top of page

Mae Bwthyn Sonig yn brosiect hirdymor gan Tŷ Cerdd sy’n galluogi crewyr cerddoriaeth sydd ag anableddau dysgu i greu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth wreiddiol.

Mae Bwthyn Sonig yn gweithio drwy ddull partneriaeth Cymru gyfan, gan weithio ar y cyd â Chanolfan Gerdd William Mathias (Caernarfon), TAPE Community Music and Film (Colwyn), Two Rhythms (Caerdydd), Gig Buddies, a’n partner Sonic Bothy o Glasgow. Y prif artistiaid yw Teifi Emerald, John Thomas, Elin Taylor a Henry Horrell, ac arweinir y prosiect gan Rosey Brown (de) a Manon Gwynant (gogledd). Dechreuodd Bwthyn Sonig fel y prosiect Cysylltu a Ffynnu a ariannwyd gan CCC, a’r crëwr cerddoriaeth Jo Thomas hefyd wedi bod yn bartner ynddo.

 

Cysylltwch â ni!

Os oes gennych ddiddordeb trafod y prosiect hwn, neu os hoffech fod yn rhan ohono, cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

DIGWYDDIADAU’R GORFFENNOL

Cynhaliom ddwy noson glwb a oedd yn gynhwysol, unigryw ac yn llawn hwyl gan ddathlu arddangos doniau o’r De a’r Gogledd ac o ledled y Deyrnas Unedig.

Cynhaliwyd noson glwb gynhwysol gyntaf Bwthyn Sonig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref 2024, gyda cherddoriaeth, dawnsio, setiau DJ a pherfformiadau byw gan fandiau, perfformiadau unigol, DJs, a’r prif act Electric Fire

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ym Mhontio, Bangor ym mis Tachwedd 2024. Roedd y noson hon yn dathlu doniau’r Gogs yn cynnwys: lansiad albwm Anarchy Wølf, sesiwn jamio ymlacedig, yn agored i bawb, cerddoriaeth gan Llŷr Griffiths, Canfod y Gân, Theatr Pobl Ifanc y Gogledd Hijinx, ac Electric Fire.

 
Cydnabyddiaeth lluniau: Iolo Penri

Mae’r fideo byr hwn (a wnaed gan Elin Taylor, un o artistiaid galluogi Bwthyn Sonig) yn dal rhywfaint o'r gweithgarwch ar-lein ac mewn-person gan Canolfan Gerdd William Mathias o gyfnod peilot y prosiect.

Bwthyn Sonig logo set copy.png
bottom of page