiadau o bresenoldeb rhwydweithiol, cyrff polymorffaidd a thrawsnewid lleisiol. Wedi’u lleoli rhwng cân, perfformiad ar y cyd a dawns, mae eu hymarfer yn archwilio ansawdd perthynol a gofodol cymhleth y llais trwy brosesu byw eang, canu moddol a thechnegau operatig. Mae Nik yn gyd-drefnydd Punk/t Spatial, noson berfformio ‘DIY’ newydd yn Oriel Arnolfini, Bryste. Maen nhw wedi perfformio a chyflwyno gwaith ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Bristol New Music Festival, LUMA Westbau, Sonica Festival, Pipe Factory yn Glasgow, Trinity Center Bristol, IRCAM Forum, B'Sarya Alexandria ac Amgueddfa Skissernas, Yr Aifft, Arnolfini a The Cube, Bryste; ac wedi ymddangos ar raglen Late Junction BBC 3, NTS a Noods. 

Freya Dooley square.jpg

Mae Freya Dooley yn Rheolwr Datblygu Artistiaid ar ran Tŷ Cerdd a hefyd yn artist gweledol ac yn gynllunydd sain. Darganfyddwch mwy amdano’i waith fan hyn: freyadooley.com  

SUT I WNEUD CAIS  

Uwchlwythwch y wybodaeth ganlynol i'n PORTH AR-LEIN 

​1. Manylion personol: eich enw, rhagenwau, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, ynghyd â chadarnhad eich bod dros 18 oed. 

2. Dywedwch wrthym am eich ymarfer (Uchafswm o 200 o eiriau): Disgrifiwch eich cerddoriaeth/ ymarfer a sut mae eich gwaith cyfredol yn defnyddio’r llais ac/neu electroneg. Dwedwch wrthym ni: 

  • Beth sydd gennych ddiddordeb ynddo 

  • Sut rydych chi'n creu eich gwaith 

  • Gyda phwy rydych chi'n ei greu (os unrhyw un) 

  • Os/sut rydych chi'n gweithio gyda pherfformiad 

  • Cyd-destunau cyflwyno eich gwaith/cerddoriaeth ar hyn o bryd 

3. Pam hoffech chi fod yn rhan o'r preswyliad hwn? (Uchafswm 400 gair) Dywedwch wrthym am: 

  • Yr hyn yr hoffech chi ddysgu/profi drwy’r llwybr hwn, a sut rydych chi’n gobeithio y gallai effeithio ar eich gwaith a’ch dull.  

  • Sut yr hoffech ddatblygu/ehangu ar eich ffordd o weithio gyda’r llais ac electroneg 

  • Sut y bydd gweithio gyda charfan o artistiaid o fudd i chi/eich gwaith ar y pwynt yma yn eich ymarfer.

4. Enghreifftiau o'ch gwaith: gofynnwn i chi gynnwys dolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (Nodwch: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag enquiries@tycerdd.org). Dewiswch enghreifftiau sy'n adlewyrchu eich cerddoriaeth orau nawr a/neu sy'n berthnasol i'ch dull ar gyfer y cyfle hwn.  

​5. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch i'ch galluogi i gymryd rhan yn y preswyliad hwn. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i rannu a thrafod eich atodegau mynediad a'ch gofynion gyda ni ar unrhyw adeg yn y prosiect. Ni chaiff y wybodaeth hon ei rhannu gyda'r panel. Rydyn ni, Tŷ Cerdd, yn dilyn model cymdeithasol anabledd – gan gydnabod bod rhwystrau yn bodoli mewn amgylcheddau, a strwythurau cymdeithasol, nid mewn pobl eu hunain.  

 

Ar ôl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael eu dewis ac iddynt dderbyn eu lle, bydd gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd yn cael ei rannu gyda Freya Dooley, Rheolwr Datblygu Artistiaid (Tŷ Cerdd) a gwestywr y preswyliad. Lle bo’n berthnasol ac yn angenrheidiol, a dim ond gyda’ch dealltwriaeth a’ch caniatâd chi, mae’n bosib y bydd gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd hefyd yn cael ei rannu gydag aelod/au staff Tŷ Cerdd er mwyn gwneud y trefniadau yr ydych eu hangen. Eich dewis chi bob amser yw pwy sy’n gwybod eich anghenion hygyrchedd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â hygyrchedd neu am rannu’r wybodaeth yma, e-bostiwch Deborah Keyser (deborah.keyser@tycerdd.org).  

Croesewir ceisiadau hefyd mewn fformat fideo a sain 

Recordiwch eich ymatebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 4 munud), ac uwchlwythwch ddolen i'ch recordiad, ochr yn ochr â'r wybodaeth y gofynnwyd amdano yng nghwestiynau 1, 4 a 5. Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, cysylltwch  â freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org am gefnogaeth. 

AWGRYM I YMGEISWYR

Rydyn ni am ddod i’ch adnabod chi a’ch ymarfer drwy eich cais ac enghreifftiau o’ch gwaith. Byddwch yn onest ac yn driw i’ch hunain wrth siarad am eich gwaith a’ch diddordeb yn y cyfle hwn. Nid ydym yn chwilio am atebion perffaith, na chwaith yn poeni am ba mor hir yw eich CV.  

 

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac unai drwy ffurflen ysgrifenedig neu fel fideo (gweler isod fanylion ynglŷn â sut i wneud cais). 

Byddwn yn ystyried y meini prawf canlynol: 

  • I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos agwedd greadigol gref a pherthnasol at y preswyliad. 
    Nodwch nid yw hyn yn golygu bod angen i chi wneud cais gyda syniad prosiect sefydlog; yn hytrach eich bod yn dangos i'r panel sut mae'r cyfle hwn yn berthnasol i'ch dull creadigol a chyfeiriad eich gwaith. 

  • I ba raddau y mae’r ymgeisydd yn dangos y bydd eu cerddoriaeth / ymarfer yn elwa o'r llwybr hwn nawr 

  • I ba raddau mae’r ymgeisydd yn dangos sut y byddant yn buddio o gysylltu a chydweithio gyda charfan fach o artistiaid ar fformat y preswyliad dwys 

  • Gwreiddioldeb a photensial yr enghreifftiau cerddoriaeth a ddarperir a pha mor berthnasol ydynt ar gyfer y cyfle. 

 

Os nag ydych chi’n cael eich dewis… 

 

Rydyn ni’n gweithio i’r tymor hir ar ddatblygu ein rhaglen ar gyfer ymarferion electroneg arbrofol,  ac mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y preswyliad cyntaf hwn. Cofiwch, os nag ydych chi’n cael eich dewis ar gyfer y cyfle hwn, nid yw hyn o reidrwydd yn adlewyrchiad o’n diddordeb yn eich ymarfer, a (gyda’ch caniatâd) fe hoffem ni gadw mewn cysylltiad gyda chi a dod o hyd i ffyrdd eraill i’ch cefnogi mewn ffyrdd gwahanol trwy ein rhaglenni yn y dyfodol. 

 

Rydym yn cydnabod bod ymgeisio’n cymryd llawer o egni ac amser. Os nag ydych chi’n cael eich dewis bydd adborth bob amser yn cael ei gynnig, ac yn cael ei ddarparu ar gais.  

AMSERLEN A PHROSES  

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 17 Awst, 10am. 

Penderfyniad wedi cyfathrebu i ymgeiswyr: Dydd Gwener 28 Awst, neu cyn. 

Bydd y panel yn cynnwys Deborah Keyser a Freya Dooley (ill dwy yn staff Tŷ Cerdd) a Marged Siôn (artist arweiniol).

  

Bydd adborth yn cael ei gynnig.   

Os oes gennych ddiddordeb, ond mae cwestiynau gennych... 

... gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros Zoom. E-bostiwch freya.dooley@tycerdd.org neu enquiries@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydyn ni am gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosibl, felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod ac fe wnawn ein gorau glas i ddod o hyd i ateb. 

CoDI 2026 - 27 logo strip copy.png
bottom of page