top of page

CoDI Trefnu!

Datblygwch eich arfer trefnu gyda'r mentoriaid Patrick Rimes a Paula Gardiner 

​Yn galw am gerddorion traddodiadol a jazz o Gymru. 

Mae Trefnu! Arrange! yn gyfle datblygu creadigol i chwe cherddor sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sydd am ddatblygu eu sgiliau trefnu mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol. 

Bydd y rhaglen yn dod â thri cherddor ynghyd sy'n gweithio yn bennaf mewn cerddoriaeth draddodiadol a thri sy’n gweithio yn bennaf mewn jazz, gan greu gofod unigryw lle gall cyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd, cyfnewid syniadau ac archwilio gwahanol ddulliau o drefnu ar draws genres. 

 

P'un a ydych eisoes yn trefnu'n rheolaidd neu'n rhoi cynnig ar drefnu am y tro cyntaf, mae'r llwybr hwn yn cynnig cyfle i arbrofi, datblygu sgiliau newydd ac ehangu eich ymarfer creadigol o dan arweiniad y mentoriaid profiadol Patrick Rimes a Paula Gardiner

 

Rydym yn annog ceisiadau gan gerddorion ar unrhyw gyfnod o'u gyrfa, boed ganddynt addysg gerddorol ffurfiol ai peidio. Rydym yn croesawu'r rhai sy'n gweithio trwy'r glust, trwy nodiant, yn fyrfyfyr, neu drwy unrhyw gyfuniad o'r dulliau hyn, ac yn gwahodd ceisiadau gan gerddorion sy'n gweithio yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyfranogwyr o ystod eang o gefndiroedd cerddorol a diwylliannol. 

 

Os ydych chi'n teimlo y byddai'ch ymarfer cerddorol yn elwa o amser penodedig i ddatblygu eich sgiliau trefnu ochr yn ochr â charfan o gyd-gerddorion, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. 

YNGLŶN Â'R LLWYBR 

Mae'r llwybr yma’n edrych ar drefnu yn yr ystyr ehangaf. P'un a ydych chi'n ail-ddychmygu alaw sy'n bodoli’n barod, yn creu rhannau ar gyfer ensemble, yn datblygu harmonïau, yn siapio gweadau, neu'n dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno repertoire traddodiadol neu jazz, bydd y rhaglen yn eich cefnogi i ddatblygu eich dull eich hun o drefnu. 

Bydd cyfranogwyr yn gweithio ar gyfres o ymarferion trefnu a phrosiectau creadigol, gan ddatblygu eu syniadau rhwng sesiynau a rhannu eu gwaith gyda'r mentoriaid. 

Mae'r gweithdai ar-lein wedi'u cynllunio fel mannau cefnogol a chydweithredol lle gall cerddorion archwilio technegau newydd, profi syniadau a derbyn adborth gan fentoriaid. Ochr yn ochr â gweithgareddau trefnu ymarferol, bydd sesiynau'n edrych ar ystod o bynciau gan gynnwys gwead, offeryniaeth, harmoni, ffurf, byrfyfyrio a threfnu ar gyfer ensembles. 

Trwy ein holl raglenni CoDI, rydym yn gobeithio creu mannau croesawgar i gymryd risgiau yn eich gwaith: herio eich hun, arbrofi, ac ehangu eich cerddoriaeth i gyfeiriadau newydd (ac weithiau anghyfarwydd!). 

Rhwng gweithdai, bydd cyfranogwyr yn parhau i ddatblygu eu trefniadau yn annibynnol, gyda chefnogaeth sesiynau un-i-un gyda'r mentoriaid a thîm Tŷ Cerdd. Gall y gefnogaeth hon gynnwys arweiniad creadigol, cyngor technegol, paratoi sgôr ac adborth ar waith ar y gweill. 

Wrth wneud cais, ystyriwch yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â datblygu eich gwaith rhwng sesiynau. 

BETH RYDYM YN EI OLYGU WRTH GERDDORIAETH DRADDODIADOL?
At ddibenion y llwybrau hyn, rydym yn diffinio cerddoriaeth draddodiadol fel cerddoriaeth sydd wedi’i throsglwyddo rhwng pobl a chenedlaethau drwy wrando, cyfranogi, addasu a pherfformio. Mae hyn yn cynnwys cerddoriaeth sydd wedi’i gwreiddio yn nhraddodiadau Cymru, yn ogystal â thraddodiadau a ddygwyd yma gan ddiwylliannau a chymunedau eraill, gan gydnabod bod traddodiadau’n fyw, yn esblygu’n barhaus ac yn cael eu siapio’n barhaus gan y bobl sy’n eu hymarfer heddiw.

DYDDIADAU 

Mae'r llwybr yn cynnwys dwy sesiwn wyneb yn wyneb yn Stiwdio Tŷ Cerdd, gweithdai grŵp ar-lein, a mentora un-i-un. 

 

  • Dydd Sadwrn 26 Medi 2026 – Gweithdy cyflwyniadol (ar y safle, Stiwdio Tŷ Cerdd, 10:00–17:30)  

 

  • Hydref 2026-Ionawr 2027 – Tri gweithdy grŵp ar-lein (2 awr yr un), gyda dyddiadau wedi'u cytuno rhwng y cyfranogwyr, y mentoriaid a thîm Tŷ Cerdd  

 

  • Dydd Gwener 12 Chwefror 2027 – Sesiwn rhannu olaf (ar y safle, Stiwdio Tŷ Cerdd, 10:00–17:30, mae’n bosib y bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio)  

 

Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn mentora un-i-un rhwng gweithdai. Bydd sesiynau mentora yn cael eu trefnu rhwng cyfranogwyr a'r mentoriaid ar gyfer adegau sy'n gyfleus i'r ddwy ochr.  

 

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod ar gael ar gyfer y ddau ddyddiad a gynhelir ar y safle yn Stiwdio Tŷ Cerdd cyn gwneud cais, ac y gallwch ymrwymo amser rhwng sesiynau i ddatblygu eich trefniadau. 

FFIOEDD A THREULIAU 

Bydd pob cyfansoddwr sy'n cymryd rhan yn derbyn taliad o £500 (yn ychwanegol at dreuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).

 

Nodwch, oherwydd amodau ariannu, mai dim ond costau teithio o fewn Cymru y gellir eu had-dalu. Darperir llety lle bo angen, yn unol â pholisi teithio a threuliau Tŷ Cerdd. 

PWY YDYM NI? 

image.png

Mae Tŷ Cerdd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth newydd o bob genre o Gymru. Mae artistiaid sy'n cymryd rhan yn ein llwybrau yn dod o bob genre a chefndir cerddorol, gyda neu heb hyfforddiant ffurfiol. Mae ein rhaglen CoDI 2026-27 yn dathlu arbrofi, gan annog creu cerddoriaeth uchelgeisiol, wreiddiol a wnaed yng Nghymru. 

​Patrick Rimes a Paula Gardiner yw ein mentoriaid ar gyfer y rhaglen hon.  

Paula hands.jpeg

Mae Paula Gardiner yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith fel basydd jazz a chyfansoddwraig o Gymru. Fodd bynnag, dechreuodd ei gyrfa broffesiynol fel gitarydd clasurol a chyfansoddwraig ar gyfer y theatr. Mae wedi cyfansoddi'n helaeth ar gyfer y theatr, radio a ffilm. 

Mae Paula yn galw ei hun yn ‘The Accidental Bassist’, gan mai cyfres o gyd-ddigwyddiadau a'i harweiniodd at chwarae gitâr fâs drydanol yn gyntaf mewn band Affro-Ciwbaidd, ac yna'r contrabas yng nghlwb jazz canolog Caerdydd, The Four Bars Inn, lle bu'n rhan o'r adran rhythm ar gyfer nifer fawr o artistiaid rhyngwladol gwadd. 

Yn ystod y 1990au a'r 2000au, sefydlodd Paula sawl band, gan gynnwys y Paula Gardiner Quartet, 6, The Paula Gardiner Trio, a'r band mawr anarchaidd Wales' Jazz Composers (gyda Huw Warren). Mae wedi gweithio'n rhyngwladol, gan berfformio ei cherddoriaeth ei hun yn yr Unol Daleithiau, ac yn cyfansoddi ac yn arwain prosiect mawr yng Nghymru a De Affrica ar gyfer Olympiad Diwylliannol 2012. 

Ymddeolodd Paula o'i swydd fel Pennaeth Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2023, ar ôl sefydlu'r cyrsiau presennol a chyfres AmserJazz ers ymuno â'r coleg yn 2001. Mae'n aelod gweithgar o'r Ivors Academy, Jazz Explorers Cymru a'r Jazz Promotion Network.

Patrick Rimes.jpg

Mae Patrick Rimes yn gerddor, yn gyfansoddwr, yn drefnydd ac yn addysgwr o ogledd Cymru. Cafodd ei eni a'i fagu yn Eryri, a chafodd ei brofiadau cerddorol cynnar gyda gwasanaeth cerddoriaeth William Mathias yn ogystal â dysgu cerddoriaeth draddodiadol drwy'r sîn lleol bywiog. Aeth ymlaen i astudio ffidil a fiola glasurol ym Mhrifysgol Leeds, Janáčkovo Akademie Muzických yn Brno, y Weriniaeth Tsiec a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

Fel un o sylfaenwyr Calan a VRï mae e wedi teithio'n helaeth yn y DU, Ewrop a Gogledd America, ac mae e wedi rhyddhau sawl albwm stiwdio clodwiw. Mae e wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, City of London Sinfonia a Sinfonia Cymru. 


Er iddo groesi sawl genre, mae cerddoriaeth draddodiadol bob amser wrth wraidd ei ymarfer ac fel athro mae'n mwynhau rhannu llawenydd cerddoriaeth Gymreig gyda'i fyfyrwyr, mewn digwyddiadau megis Ffidil Fawr ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

CYMHWYSEDD 

Rydych chi'n gymwys i wneud cais os ydych chi: 

  • yn creu cerddoriaeth wreiddiol  

  • wedi’ch lleoli yng Nghymru ers blwyddyn o leiaf, neu wedi eich geni yng Nghymru a bellach yn byw rhywle arall  

  • yn 18 oed neu'n hŷn  

  • yn gallu ymrwymo i fynychu pob gweithdy a gynhelir ar y safle 

 

Mae'r llwybr hwn yn croesawu ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio gyda nodiant safonol yn ogystal â'r rhai y mae eu hymarfer creadigol yn defnyddio dulliau llafar, byrfyfyr, graffig neu amgen o greu a chyfathrebu cerddoriaeth. 

Wrth wneud cais, ystyriwch hefyd yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â datblygu eich gwaith rhwng gweithdai. Bydd dyddiadau cau ar gyfer sgôr yn disgyn cyn pob sesiwn er mwyn caniatáu digon o amser paratoi i berfformwyr. 

Mae costau teithio ar gael ar gyfer teithiau yng Nghymru yn unig. 

 

Rydym yn arbennig yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd: 

  • nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol mewn cyfansoddi neu gerddoriaeth, neu sydd wedi dod at gerddoriaeth drwy lwybrau DIY (gwna dy hun), gan gynnwys y celfyddydau gweledol neu ddisgyblaethau eraill. 

  • wedi wynebu rhwystrau economaidd-gymdeithasol a/neu systemig i gyfleoedd ddatblygu eu hymarfer neu eu cerddoriaeth yn y gorffennol. 

  • yn uniaethu fel pobl anabl a/neu niwroamrywiol. 

  • yn Ddu, yn Asiaidd neu'n rhan o'r Mwyafrif Byd-eang. 

  • yn uniaethu fel LHBTC+. 

  • yn dod o gefndir dosbarth gweithiol. 

Os oes gennych ddiddordeb, ond mae ambell i gwestiwn gennych... 

... gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros Zoom. E-bostiwch neu ffoniwch i drefnu sgwrs. 

jordan.pricewilliams@tycerdd.org

SUT I WNEUD CAIS 

Uwchlwythwch y wybodaeth ganlynol i'n PORTH ar-lein 

1. Manylion personol: eich enw, rhagenwau dewisol, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, yn ogystal â chadarnhad eich bod dros 18 oed. 

2. Dywedwch wrthym am eich ymarfer (uchafswm o 200 gair): Dywedwch wrthym beth rydych chi'n hoffi ei wneud fel artist/crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono. Fel rhan o'ch ateb, dywedwch wrthym a ydych chi'n defnyddio nodiant cerddorol, a sut rydych chi'n creu eich gwaith. (Uchafswm o 200 gair) 

3. Pam oes gennych ddiddordeb yn y llwybr hwn? (uchafswm o 400 gair) 

Dywedwch wrthym: 

  • Pam yr hoffech chi ddatblygu eich sgiliau trefnu  

  • Yr hyn yr ydych yn gobeithio ei ddysgu drwy'r rhaglen  

  • Sut rydych chi'n meddwl y bydd yn dylanwadu ar eich ymarfer creadigol  

  • Unrhyw brofiad trefniant sydd gennych  

4. Enghreifftiau o'ch gwaith: gofynnwn i chi gynnwys dolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (Nodwch: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch â ymholiadau@tycerdd.org.) Dewiswch enghreifftiau sy'n adlewyrchu eich cerddoriaeth orau nawr a/neu sy'n berthnasol i'ch dull at gyfer y cyfle hwn. 

5. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu gyda ni? 

Yn Tŷ Cerdd, rydym yn dilyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai yn yr amgylcheddau a'r strwythurau cymdeithasol y mae'r rhwystrau'n bodoli, nid yn y bobl eu hunain. Rydym yn eich gwahodd i rannu manylion unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch er mwyn eich galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen breswyl/lwybr hon, ond mae hyn yn gwbl ddewisol ar y cam hwn o'ch cais. Os cynigir lle i chi ar y rhaglen, cewch hefyd gyfle i rannu a thrafod eich gofynion mynediad a'ch access rider gyda ni ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect. 

Ni fydd unrhyw wybodaeth am ofynion mynediad a ddarperir gennych ar y cam hwn yn cael ei rhannu â'r panel, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei chynnwys fel rhan o'ch cais (nodwch hyn isod os felly). 

 

Fformatau ymgeisio amgen 

Croesewir ceisiadau hefyd mewn fformat sain neu fideo. 

Recordiwch eich ymatebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 4 munud), ac uwchlwythwch ddolen i'ch recordiad, ochr yn ochr â'r wybodaeth y gofynnwyd amdano yng nghwestiynau 1, 4 a 5.  

Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, cysylltwch â jordan.pricewilliams@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org am gefnogaeth. 

MEINI PRAWF 

Bydd y panel yn asesu ceisiadau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: 

  • I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos agwedd greadigol gref a pherthnasol at y llwybr. Nodwch nid yw hyn yn golygu bod angen i chi wneud cais gyda syniad prosiect sefydlog; yn hytrach eich bod yn dangos i'r panel sut mae'r cyfle hwn yn berthnasol i'ch dull creadigol a chyfeiriad eich gwaith. 

 

  • I ba raddau y mae’r ymgeisydd yn dangos y bydd eu cerddoriaeth yn elwa o'r llwybr hwn ar hyn o bryd 

 

  • I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos sut y byddant yn elwa o agweddau mentora a charfan y llwybr hwn 

 

  • Y gwreiddioldeb, ansawdd a photensial a ddangosir yn yr enghreifftiau o gerddoriaeth yr ydych chi'n eu cyflwyno 

LLINELL AMSER A PHROSES 

 

Ceisiadau'n cau: Dydd Llun 17 Awst, 10yb. 

 

Hysbysu ymgeiswyr: ar neu cyn Dydd Gwener 28 Awst.

 

Bydd y panel dethol yn cael ei arwain gan Deborah Keyser, Jordan Price Williams gyda chefnogaeth gan Patrick Rimes a Paula Gardiner. 

 

Bydd adborth ar gael ar gais. 

CWESTIYNAU 

Os hoffech drafod y cyfle cyn gwneud cais, byddem yn hapus i drefnu sgwrs dros y ffôn neu Zoom. 

 

Cysylltwch â jordan.pricewilliams@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org.  

 

Rydyn ni am gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosibl i wneud cais, felly os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu. 

CoDI 2026 - 27 logo strip copy.png
bottom of page