top of page

CoDI – Tradd Colab 

Cyfle cyflogedig i artistiaid cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00, Dydd Mercher 14 Ionawr 

Fel rhan o raglen newydd Tŷ Cerdd i gefnogi datblygiad cerddoriaeth draddodiadol, rydyn ni’n cynnal Tradd Colab – sydd yn dod ag ymarferwyr cerddoriaeth draddodiadol o unrhyw ddiwylliant ynghyd ar gyfer preswyliad cydweithio 2 ddiwrnod yn ein stiwdio yn Tŷ Cerdd. 

Byddwn yn dod â thair grŵp o dri artist at ei gilydd: bydd pob grŵp yn treulio dau ddiwrnod yn archwilio eu harfer cerddoriaeth gyda’i gilydd, ynghyd â Jordan Price Williams (Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol Tŷ Cerdd), a fydd yn hwyluso ac yn cefnogi’r gwaith. 

Bydd y Stiwdio wedi’i gosod fel ystafell recordio fyw, a byddwch yn gallu recordio cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch yn ystod y preswyliad (efallai dim byd!). Bydd y recordiad yn dal sain yr ystafell yn unig, at ddibenion archifo. 

Bydd y preswyliadau Tradd Colab yn cael eu cynnal yn ystod y dydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd) ar y dyddiadau canlynol*: 

Grŵp 1: 9fed a 10fed o Fawrth 2026 
Grŵp 2: 11eg a 12eg o Fawrth 2026 
Grŵp 3: 13eg a 14eg o Fawrth 2026 

* nodyn: mae angen i chi gadarnhau yn eich cais eich bod ar gael ar gyfer pob dyddiad

Bydd artistiaid yn cael £500 fel cyfraniad tuag at eich amser, a byddwn yn talu am deithio (y tu allan i Gaerdydd, ond o fewn Cymru) ac am lety os oes angen. 

CYMHWYSEDD 

Mae croeso i artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw draddodiad cerddorol (nid yn unig cerddoriaeth draddodiadol Gymreig).  

Mae angen i chi fod wedi byw yng Nghymru am o leiaf flwyddyn (neu rydych hefyd yn gymwys os cawsoch eich geni yng Nghymru ond yn byw mewn man arall). 

Nodyn: Ni allwn gefnogi unrhyw un sy’n astudio ar hyn o bryd ar raglen israddedig neu ôl-raddedig. 

Bydd teithio artistiaid o fewn Cymru (y tu allan i Gaerdydd) yn cael ei dalu. Sylwch na fydd teithio y tu allan i Gymru yn cael ei dalu. Os oes angen llety arnoch, byddwn yn ei dalu hefyd. 

Rydym yn cydnabod bod llawer o artistiaid yn parhau i wynebu rhwystrau systemig o fewn y diwydiant cerddoriaeth. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn drwy ein gwaith, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi wynebu rhwystrau yn sectorau’r celfyddydau/cerddoriaeth. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl Dduon, Asiaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol is neu sydd â rhwystrau economaidd-gymdeithasol parhaus i’w gwaith creadigol. 

Rydym yn awyddus i wneud y broses ymgeisio mor syml â phosib, felly rydym yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi amdano’r rhaglen neu sut i ymgeisio. Os hoffech chi drefnu sgwrs ynglŷn â’ch cais neu i drefnu cymorth mynediad cysylltwch â Jordan Price Williams.  Rydym hefyd yn gwahodd y crewyr cerddoriaeth rydym yn gweithio gyda i rannu a thrafod anghenion mynediad (‘access riders’) ar unrhyw gam yn y prosiect.  

 

Rydym yn bartneriaid ac yn lofnodwyr balch o Egwyddorion Mynediad Teg. Mwy o wybodaeth am hyn a’n Conglfeini yma

FFORMATIAU CAIS 

Caiff ceisiadau ysgrifenedig eu cyflwyno drwy Airtable. 

Croesawn hefyd geisiadau sain a fideo. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, e-bostiwch Jordan Price Williams neu enquiries@tycerdd.org am gymorth. 

Iaith Gymraeg: Bydd gweithdai’n cael eu cynnal yn ddwyieithog, ac mae croeso i gyfranogwyr ble bynnag y bônt ar eu taith gyda'r iaith Gymraeg 

Os oes gennych ddiddordeb ond rhai cwestiynau... 

...gallwn siarad â chi dros y ffôn neu ar Zoom. E-bostiwch Jordan Price Williams neu ymholiadau@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydyn ni eisiau dileu cymaint o rwystrau ag y gallwn – felly os oes rhywbeth yr hoffech sôn amdano, gadewch i ni wybod a byddwn yn ceisio eich helpu. 

SUT I WNEUD CAIS... 

...uwchlwythwch yr wybodaeth ganlynol i’n PORTH. Croesawn geisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. 

1. Manylion personol: 

Eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed. 
Rhowch hefyd eich gwefan a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol (os yn berthnasol). 

2. Dywedwch wrthym am eich ymarfer (Uchafswm 350 o eiriau) 

Dywedwch wrthym am eich ymarfer fel cerddor traddodiadol a beth rydych fwyaf balch ohono. 
Cofiwch ddweud wrthym am y traddodiad rydych yn canolbwyntio arno. 

3. Pam hoffech gymryd rhan yn Tradd Colab? (Uchafswm 250 o eiriau) 

Dywedwch wrthym sut byddai hyn yn adeiladu ar eich profiad blaenorol a beth rydych yn gobeithio fydd yn newid neu’n datblygu yn eich cerddoriaeth drwy gymryd rhan. 
Beth yw eich meddyliau am gydweithio ag artistiaid eraill – o bosibl rhywun o draddodiad gwahanol? 

4. Enghreifftiau o’ch gwaith: rhowch ddwy ddolen i’ch cerddoriaeth 

Rhowch ddolenni i draciau unigol (nid albymau). 
Anogwn chi i rannu enghreifftiau sy’n dangos eich gwaith cryfaf ac, os yn bosib, sy’n gysylltiedig â’ch dull ar gyfer y prosiect hwn. 
Ar gyfer sain: anfonwch ddolenni, nid ffeiliau. Gall y rhain fod ar SoundCloud, Spotify, YouTube, ac ati. Os oes angen help, cysylltwch â Jordan Price Williams. 
Rydym hefyd yn hapus i dderbyn recordiadau ffôn neu fideos cyfryngau cymdeithasol – gall hyn fod mor syml â boed. Gallwn ni ddim yn derbyn dolenni WeTransfer, ond pob platfform arall, sydd ddim yn defnyddio ddolenni sydd yn dod i ben, yn dderbyniol.  

5. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad? 

Cyfle dewisol yw hwn i ddweud wrthym am unrhyw gymorth / amodau sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan. Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â’r panel. 

CEISIADAU SAIN A FIDEO 

1. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (Uchafswm 5 munud). 

Uwchlwythwch ddolen i’r recordiad, gan ychwanegu eich Manylion Personol (C1) a’r ddwy ddolen i’ch gwaith (C4). 
Os oes angen cymorth i greu dolen, e-bostiwch
ymholiadau@tycerdd.org 

DEWIS A’R PANEL 

Bydd y panel yn cynnwys: 

  • Jordan Price Williams, Rheolwr Datglygu Cerddoriaeth Draddodiadol, Tŷ Cerdd 

  • Deborah Keyser, Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd 

  • Aelod arall o’r panel i'w benodi 

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol: 

  • Pa mor glir y mae ymgeiswyr yn cyfathrebu eu harfer a pherthnasedd eu gwaith/uchelgais i’r cyfle (C2) 

  • Ar sail eu hatebion i C3 

  • I ba raddau mae’r ymgeisydd yn esbonio sut byddai’r cyfle’n gwella eu harfer yn y tymor byr a’r hir (C2 & C3) 

  • Effaith y cyfle ar ddatblygiad personol, proffesiynol ac artistig yr ymgeisydd (C3) 

Enghreifftiau cerddoriaeth: 
I ba raddau mae’r enghreifftiau a ddarparwyd yn dangos potensial, ansawdd ac arloesedd 

Adborth: 
Byddwn yn rhoi adborth i bob ymgeisydd sy’n gofyn amdano. 

 

AMSERLEN A’R BROSES DDEWIS 

Dyddiad cau: 10:00 Dydd Mercher 14 Ionawr 
Bydd y panel yn cyfarfod yn fuan ar ôl y dyddiad cau. 
Byddwn yn cysylltu â chi erbyn wythnos yn dechrau Dydd Llun 26 Ionawr. 

bottom of page